Grwpiau cymunedol ledled Cymru yn cael hwb hanfodol diolch i arian y Loteri Genedlaethol
Heddiw (4 Chwefror) mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn rhannu newyddion calonogol i 17 o gymunedau yng Nghymru sy'n derbyn cyfran o £485,438.
O dyfu bwyd i bobl sy'n gwarchod eu hunain i wella offer chwarae yn yr awyr agored, mae arian a godir gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn cefnogi pobl a chymunedau i addasu ac adfer drwy'r amgylchiadau heriol hyn.
Yng Nghaerdydd, bydd Cymdeithas Gardd Gymunedol Star Hub yn defnyddio £7,418 o arian y Loteri Genedlaethol i barhau i dyfu bwyd i bobl sy'n agored i niwed ac yn gwarchod eu hunain, tra'n gwneud gwelliannau i wneud garddio yn fwy hygyrch i'w cymuned.
Maent yn un o 16 o sefydliadau ledled Cymru sydd wedi cael grant drwy’r rownd diweddaraf o grantiau gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Am restr lawn o grantiau cliciwch yma.
Dywedodd Camilla Lovelace, o Gymdeithas Gardd Gymunedol Star Hub: "Rydym yn hapus iawn ein bod wedi cael grant gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, bydd yn talu am ein costau rhedeg ar gyfer 2021 fel y gallwn barhau i dyfu'r bwyd iach a roddwn i bobl yn ein cymuned. Mae gweithio gyda darparwyr gwasanaethau bwyd cymunedol lleol wedi bod yn bwysig iawn i ni, yn ystod y tymor tyfu rydym yn dosbarthu salad, perlysiau a llysiau yn rheolaidd i Bantri Cymunedol Tremorfa sy'n dosbarthu bwyd i bobl sy'n gwarchod neu'n wynebu ansicrwydd bwyd ac Oasis sy'n bwydo ffoaduriaid a cheiswyr lloches.
"Bydd y grant hwn hefyd yn ein helpu i ddarparu rhywfaint o gefnogaeth i'r Coop Bwyd Splo-Down newydd sy'n gwneud bwyd iach yn fforddiadwy ac yn hygyrch. Mae ein cynlluniau tymor hwy yn cynnwys datblygu ein perllan gymunedol i ddarparu man lle gall pobl o bob oed a gallu fwynhau natur gan ein bod yn credu y bydd hyn yn helpu unrhyw un sy'n profi effeithiau COVID-19 tymor hir."
Bydd Archdiocese Cardiff yn defnyddio £50,250 o arian y Loteri Genedlaethol i adnewyddu a gwella Neuadd Sant Dyfrig ym Mhontypridd, gan gynnwys gwella mynediad i bobl anabl, diogelu'r adeilad i bob tywydd, ac adnewyddu eu cegin. Byddant yn parhau i ddarparu cyfleusterau ar gyfer gweithgareddau a gwasanaethau cymunedol tra'n datblygu rhaglenni newydd o weithgareddau a hyfforddiant o'r ganolfan.
Yn croesawu’r grant, dywedodd Roy Mayo, Cadeirydd Archdiocese Cardiff: "Hoffem ddiolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol am y grant Pawb a’i Le gan y bydd hyn yn ein galluogi i ddechrau'r gwaith hanfodol sydd ei angen i sicrhau dyfodol parhaus Neuadd Gymunedol Dyfrig Sant.
"Bydd atgyweiriadau hanfodol i'r Neuadd yn ein galluogi i gynnal ein hystod bresennol o weithgareddau ac ehangu i ardaloedd newydd. Dyma gam cyntaf prosiect adfywio pum cam sy'n hanfodol er mwyn i'r Neuadd gael dyfodol cynaliadwy."
Yn Rhondda Cynon Taf, bydd Glyncoch Community Regeneration Ltd yn defnyddio £6,720 i barhau i ddarparu darpariaeth ieuenctid ar gyfer eu cymuned leol gan ymateb i effaith pandemig COVID-19.
Dywedodd Laura Morgan, Gweithiwr Cymorth Sesiynol yn Glyncoch Community Regeneration: "Rwyf wrth fy modd gyda’n rôl gan ei fod wedi fy ngalluogi i fod yn rhan fach o deithiau'r bobl ifanc hyn a'u gwylio'n datblygu i'w personoliaethau eu hunain. Mae'r agosatrwydd a'r ysbryd cymunedol cyffredinol o fewn y tîm hwn a'r grŵp o bobl ifanc rydym yn ffodus i weithio gyda nhw ond yn fy ngwthio i fod eisiau cymryd mwy o ran, ac i edrych ar fwy o ffyrdd y gallwn ymgysylltu â'r bobl ifanc hyn.
"Rwyf wedi gweld yr effaith y gall cymorth Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ei chael a'r newid cadarnhaol a ddaw yn ei sgil. Rwy'n ddiolchgar am byth am y cyfle sydd gennym yn Glyncoch Community Regeneration nawr diolch i'r grant hwn i gael effaith werth chweil a chadarnhaol."
Mewn mannau eraill, bydd Yr Ifanc yn Ial yn Sir Ddinbych yn defnyddio £62,273 ar gyfer offer chwarae ar gae chwarae Bryneglwys fel y gall pobl ifanc yn y pentref fanteisio ar gyfleoedd chwarae awyr agored, a rhoi cyfle i'r gymuned ehangach gymdeithasu ac adeiladu cysylltiadau cymunedol cryfach.
Ym Mhowys, bydd Cymorth Cymunedol Llanfair-ym-Muallt yn defnyddio £99,795 o arian y Loteri Genedlaethol i ehangu ei ddarpariaeth trafnidiaeth gymunedol fel y gall mwy o bobl gael gafael ar wasanaethau hanfodol.
Dywedodd Ruth Bates, Cyfarwyddwr Dros Dro Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yng Nghymru: "Mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn parhau i wneud cyfraniad anhygoel i gefnogi cymunedau yng Nghymru drwy COVID-19 bob tro maen nhw'n prynu tocyn. Mae hwn yn gyfnod anodd i ni i gyd, ac mae’n wych gweld yr ynni a thosturi parhaus mae gwirfoddolwyr, grwpiau cymunedol ac elusennau yn ei roi i helpu eraill.
DIWEDD
- Dyddiad cyhoeddi
- Rhanbarth
- Cymru

Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol Cymru
Ffordd sydyn i ymgeisio am nifer llai o arian rhwng £300 a £20,000.