Meithrin Natur – mynediad i’r amgylchedd naturiol sy’n newid bywydau go iawn
Mae mynediad cynnar at fyd natur yn newid bywydau go iawn. A dyna pam y mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol wedi lansio Meithrin Natur - rhaglen newydd gwerth £10 miliwn i gefnogi iechyd a lles babanod a phlant ifanc yng Nghymru trwy gysylltiadau ystyrlon â’r amgylchedd naturiol. Yn y blog hwn, mae Dr Simone Lowthe Thomas, Cadeirydd Pwyllgor Cymru, yn rhannu pam bod yr ariannu hwn yn bwysig a sut mae’n ceisio creu effaith parhaol.
Nod Meithrin Natur yw cyflwyno effeithiau therapiwtig a thrawsnewidiol yr amgylchedd naturiol ar y cam cynharaf o ddatblygiad plentyn. Dengys ymchwil fod amser a dreulir ym myd natur yn rhoi hwb i les, iechyd, a hapusrwydd. Er hynny, mae rhwystrau fel tlodi, lleoliad, a gwahaniaethu yn aml yn cyfyngu ar fynediad – yn enwedig i’r rhai hynny sydd a’r angen mwyaf.
Nod y rhaglen ariannu yw ariannu prosiectau partneriaeth sy’n dod â gweithgareddau blynyddoedd cynnar i fannau gwyrdd – parciau, gwlypdiroedd, gerddi, caeau chwarae, a mwy. Gall y partneriaethau hyn helpu i uno sefydliadau blynyddoedd cynnar ag arbenigwyr amgylcheddol, ac yn hanfodol, gynnwys plant a’u teuluoedd wrth lywio prosiectau sy’n adlewyrchu anghenion lleol.

Natur i bob plentyn. Yng Nghronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, rydym yn credu fod helpu plant i feithrin cysylltiad cryf â’u hamgylchedd naturiol, ar gamau cynharaf eu bywydau, yn hanfodol i ganiatáu iddynt gyrraedd eu llawn botensial.
Dull ariannu
Mae’r rhaglen ariannu yn agored i ystod eang o brosiectau partneriaeth, gan gynnwys y rhai sy’n darparu gweithgareddau blynyddoedd cynnar mewn parciau, gwlypdiroedd, afonydd, gerddi cyhoeddus, caeau chwarae, rhandiroedd, a gwarchodfeydd natur, yn ogystal a’r rhai sy’n gwasanaethu cymunedau mewn ardaloedd sy’n arbennig o ddifreintiedig.
Fel rhan o’r rhaglen, diffinnir prosiectau partneriaeth fel y rhai hynny sy’n cyfuno sefydliadau blynyddoedd cynnar â’r rhai sydd â phrofiad a gwybodaeth am yr amgylchedd, gyda mewnbwn plant lleol a’u teuluoedd hefyd yn cael ei groesawu i sicrhau cynhwysiant a bod anghenion y gymuned leol yn cael eu bodloni.
Mae’r rhaglen ariannu hon yn ymateb i’r corff cynyddol o dystiolaeth sy’n dangos fod treulio amser mewn amgylcheddau naturiol yn cynyddu lles ac iechyd personol plant dros amser.
Mae adroddiad gan yr Ymddiriedolaethau Natur* yn dangos fod treulio amser mewn amgylcheddau naturiol yn cynyddu lles ac iechyd personol plant dros amser, yn ogystal â dangos cynnydd yn y cysylltiad â natur ac adrodd am lefelau uchel o fwynhad.
Fodd bynnag, mae rhwystrau fel hygyrchedd a lleoliad yn gallu ei gwneud yn anodd i blant ifanc, a’u teuluoedd, i gael mynediad i lefydd naturiol. Yn benodol, rydym yn gwybod fod dechrau plentyn mewn bywyd yn gallu effeithio ar eu mynediad at fyd natur yn fawr iawn, gyda’r rhai sy’n profi tlodi, anfantais neu wahaniaethu yn wynebu heriau mwy cymhleth a hirsefydlog nac eraill.
Ymrwymiad Strategol
Mae ein strategaeth, Cymuned yw’r man cychwyn, yn canolbwyntio ar gefnogi cysylltiadau cymdeithasol a gweithgarwch cymunedol i feithrin cymdeithas sy’n ffynnu. Mae’r strategaeth yn cynnwys pedair prif nod ariannu, sy’n cynnwys ymrwymiad i helpu plant a phobl ifanc i ffynnu, ac i gynaliadwyedd amgylcheddol, gan gynnwys mynediad teg i’r amgylchedd naturiol a mannau gwyrdd o ansawdd i bawb. Yn ychwanegol, rydym wedi ymrwymo i gefnogi cymunedau sydd â’r angen mwyaf, y rhai sy’n profi tlodi, anfantais a gwahaniaethu. Mae Meithrin Natur yn dod â’r syniadau hyn ynghyd, gyda’r nod o gael plant ifanc ledled Cymru i ymgolli ym myd natur, waeth beth fo eu dechrau mewn bywyd.
Yng Nghymru, rydym wedi clustnodi £10 miliwn mewn arian grant dros y 7 mlynedd fel rhan o’r rhaglen, ac rydym eisiau cynigion partneriaeth gan sefydliadau a phrosiectau a allai weithio gyda’i gilydd ar fentrau cymunedol sy’n agor y drws ar yr awyr agored i blant. Rydym am ariannu prosiectau arloesol a fydd yn cyd-gynhyrchu gyda’r plant a theuluoedd ar bob cam o’r ffordd, gan arwain at fentrau a fydd yn newid bywydau go iawn.

Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol wedi cefnogi nifer o brosiectau amgylcheddol yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf trwy Pawb a’i Le. Yn ddiweddar, dyfarnwyd grant i Eryri-Bywiol a gafodd dros £300,000 ar gyfer prosiect Babi Actif yng ngogledd orllewin Cymru. Mae’r grant wedi eu galluogi nhw i gynnal gweithgareddau sy’n caniatáu i ofalwyr a babanod ymgolli yn yr awyr agored fel ffordd o wella eu hiechyd corfforol ac iechyd meddyliol. Mae gweithgareddau’n cynnwys ffitrwydd bygi, chwarae coedwig i fabanod, symud yn yr awyr agored, a theithiau cerdded babi a sling. Maen nhw’n darparu pymtheg gweithgaredd yr wythnos ar draws gogledd orllewin Cymru trwy gydol y flwyddyn, gan roi cyfle gwerthfawr i deuluoedd gael mynediad at fyd natur gyda’u babanod. Mae prosiectau fel yr un hwn yn dangos pwysigrwydd rhoi mynediad i fyd natur i blant ifanc, gwaith y gobeithiwn y gall Meithrin Natur adeiladu arno mewn ffordd arloesol.
Os oes gennych syniad am brosiect partneriaeth sy’n dod ag arbenigedd mewn babanod a phlant ifanc ynghyd â’r manteision o dreulio rhagor o amser yn yr awyr agored, yna ewch i https://www.tnlcommunityfund.org.uk/welsh/funding/programmes/meithrin-natur i gysylltu ag ymgeisio am arian.
* https://www.wildlifetrusts.org/news/new-report-nature-nurtures-children