Sut i ddewis y rhanbarth ITV neu’r partner cywir ar gyfer Prosiectau’r Bobl

Sut i ddewis y rhanbarth ITV neu’r partner cywir ar gyfer Prosiectau’r Bobl

Os yw eich cais i Brosiectau’r Bobl yn cyrraedd ein rhestr fer, byddwch chi’n gweithio gydag un o’n partneriaid cyfryngau.

Byddan nhw’n helpu hyrwyddo eich prosiect trwy ei drafod ar y teledu (neu yn y papur newydd ar gyfer rhai prosiectau yn Yr Alban). Byddan nhw hefyd yn annog pobl leol i gymryd rhan yn y bleidlais gyhoeddus i benderfynu pa brosiectau sy’n ennill hyd at £70,000.

Rydym ni’n gweithio gydag UTV yng Ngogledd Iwerddon, ac ITV yn Lloegr, Cymru a rhannau o dde’r Alban. Rydym ni’n gweithio gyda’r Sunday Mail yng ngweddill yr Alban.

Mae angen i chi ddweud wrthym pa un o’r partneriaid hyn sy’n gweithio yn eich ardal.

Os yw eich prosiect yn:

Lloegr neu Gymru

  • Dewiswch y rhanbarth newyddion ITV rydych chi’n ei dderbyn

Gogledd Iwerddon

  • Dewiswch UTV

Rhannau o’r Alban sy’n derbyn ITV Borders

megis Dumfries a Galloway neu Ororau’r Alban

  • Dewiswch naill ai ITV Borders neu’r Sunday Mail
    • Gallwch ddewis y naill un
    • Byddan nhw’n hyrwyddo eich prosiect ac yn hysbysebu’r bleidlais gyhoeddus – felly meddyliwch am ba un o’r rhain y gall y rhan fwyaf o’r bobl yn eich ardal ei gyrchu

Unrhyw ran arall o’r Alban

  • Dewiswch The Sunday Mail.

Pa ranbarth newyddion ITV y dylech ei ddewis

Dewiswch y rhanbarth newyddion ITV y mae gennych chi a’r bobl a fydd yn cymryd rhan yn eich prosiect y mynediad gorau iddo.

Os yw eich cais yn cyrraedd y rhestr fer, bydd eich prosiect yn ymddangos ar eich newyddion ITV lleol i ennill cefnogaeth eich cymuned leol. Felly byddwch chi eisiau cymaint o bobl leol â phosibl i weld neu glywed hyn.

Mewn rhai lleoliadau, efallai na fydd rhanbarth y newyddion ITV gorau i’w ddewis yn eglur. Er enghraifft, efallai bydd ardaloedd cyfagos yn derbyn signalau teledu gwahanol. Gallech ofyn i’r bobl sy’n cymryd rhan yn eich prosiect pa newyddion ITV rhanbarthol y maen nhw’n ei weld.

Os ydych chi yn Lloegr neu Gymru ac yn ansicr ym mha ranbarth newyddion ITV ydych chi, bydd y tabl canlynol yn rhoi rhywfaint o arweiniad i chi.

Rhanbarth ITV Ardaloedd bras sydd wedi’u cynnwys ar gyfer teledu digidol safonol

ITV Anglia (East)

Norfolk, Suffolk, gogledd a dwyrain Essex

ITV Anglia (West)

Swydd Gaergrawnt, y rhan fwyaf o Swydd Northampton, Swydd Bedford, gogledd ddwyrain Swydd Hertford a gogledd ddwyrain Swydd Buckingham

ITV Border (England)

Canolbarth a gogledd Cumbria

ITV Border (Scotland)

Dumfries a Galloway a Gororau’r Alban

ITV Central (East Midlands)

Swydd Gaerlŷr, canolbarth a de Swydd Derby, de Swydd Nottingham, Rutland a de orllewin Swydd Lincoln

ITV Central (West Midlands)

Swydd Henffordd, Swydd Amwythig, Swydd Stafford, Swydd Warwick, Gorllewin Canolbarth Lloegr, Swydd Gaerwrangon a gogledd Swydd Gaerloyw

ITV Granada

Swydd Gaer, Manceinion Fwyaf, Swydd Gaerhirfryn, Glannau Mersi, gogledd orllewin swydd Derby, arfordir deheuol Cumbria, gorllewin Gogledd Swydd Efrog ac Ynys Manaw

ITV London

Llundain Fwyaf, de a gorllewin Essex, de orllewin Caint, Surrey, dwyrain Berkshire, de Swydd Buckingham, a’r rhan fwyaf o Swydd Hertford

ITV Meridian (East)

Caint (heblaw am y gogledd orllewin) a Dwyrain Sussex (heblaw am y de orllewin)

ITV Meridian (West)

Canolbarth a de Hampshire, Gorllewin Sussex, Ynys Wyth, canolbarth a dwyrain Dorset, de ddwyrain Wiltshire a de orllewin Dwyrain Sussex

ITV Meridian (Thames Valley)

Swydd Rydychen, canolbarth a gogledd orllewin Swydd Buckingham, gorllewin Berkshire, gogledd Hampshire, dwyrain Swydd Gaerloyw a de orllewin Swydd Northampton

ITV Tyne Tees

Sir Durham, Northumberland, Teesside, Tyne a Wear a gogledd Gogledd Swydd Efrog

ITV Cymru Wales

Cymru

ITV West Country (West)

Bryste, de Swydd Gaerloyw, y rhan fwyaf o Wiltshire, ffiniau gogleddol Dorset a Gwlad yr Haf

ITV West Country (South West)

Dyfnaint, Cernyw a gorllewin Dorset

ITV Yorkshire (South)

Riding Dwyreiniol Swydd Efrog, y rhan fwyaf o Swydd Lincoln, canolbarth Swydd Nottingham a gogledd ddwyrain Swydd Derby

ITV Yorkshire (North)

De Swydd Efrog, Gorllewin Swydd Efrog, canolbarth a de Swydd Efrog a gogledd swydd Nottingham

Sut i sicrhau eich bod chi’n dewis y rhanbarth newyddion ITV cywir

Gallwch ddod o hyd i ba ranbarth ITV rydych chi ynddo trwy wirio’r cefndir y tu ôl i’r cyflwynwyr ar newyddion ITV. Mae’r newyddion ar y sianel ITV bob dydd am 6pm. I gadarnhau eich rhanbarth, gallwch ddefnyddio ein canllaw lluniau i gefndiroedd newyddion ITV rhanbarthol.

Eich cyfrifoldeb chi yw dewis y rhanbarth newyddion ITV ar gyfer eich prosiect. Ni all Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ac ITV wneud hyn ar eich rhan.