Heddiw (4 Chwefror) mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn rhannu newyddion calonogol i 17 o gymunedau yng Nghymru sy'n derbyn cyfran o £485,438.
Bydd cymorth ychwanegol ar gael i wella lles ac iechyd meddwl wrth i ni groesawu'r flwyddyn newydd yn ochelgar, diolch i fwy na £3.4 miliwn o arian y Loteri Genedlaethol a gyhoeddwyd heddiw.
Mae ymchwil newydd a gyhoeddwyd heddiw gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, yr ariannwr mwyaf o weithgarwch cymunedol yn y DU, yn dangos bod y pandemig wedi helpu i ail-afael diddordeb pobl yn eu cymuned leol ac wedi sbarduno awydd i gymryd mwy o ran yn 2021.
Heddiw cyhoeddodd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol fod dros hanner miliwn o bunnoedd wedi'i ddyfarnu i gymunedau yng Ngwynedd i fynd i'r afael â newid hinsawdd, diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol.
Bydd cymorth ychwanegol ar gael i bobl sy’n delio â dementia, unigrwydd a iechyd meddwl diolch i £3.6 miliwn o arian y Loteri Genedlaethol a gyhoeddir heddiw.
Mynychodd 35 o grwpiau cymunedol o bob rhan o Gymru ddigwyddiad croeso Hwb i’r Hinsawdd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Daeth y grwpiau, o rwydwaith eang ac amrywiol, at ei gilydd yn rhithiol i gael cymorth i gymryd camau amgylcheddol a chael effaith gadarnhaol drwy leihau eu hôl troed carbon, er mwyn helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd.
Heddiw, mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yng Nghymru yn ail-lansio ei chynllun grant gwerth £10m cyn Diwrnod Digartrefedd y Byd ddydd Sadwrn (10/10/2020) sy'n tynnu sylw at drafferthion pobl sy'n dioddef digartrefedd yn fyd-eang.