Cronfa Gweithredu Hinsawdd - rownd 2

YMCA East Surrey

Mae’r rhaglen hwn bellach ar gau ar gyfer ceisiadau.

Mae'r Gronfa Gweithredu Hinsawdd yn cefnogi cymunedau ledled y DU i weithredu ar newid hinsawdd. Bydd y cymunedau hyn yn dangos beth sy'n bosibl pan fydd pobl yn arwain yn y gwaith hwn. Gydag arian y Loteri Genedlaethol, byddant yn gweithio gyda'i gilydd, yn rhannu eu dysgu ac yn cymryd rhan weithredol mewn symudiad ehangach o newid.

Mae'r Gronfa Gweithredu Hinsawdd yn rhan o Strategaeth Amgylcheddol Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Ers mis Ebrill 2013, mae'r Gronfa wedi dyfarnu mwy na £450 miliwn, drwy dros 7,500 o grantiau, i brosiectau sy'n canolbwyntio ar wella'r amgylchedd er mwyn gwella bywydau cymunedau a phobl.

Yn 2020, dyfarnwyd grantiau i 23 o brosiectau ledled y DU fel rhan o rownd gyntaf y rhaglen Cronfa Gweithredu Hinsawdd, gan gefnogi cymunedau i ymateb i'r argyfwng hinsawdd.

Bydd yr ail rownd yn canolbwyntio ae gefnogi prosiectau ar raddfa ganolig i fawr sy’n mynd i’r afael â gwastraff a defnydd. Rydym yn parhau i ganolbwyntio ar bartneriaethau sy’n seiliedig ar le ac sydd wedi ei harwain gan y gymuned. Bydd y partneriaethau yn gwneud y gwahaniaethau y mae nhw’n credu y bydd yn cael yr effaith fwyaf ar newid yn yr hinsawdd yn eu cymuned.

Yn ystod y cam ymgeisio cychwynnol hwn, mae gennym ddiddordeb mewn clywed am eich prosiect, y weledigaeth a'r nodau hirdymor, a sut mae eich cymuned wedi bod yn rhan o'r gwaith o lunio a phenderfynu beth fyddwch chi'n ei wneud. Dylai'r cais hwn ddod oddi wrth un partner arweiniol, a ddylai fod yn un o'r mathau cymwys o sefydliadau a restrir yn 'Pwy all ac na all wneud cais'.

Gyda pandemig COVID-19 yn dal gyda ni, byddwn yn parhau i weithio'n hyblyg. Bydd angen i hyn hefyd fod yr un fath ar gyfer prosiectau wrth addasu i unrhyw ganllawiau neu gyfyngiadau newydd.

Ardal
Ledled y DU
Yn addas ar gyfer
Partneriaethau a arweinir gan y gymuned
Cyfanswm ar gael
Mae tua £8 miliwn i £10 miliwn ar gael ar gyfer yr ail rownd ariannu hon. Rydym yn cynnig dau fath o grant yn y rownd hon - grant datblygu a dyfarniadau llawn. Uchafswm maint y grant ar gyfer grant datblygu yw £150,000. Ar gyfer dyfarniadau llawn, yr uchafswm sydd ar gael yw £1.5 miliwn. Disgwyliwn wneud cyfanswm o 12 i 15 o ddyfarniadau yn y rownd hwn, a dyfarnu mwy o grantiau datblygu na dyfarniadau llawn.
Terfyn amser ymgeisio

5yh 8 Ebrill 2021 am eich syniad cychwynnol. Os byddwch yn cyrraedd y cam nesaf, disgwyliwn i weddill y broses ymgeisio gymryd chwech i wyth mis.

Sut i ymgeisio

Mae’r rhaglen hwn bellach ar gau ar gyfer ceisiadau.

Beth sy'n digwydd ar ôl i chi ymgeisio

  1. Rydych yn anfon eich cais atom – byddwn yn asesu eich cais yn erbyn y meini prawf yn 'Beth rydym yn gobeithio ei ariannu' a 'Phwy all ac na all wneud cais'. Disgwyliwn dderbyn mwy o geisiadau nag y gallwn eu hariannu, felly bydd yn rhaid inni wneud rhai penderfyniadau anodd ynghylch pa brosiectau a wahoddir i'r cam nesaf.

  2. Byddwn yn gwneud rhai penderfyniadau cynnar am y ceisiadau sy'n bodloni'r meini prawf orau yn 'Yr hyn rydym yn gobeithio ei ariannu' a 'Phwy all ac na all wneud cais'.
  3. Os cewch eich gwahodd i'r cam nesaf, byddwn yn gofyn am ragor o wybodaeth am eich prosiect – byddwn yn cysylltu â chi i drafod eich cais yn fanylach. Byddwn hefyd yn anfon ffurflen fer atoch yn gofyn am fwy o fanylion am eich sefydliad, eich partneriaid a chyllideb fanylach. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth ar y ffurflen hon i ddiweddaru ein cofnodion a chwblhau rhai gwiriadau diogelwch. (Dysgwch fwy am y gwiriadau a wnawn.) Byddwn yn trefnu sgwrs gyda chi. Byddwn hefyd am sgwrsio â'ch partneriaid. Os nad ydych yn siŵr faint rydych am wneud cais amdano, gallwn hefyd drafod hyn gyda chi.
  4. Byddwch yn datblygu eich cynnig – rydym yn disgwyl y bydd hyn yn debygol o gymryd hyd at dri mis. Yn ystod y cyfnod hwn, byddwn yn siarad â chi'n rheolaidd ac yn trafod rhagor o wybodaeth sydd ei hangen arnom gennych i helpu i wneud penderfyniad.
  5. Byddwn yn gwneud penderfyniad – bydd eich cais yn cael ei ystyried gan banel penderfynu ein Cronfa Gweithredu Hinsawdd yn hydref 2021.
  6. Os bydd eich cais yn llwyddiannus – byddwn yn cysylltu â chi gyda'r newyddion da! Unwaith y byddwch wedi derbyn grant gennym ni, dyma beth i'w ddisgwyl. Bydd y dudalen hon hefyd yn rhoi gwybod i chi am y pethau y mae angen i chi eu gwneud.

Byddwn hefyd yn trafod sut y gallwn eich cefnogi i:

  • ddathlu a hyrwyddo eich grant
  • ymgysylltu â'r gymuned ehangach
  • rhannu eich dysgu ag eraill.

Byddwn hefyd yn trafod sut y gallwch weithio gyda'r Gronfa, partneriaid, deiliaid grantiau ac ymgeiswyr yn y dyfodol i gyfrannu at y mudiad hinsawdd ehangach.

Beth sy'n digwydd pryd?

Mae'r rhain yn ddyddiadau bras:

Ceisiadau ar gyfer cam 1 yn agor - 24 Chwefror 2021

Ceisiadau ar gyfer cam 1 yn cau - 5yh 8 Ebrill 2021

Penderfyniadau Cam 1 wedi’u gwneud a’u cyfathrebu - O fewn dau fis i'r dyddiad cau, 8 Ebrill 2021

Cyfnod asesu ar gyfer y rhai a wahoddwyd i gam dau - Diwedd Mai i Awst 2021

Penderfyniadau Cam 2 wedi’u gwneud a’u cyfathrebu - Erbyn diwedd Medi 2021 fan bellaf

Disgwylir i’r prosiectau ddechrau - O ddiwedd Hydref 2021 ar y cynharaf

Pwy all ac na allant ymgeisio

Pwy all ymgeisio

Rydym yn awyddus i fuddsoddi mewn partneriaethau a arweinir gan y gymuned sy'n cynnwys cymysgedd o sefydliadau o wahanol sectorau. Gallwn ariannu partneriaethau newydd, a rhai sydd eisoes wedi'u sefydlu. Ar hyn o bryd, rydym yn chwilio am y sefydliad sydd yn y sefyllfa orau i siarad ar ran y bartneriaeth, a rhaid iddo fod yn un o'r mathau canlynol o sefydliadau cymwys:

  • sefydliad gwirfoddol a chymunedol
  • elusen gofrestredig
  • sefydliad corfforedig elusennol
  • cwmni dielw wedi'i gyfyngu drwy warant - rhaid i chi fod yn elusen gofrestredig neu fod gennych gymal 'clo asedau' di-elw yn eich erthyglau cymdeithasu
  • cwmni budd cymunedol
  • ysgol
  • cymdeithas budd cymunedol
  • cymdeithas gydweithredol - rhaid i chi gael cymal 'clo asedau' di-elw yn rheolau eich cymdeithas a hefyd cael eich cofrestru gyda'r Awdurdod Ymddygiad Ariannol.

Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn prosiectau sy'n cael eu harwain gan, neu sy'n cefnogi, pobl a chymunedau sydd wedi cael eu taro galetaf gan newid hinsawdd. Rydym eisiau gweld mwy o bobl ar draws y cymunedau hyn yn cael eu cynrychioli yn ein grantiau.

Ni allwn dderbyn ceisiadau gan:

  • unigolion
  • unig fasnachwyr
  • sefydliadau sydd wedi'u lleoli y tu allan i'r DU
  • unrhyw un sy'n gwneud cais ar ran sefydliad arall
  • sefydliadau sy'n canolbwyntio ar wneud elw a rhannu'r elw hwn yn breifat - gan gynnwys cwmnïau cyfyngedig gan gyfranddaliadau, sefydliadau heb y cloeon asedau cywir, neu sefydliadau a all dalu elw i gyfarwyddwyr neu gyfranddalwyr.

Eich partneriaeth

Rhaid i'r partneriaethau a ariennir gennym gael eu harwain gan sefydliad cymwys, ond nid yw hyn yn golygu na allai sefydliadau eraill fod yn rhan o'ch partneriaeth. Er enghraifft:

  • gallai'r sector preifat fod yn budd-ddeiliaid pwysig sy'n cefnogi prosiectau i gyflawni eu nodau, ond ni fyddent yn gymwys i dderbyn unrhyw ran o'n grant yn uniongyrchol
  • rydym yn chwilio am bartneriaethau a arweinir gan y gymuned felly ni fyddem yn disgwyl i gyrff statudol (gan gynnwys awdurdodau lleol a'r GIG) arwain, ond byddem yn eu croesawu fel rhan o'ch partneriaeth.
  • efallai y bydd rhai o'ch partneriaid yn gweithio y tu allan yn ogystal â'r tu mewn i'r lle y mae eich prosiect wedi'i leoli ynddo, ond byddant yn adnabod y gymuned ac yn deall beth sy'n bwysig iddynt.

Rydym yn agored i wahanol fathau o bartneriaeth. Yn eich cais, gallwch ddweud mwy wrthym am eich strwythur a sut y byddwch yn gweithio gyda'ch gilydd.

Aelodau'r Bwrdd neu'r pwyllgor

Rhaid i sefydliadau sy'n gwneud cais gael o leiaf dau berson ar eu bwrdd neu bwyllgor nad ydynt yn gysylltiedig. Drwy cysylltiedig, rydym yn golygu un neu fwy o'r canlynol:

  • yn briod â'i gilydd
  • mewn partneriaeth sifil â'i gilydd
  • mewn perthynas hirdymor â'i gilydd
  • byw gyda'n gilydd yn yr un cyfeiriad
  • yn perthyn trwy waed.

Rhaid i bob cwmni sy'n gwneud cais gael o leiaf ddau gyfarwyddwr nad ydynt yn gysylltiedig yn unrhyw un o'r ffyrdd hyn. Mae hyn hefyd yn berthnasol i gwmnïau sydd hefyd wedi'u cofrestru fel elusennau.

Os nad ydych yn siŵr a allwch ymgeisio

Cysylltwch â ni. Bydd y tîm yn hapus i helpu. Gallwch hefyd gael golwg ar ba raglenni ariannu eraill y gallech wneud cais iddynt.

Dilynwch ni ar Twitter gan ddefnyddio #ClimateFundUK am fwy o wybodaeth am y rhaglen a'r hyn rydyn ni'n ei wneud.

Beth rydym yn gobeithio ei ariannu

Ffocws ein grantiau fydd cefnogi prosiectau ei harwain gan y gymuned sy'n mynd i'r afael â gwastraff a defnydd. Bydd hyn yn golygu gwahanol bethau i wahanol gymunedau, ond mae'r rhan fwyaf o bobl bellach yn cydnabod bod angen i bob un ohonom symud tuag at ffyrdd mwy cynaliadwy o fyw.

Grantiau ar gael

Bydd swm y grant sydd ar gael fesul cais yn dibynnu ar yr hyn sydd ei angen ar bob partneriaeth ar hyn o bryd:

  • gall ymgeiswyr sydd angen mwy o amser i ddatblygu eu partneriaeth, ymgysylltu'n eang neu brofi eu dulliau gweithredu wneud cais am grant datblygu cychwynnol (isafswm maint y grant yw £100,000, hyd at uchafswm o £150,000 - yr isafswm hyd yw 12 mis). Efallai y cewch gyfle i wneud cais am grant tymor hwy yn ddiweddarach.
  • gall ymgeiswyr sydd â chynigion prosiect mwy datblygedig ac a allai ddechrau cynlluniau tymor hir yn gynharach, wneud cais am ddyfarniadau mwy, tymor hir (isafswm maint y grant yw £500,000, hyd at uchafswm o £1.5 miliwn. Disgwyliwn i hyd y dyfarniadau llawn fod rhwng tair a phum mlynedd). Nid oes angen i chi fod wedi cael grant datblygu'r Gronfa Gweithredu Hinsawdd yn gyntaf i wneud cais am ddyfarniad llawn.

Pam gwastraff a defnydd?

Un o'r ffactorau sy'n cyfrannu fwyaf i newid yn yr hinsawdd a wnaed gan ddynolryw yw ein bod yn defnyddio mwy a mwy o 'bethau' ac yn ei daflu i ffwrdd yn gyflymach byth. Caiff cymdeithasau modern eu nodweddu gan lefelau cynyddol o ddefnydd ac, yn dilyn hynny, gwastraff. Y traul cynyddol hwn - mae bwyd cyflym, ffasiwn cyflym a chynhyrchion 'un defnydd' - wedi cyfrannu'n helaeth at y cynnydd cyflym mewn allyriadau carbon dros y degawdau diwethaf.

Mae gan gymunedau rôl ganolog i'w chwarae. Gallant hyrwyddo a chefnogi'r newid mewn ymddygiad a'r newidiadau agwedd sydd eu hangen i leihau gwastraff diangen, ac annog pobl i newid i ffyrdd mwy meddylgar o fwyta. Nid yw hyn yn ymwneud ag atal pob defnydd ond meddwl mwy am yr hyn a ddefnyddiwn a sut rydym yn ei ddefnyddio. Bydd torri gwastraff diangen, a chefnogi datblygiad economi gylchol, yn allweddol i'n symud i gymdeithas carbon isel.

I gael rhagor o wybodaeth am pam mae gwastraff a defnydd yn ffocws pwysig i ni, a sut y gallai hynny edrych fel prosiect a arweinir gan y gymuned, darllenwch ein blog.

Beth rydym yn gobeithio ei ariannu

Mae ein ffocws ar wastraff a defnydd yn ymdrin â themâu fel yr is-gategorïau canlynol a restrir isod:

  • gwastraff bwyd
  • trwsio ac ailddefnyddio
  • manwerthu prynwrïaeth
  • ffrydiau gwastraff.

Nid yw hon yn rhestr gyflawn. Mae gennym ddiddordeb mewn clywed am ddulliau prosiect eraill ac nid ydym yn chwilio am brosiectau i fynd i'r afael â'r holl is-gategorïau hyn o reidrwydd.

Galw mawr am y grantiau hyn

Disgwyliwn y bydd y galw am y grantiau hyn yn uchel. Yn rownd un, cawsom dros 630 o geisiadau am syniadau cychwynnol a gwnaethom 23 o ddyfarniadau ariannu. Felly, os ydych chi'n gwneud cais, gwnewch yn siŵr bod eich prosiect yn bodloni'r hyn rydyn ni'n chwilio amdano.

Yn rownd un, er enghraifft, cawsom lawer o geisiadau eithaf tebyg i brosiectau lleol ddechrau neu ddatblygu caffis trwsio a llyfrgelloedd adnoddau. Rydym yn cefnogi'r mathau hyn o brosiectau, ond ni allwn gefnogi llawer o brosiectau neu ddulliau tebyg iawn drwy'r grant penodol hwn. Felly, mae gennym ddiddordeb mawr mewn gweld sut y gall prosiectau o'r fath adeiladu ar yr hyn a wnânt drwy gynyddu eu cwmpas a nifer y bobl y maent yn eu cyrraedd.

Rydym am sicrhau ein bod yn cefnogi amrywiaeth o brosiectau sy'n adlewyrchu cymysgedd o gymunedau a lleoedd o bob rhan o'r DU.

Tegwch, amrywiaeth a chynhwysiant

Mae sut mae prosiectau'n ystyried tegwch, amrywiaeth a chynhwysiant ym mhob agwedd ar eu gwaith yn hanfodol. Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn prosiectau sy'n canolbwyntio ar gyfiawnder hinsawdd a mynd i'r afael ag anghydraddoldebau cymdeithasol, a'r rhai sy'n cael eu harwain gan bobl a chymunedau y mae newid hinsawdd yn effeithio'n fwy waethaf arnynt.

Rhaid i'r prosiectau rydym yn eu hariannu hefyd allu dangos:

  • sut y cânt eu harwain gan y gymuned - bydd y prosiect yn cael ei arwain a'i yrru gan grwpiau lleol sydd â dealltwriaeth ddofn o anghenion lleol, a bydd y syniad wedi'i gynllunio a'i ddatblygu drwy gynnwys y bobl a fydd yn elwa. Rydym am weld bod y prosiect wedi siarad â phobl yn y gymuned ac wedi gwrando ar yr hyn sydd ganddynt i'w ddweud, beth maen nhw ei eisiau, pam mae'n bwysig iddyn nhw, a sut y bydd pobl yn cymryd rhan.
  • eu bod yn gweithio mewn partneriaeth - bydd prosiectau’n bartneriaethau sy’n seiliedig mewn lleoliad ac a gaiff ei harwain gan y gymuned. Bydd y bartneriaeth yn dod ag ystod eang o bobl a sefydliadau sydd â gweledigaeth gyffredin o sut ddylai gweithredu lleol ar yr hinsawdd edrych. Gwyddom fod newid yn cynnwys pob rhan o gymdeithas ac rydym yn disgwyl i chi fod yn gweithio gyda nifer o bartneriaid o sectorau gwahanol. Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn partneriaethau sy'n cynnwys iechyd a'r GIG, awdurdodau lleol a/neu gymdeithasau tai. Ni allwn ariannu sefydliadau sydd â'r nod o gynhyrchu elw ar gyfer dosbarthu preifat, ond byddem yn annog partneriaethau i ddod o hyd i ffyrdd o weithio gyda'r sector preifat. Os dyfernir grant, bydd disgwyl i bartneriaethau roi cytundeb partneriaeth ar waith (os nad ydynt wedi gwneud hynny eisoes), gan nodi sut y byddant yn gweithio gyda'i gilydd.
  • eu cynlluniau ar gyfer sut y bydd y prosiect yn cael effaith barhaol - er mwyn sicrhau'r budd mwyaf posibl i'r hinsawdd, mae'n bwysig bod y newidiadau a wneir yn gynaliadwy ar ôl i’n grant ni ddod i ben. Rydym yn chwilio am brosiectau sy'n gallu dangos sut y bydd eu gwaith yn cefnogi newidiadau mewn ymddygiad a ffordd o fyw ar draws eu cymuned, ac o bosibl newidiadau mewn agweddau tymor hir. P'un a yw hyn yn adeiladu ar waith yr ydych wedi bod yn ei wneud ers blynyddoedd, neu'n mabwysiadu dull cwbl newydd, mae gennym ddiddordeb arbennig mewn prosiectau a all ddangos sut y bydd eu gwaith yn cyfeirio at newid systemig ehangach.
  • sut y byddant yn cyrraedd mwy o bobl - mae angen i brosiectau ymgysylltu â phobl y tu allan i'r rhai sydd eisoes yn gweithredu yn yr hinsawdd a byddant yn gallu dangos cynlluniau clir ar gyfer ymgysylltu â'r cyhoedd ac ymrwymo iddynt.
  • eu dull o ddysgu a rhannu - bydd gan brosiectau gynlluniau ynghylch sut y byddant yn mesur newid ac yn dangos y gwahaniaeth y bydd y prosiect yn ei wneud, gan gynnwys sut y byddant yn rhannu eu dysgu i alluogi ac ysbrydoli eraill i weithredu.

Mae gennym ddiddordeb hefyd mewn clywed gan grwpiau sy'n ystyried gwahanol ffyrdd o ariannu eu prosiectau, gan gynnwys datblygu'r potensial ar gyfer cynhyrchu incwm o ffynonellau nad ydynt yn ffynonellau grant.

Lleihau eich effaith amgylcheddol

Mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i ddiogelu'r amgylchedd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Mae hyn yn cynnwys y cymunedau a'r prosiectau rydym yn eu cefnogi. Dysgwch fwy am sut i leihau eich effaith amgylcheddol ar wefan GOV.UK ac ar ein gwefan.

Byddwn yn disgwyl i sefydliadau arweiniol a'r holl bartneriaid ystyried eu heffaith amgylcheddol a chael polisïau a gweithdrefnau perthnasol ar waith.

Beth rydym yn annhebygol o'i ariannu

Rydym yn annhebygol o ariannu:

  • ceisiadau na allant ddangos sut mae'r gymuned leol ehangach wedi cyfrannu at ddylunio a datblygu'r prosiect
  • ceisiadau sydd am gyflwyno prosiect cenedlaethol
  • ceisiadau gan sefydliadau sengl
  • ceisiadau sy'n ymwneud â hyrwyddo agenda un sefydliad - neu grŵp
  • ceisiadau am weithgareddau statudol, mae cymaint o brosiectau ailgylchu a gwastraff domestig yn annhebygol o fod yn gymwys i gael grant
  • ceisiadau sydd ond yn chwilio am grant cyfalaf
  • sefydliadau sy'n gwneud cais am lawer mwy o arian nag y mae ganddynt brofiad o'i reoli, neu sy'n cynyddu eu trosiant blynyddol yn sylweddol.

Grantiau posibl arall ar gyfer gweithredu hinsawdd

Os nad yw'r rhaglen hon yn iawn i chi, neu os ydych wedi bod yn aflwyddiannus wrth wneud cais, dysgwch am grantiau posibl arall ar gyfer gweithredu hinsawdd.

Darparu eich prosiect yn Gymraeg

Os byddwch yn derbyn grant gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ar gyfer prosiect yng Nghymru, bydd angen i chi ei ddarparu yn Gymraeg yn ogystal â'r Saesneg. Darllenwch ein canllawiau ar reoli eich prosiect yn ddwyieithog.

Ar beth allwch chi wario'r arian

Gallwn ariannu pethau fel:

  • costau staff
  • treuliau gwirfoddolwyr
  • costau prosiect cyffredinol
  • gweithgareddau ymgysylltu
  • dysgu a gwerthuso
  • cyfleustodau neu gostau rhedeg
  • costau datblygu a rheoli sefydliadol
  • rhai costau cyfalaf (gallai hyn fod ar gyfer prynu offer neu brynu, prydlesu, adnewyddu neu ddatblygu tir ac adeiladau, neu waith arall sy'n gysylltiedig ag adeiladu).

Rydym yn canolbwyntio ar gynyddu cyfranogiad ar weithredu ar yr hinsawdd, cefnogi ffordd o fyw a newid ymddygiad. Disgwyliwn felly y bydd y rhan fwyaf o grantiau yn mynd tuag at gostau refeniw. Byddwn yn ystyried ariannu costau cyfalaf os gall y bartneriaeth ddangos:

  • gallai hwyluso ffordd o fyw a newid ymddygiad
  • bydd yn ehangu cyfranogiad
  • bydd yn gynaliadwy yn ariannol (er enghraifft, lle gallai ein grant ddatgloi mwy o fuddsoddiad ariannol o ffynonellau eraill).

Os ydych yn gwneud cais am grant ar gyfer prosiect cyfalaf, bydd rhai ystyriaethau allweddol y bydd angen iddynt fod ar waith i sicrhau eich bod yn barod i gyflawni eich prosiect. Er enghraifft, rhaid i chi fod yn berchen ar y safle lle bydd y gwariant cyfalaf yn cael ei wneud. Rydym yn cydnabod y bydd hyn yn wahanol o brosiect i brosiect, felly byddwn yn trafod yn fanylach gyda chi os byddwch yn symud ymlaen i'r cam nesaf.

Byddem hefyd yn croesawu ceisiadau gan grwpiau sydd â chymysgedd o incwm ariannu ar gyfer eu prosiect.

Os cewch eich gwahodd i'r cam nesaf, byddwn yn siarad â chi i gytuno beth fydd y grant yn ei gwmpasu.

Ni allwn ariannu:

  • gweithgareddau statudol sy'n disodli arian y llywodraeth (er enghraifft, dim ond gweithgareddau ysgol sy'n digwydd y tu allan i oriau addysgu arferol y gallwn eu hariannu)
  • benthyciadau, gwaddolion neu log
  • talu rhywun arall i ysgrifennu eich cais
  • gweithgareddau gwleidyddol, gan gynnwys lobïo
  • gweithgareddau lle bydd elw'n cael ei ddosbarthu er budd preifat
  • TAW y gallwch ei hadfer
  • alcohol
  • pethau rydych chi wedi gwario arian arnynt yn y gorffennol ac yn edrych i hawlio am nawr
  • eitemau na fydd ond o fudd i unigolyn, yn hytrach na'r gymuned ehangach
  • gweithgareddau crefyddol (ond gallwn ariannu sefydliadau crefyddol os yw eu prosiect o fudd i'r gymuned ehangach ac nad yw'n cynnwys cynnwys crefyddol).

Cysylltwch â ni os ydych am sgwrsio ynghylch a ellir ariannu gweithgareddau eich prosiect. Cofiwch - dim ond y cam syniad cychwynnol yw hwn, a byddwn yn trafod yn fanylach gyda chi os cewch eich gwahodd i gam nesaf y broses ymgeisio.

Rhwymedigaethau rhyngwladol y DU ar reoli cymorthdaliadau

O ganlyniad i Brexit a diwedd y cyfnod pontio, mae'r Deyrnas Unedig (DU) wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd (UE).

O 1 Ionawr 2021, mae'r grantiau y mae'r Gronfa yn ei ddosbarthu bellach yn ddarostyngedig i ymrwymiadau rheoli cymhorthdal rhyngwladol y DU. Dim ond pan ddilynir rheolau llym y gellir dyfarnu cymhorthdal.

Wrth ddatblygu eich cais, mae'n bwysig eich bod yn ystyried ymrwymiadau cymhorthdal rhyngwladol y DU a sut i sicrhau bod eich prosiect yn cydymffurfio. Os oes gennych bryderon, dylech ofyn am gyngor cyfreithiol.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ymrwymiad rheoli cymhorthdal rhyngwladol y DU o 1 Ionawr 2021 ar wefan GOV.UK.