Prosiectau'r Bobl - Hysbysiad Preifatrwydd

Prosiectau'r Bobl - Hysbysiad Preifatrwydd

Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn egluro pa ddata personol a gesglir gan y Gronfa trwy ein gweithgareddau gwneud grantiau o dan raglen Prosiectau’r Bobl a sut a pham rydym ni’n defnyddio’r data hwn.

Mae’r rhaglen Prosiectau’r Bobl yn rhoi’r cyfle i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol a’r cyhoedd leisio eu barn am sut y defnyddir arian y Loteri Genedlaethol ac mae’n cefnogi prosiectau sy’n dod â phobl ynghyd i adeiladu cymunedau cryfach, mwy cysylltiedig.

Mae’r sefydliadau canlynol yn gweithio ar Brosiectau’r Bobl:

  • Y Gronfa Loteri Fawr sy’n gweithredu fel Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol (y 'Gronfa')
  • ITV Broadcasting Limited ('ITV')
  • UTV Limited ('UTV')
  • the Sunday Mail Scotland ('SMS') a
  • Camelot UK Lotteries Limited ('Camelot').

I ddeall sut mae’r sefydliadau hyn yn prosesu eich data, gweler eu hysbysiadau preifatrwydd priodol.

O dan y gyfraith diogelu data, nid oes angen eich caniatâd ar y Gronfa er mwyn prosesu eich data personol pan fydd hi er budd y cyhoedd i wneud hynny. Byddwn ni ond yn prosesu cyn lleied o ddata personol sydd ei angen at y diben hwn, a dylai unrhyw ddata ychwanegol i’w brosesu nodi’r sail ychwanegol i’w dibynnu arni yn ogystal ag unrhyw rwymedigaethau neu oblygiadau am beidio â darparu’r data ychwanegol.

Pwy ydym ni

Y Gronfa yw’r Rheolydd Data ar gyfer y wybodaeth a ddelir amdanoch at y dibenion a nodir yn yr hysbysiad hwn.

Manylion cyswllt y Gronfa yw:

The National Lottery Community Fund,
Apex House,
3 Embassy Drive,
Birmingham,
B15 1TR.

Gellir cysylltu â Swyddog Diogelu Data’r Gronfa ar y cyfeiriad uchod neu drwy anfon e-bost at diogelu.data@cronfagymunedolylg.org.uk.

Fel Awdurdod Cyhoeddus, nid oes gan y Gronfa gynrychiolydd mewn unrhyw aelod-wladwriaeth o’r Ardal Economaidd Ewropeaidd.

Sut fydd gwybodaeth amdanoch yn cael ei defnyddio

Yn ystod y cam ymgeisio, y data personol a brosesir gennym yw manylion unigolyn cyfreithiol gyfrifol yn eich sefydliad. Mae hyn yn cynnwys:

  • enw
  • dyddiad geni
  • cyfeiriad cartref
  • cyfeiriad e-bost a
  • rhif ffôn.

Prosesir y wybodaeth hon gan y Gronfa i gynnal gwiriadau sefydliadol at ddibenion gwneud grantiau. Byddwn ni hefyd yn cadw manylion cyswllt (enw, rhif ffôn, cyfeiriad e-bost) dau unigolyn yn eich sefydliad er mwyn cadw cyswllt â nhw yn ystod y rhaglen.

Bydd y Gronfa’n defnyddio’r holl ddata a gesglir yn ystod y cam ymgeisio at ddibenion cynnal y rhaglen a bydd y data’n cael ei gadw er mwyn:

  • goruchwylio
  • archwilio
  • dibenion sicrwydd
  • atal twyll ac
  • i sicrhau bod yr arian wedi cael ei wario’n unol â rheoliadau a dibenion y rhaglen.

Mae’n bosibl y bydd y Gronfa’n defnyddio gwybodaeth amdanoch sydd ar gael yn gyhoeddus at ddibenion asesu unrhyw risgiau i gyllid cyhoeddus wrth ddyfarnu grant i’ch sefydliad.

Dibenion prosesu

Corff cyhoeddus yw’r Gronfa gyda dyletswydd statudol i ddosbarthu cyllid y Loteri Genedlaethol a chyllid arall i achosion da. Rydym ni’n prosesu eich data personol fel rhan hanfodol o weithredu’r awdurdod swyddogol hwn a roddwyd i ni.

Er enghraifft, gallem:

  • ddefnyddio eich data personol i helpu’ch sefydliad i ymgeisio am grant o dan raglen Prosiectau’r Bobl ac asesu ei cheisiadau a
  • chynnal gwiriadau ar eich data personol fel y disgrifir yn yr hysbysiad hwn.

Os yw grant yn cael ei ddyfarnu, rydym ni’n defnyddio eich data personol i:

  • reoli a monitro’r grant a
  • gwirio bod yr arian yn cael ei ddefnyddio’n briodol.

Os na fyddwch chi’n darparu’r data personol hwn, mae’n bosibl na fyddwn ni’n gallu prosesu eich cais neu ddyfarnu grant i’ch sefydliad.

Mae’n bosibl hefyd y byddwn ni’n defnyddio eich data personol i werthuso ac ymchwilio i effaith rhaglen Prosiectau’r Bobl a rhoi gwybod i chi am ein grantiau a gweithgareddau eraill. Efallai bydd canlyniadau ein gwerthusiadau a’n hymchwil yn cael eu cyhoeddi ond ni fyddwn ni’n cyhoeddi eich data personol heb eich cytundeb.

Ni fyddwn ni’n casglu nac yn defnyddio data personol at ddibenion y tu hwnt i’n dyletswyddau statudol oni bai pan fo gennym ni eich cydsyniad neu wedi’ch hysbysu am y sail gyfreithiol berthnasol dros brosesu.

Y sail gyfreithiol dros brosesu eich data

Mae’r Gronfa’n dibynnu ar dasg er budd y cyhoedd, yn unol ag Erthygl 6(1)(e) Rheoliad Cyffredinol dros Ddiogelu Data’r DU, i brosesu eich:

  • enw
  • dyddiad geni
  • cyfeiriad cartref
  • cyfeiriad e-bost a’ch
  • rhif ffôn.

Derbynwyr neu gategorïau derbynwyr y data personol os o gwbl (Erthygl 13(1)(e))

Mae’n bosibl y byddwn ni’n rhannu eich data personol gyda sefydliadau sy’n ein helpu i gynnal ein gweithgareddau gwneud grantiau o dan raglen Prosiectau’r Bobl. Er enghraifft, gallem rannu data personol gyda sefydliadau i helpu gwerthuso effaith rhaglen Prosiectau’r Bobl ar gymunedau. Mewn achos o’r fath, byddwn ni ond yn rhannu’r data personol sydd ei angen er mwyn gwneud y gwaith y byddwn ni’n gwneud hynny’n unol â mesurau diogelwch priodol a ddylunnir i sicrhau bod eich data personol yn ddiogel ac yn cael ei ddefnyddio at y diben a fwriedir yn unig.

Os yw eich prosiect wedi cael ei ddewis i’w ystyried ar gyfer y bleidlais gyhoeddus o dan raglen Prosiectau’r Bobl, byddwn ni’n cysylltu â chi i gasglu eich caniatâd i rannu eich data personol gydag ITV, UTV, SMS, Camelot ac unrhyw bartïon eraill, sydd wedi’u comisiynu neu eu caffael i gefnogi darpariaeth y rhaglen, er enghraifft hyfforddwyr cyfryngau (fel sy’n briodol). Bydd y partïon hyn yn defnyddio’r wybodaeth hon i gysylltu â’ch sefydliad at ddibenion hyfforddiant cyfryngau, ffilmio a/neu hyrwyddo eich prosiect.

Bydd y data personol y mae’r Gronfa’n ei gasglu gennych yn cael ei rannu ag asiantaethau atal twyll a fydd yn ei ddefnyddio i atal twyll a gwyngalchu arian ac i ddilysu eich hunaniaeth. Os yw twyll yn cael ei ganfod, mae’n bosibl y bydd rhai gwasanaethau, cyllid neu gyflogaeth yn cael eu gwrthod i chi. I gael manylion pellach am sut fydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol a’r asiantaethau atal twyll hyn, ac am eich hawliau diogelu data, anfonwch e-bost at diogelu.data@cronfagymunedolylg.org.uk.

Ni fydd eich data personol yn cael ei anfon dramor ac ni fydd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer gwneud penderfyniadau awtomatig.

Cadw data

Bydd eich data personol yn cael ei gadw am 7 mlynedd os yw eich cais am grant gan y rhaglen yn llwyddiannus. Os nad yw eich cais yn llwyddiannus, bydd eich data’n cael ei gadw am 2 flynedd.

Cedwir y data yn y DU.

Eich Hawliau

Mae’r hawl gennych i wybod pa ddata personol y mae’r Gronfa’n ei brosesu amdanoch. Os hoffech chi gaffael y data, neu os hoffech chi arfer unrhyw un o’ch hawliau eraill am brosesu’r data, gallwch gysylltu â Swyddog Diogelu Data’r Gronfa – gellir cysylltu â Swyddog Diogelu Data’r Gronfa ar y cyfeiriad uchod neu drwy anfon e-bost at diogelu.data@cronfagymunedolylg.org.uk.

Mae gennych chi’r hawl i:

  • gywiro eich data personol os yw’n anghywir neu’n anghyflawn a
  • gwrthwynebu prosesu eich data (sy’n cynnwys storio) er budd y cyhoedd. Gallai’r hawl hon fod yn gyfyngedig os yw’r Gronfa’n gallu dangos seiliau cyfreithiol cymhellol dros barhau i brosesu’r data.

Gallwch hefyd ofyn i brosesu eich data personol gael ei gyfyngu arno:

  • os yw’n anghywir
  • os yw’n anghyfreithlon ond na hoffech chi ei ddileu
  • os mae’n bryd iddo gael ei ddileu ond mae angen i chi ei gadw oherwydd hawliad cyfreithiol neu
  • os ydych wedi gwrthwynebu i brosesu’r data ac rydych chi’n aros am benderfyniad am y gwrthwynebiad.

I gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau, gallwch gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef yr awdurdod goruchwyliol ar gyfer y Deyrnas Unedig. Dyma’r manylion cyswllt:

Mae gennych chi’r hawl i wrthwynebu i brosesu eich data at y diben hwn, ond gallai hyn fod yn gyfyngedig lle mae rheolydd yn gallu dangos seiliau cyfreithiol cymhellol i barhau i brosesu.