Yn enedigol o Plymouth, Dyfnaint, cychwynnodd Nicola ei gyrfa trwy
wasanaethu yng Ngwasanaeth Llynges Frenhinol y Merched, yn dilyn hanes
teuluol o wasanaeth llyngesol trwy ddod y fenyw gyntaf yn y teulu i
wasanaethu’n weithredol.
"Rwyf wrth fy modd ac mae’n anrhydedd mawr fy mod wedi cael fy
mhenodi i bwyllgor Cymru. Rwy'n edrych ymlaen at helpu pobl yng Nghymru i
ddefnyddio'r arian sydd ar gael iddynt i ddatblygu gwasanaethau sydd
wir yn sicrhau canlyniadau ar eu cyfer ac yn adeiladu ar eu cryfderau."
Ar ôl magu ei theulu, dechreuodd Nicola ymddiddori yn y modd y gall
cymunedau ddatrys eu problemau eu hunain, a phan oedd hi'n byw yn Nhwrci
cymerodd Nicola ran mewn codi arian ar gyfer prosiectau lleol a'u
datblygu. Ar ôl dychwelyd i'r DU cwblhaodd Nicola un o'r graddau cyntaf
mewn Datblygu ac aeth ymlaen i ddatblygu gyrfa mewn datblygu
gwasanaethau, gan weithio ledled Cymru a Lloegr yn y sector cyhoeddus,
preifat a gwirfoddol.
Symudodd Nicola i Gymru yn 2006 a chymryd rôl fel Prif Weithredwr Age
Cymru Bae Abertawe yn 2010 ar ôl pedair blynedd o weithredu fel
ymwelydd annibynnol i Swyddfa'r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Dros y saith
mlynedd nesaf arweiniodd Nicola yr elusen trwy newid mawr gan gynnwys
sefydlu model newydd o fenter gymdeithasol, a arweiniodd at yr elusen yn
gweithio mewn partneriaeth â darparwyr gwasanaeth sector preifat lleol i
ddiwallu anghenion pobl hŷn sy'n byw yn Abertawe a'r cyffiniau.
Mae Nicola yn fentor i Business Wales ac yn wirfoddolwr i Breast
Cancer Care Wales. Ymddeolodd Nicola o waith amser llawn yn 2017 ac mae
bellach yn rhedeg micro-fusnes yng Ngorllewin Cymru sy'n cefnogi pobl
hŷn i gynnal eu hannibyniaeth, yn ogystal â chynnig ymgynghoriaeth
fusnes i fudiadau sydd angen cefnogaeth. Mae Nicola yn aelod o'r U3A ac
wrth ei bodd yn treulio'i hamser yn dod i adnabod y Sir y mae'n byw
ynddi a'r bobl sy'n byw yno.