Diwrnod Rhyngwladol Ieuenctid 2025 | Dewch i gwrdd â'n Cynghorwyr Llais Ieuenctid newydd
Yma yng Nghronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, rydym yn credu y gall cymdeithas elwa drwy wrando mwy ar farn pobl ifanc. Rydym hefyd yn gwybod o'n profiad ein hunain eu bod yn fedrus ac yn benderfynol o wneud gwahaniaeth go iawn, cadarnhaol i'r byd o'u cwmpas.
Fel ariannwr, rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod lleisiau pobl ifanc yn cael eu cynnwys yn ein holl waith, boed hynny drwy'r grantiau rydym yn eu dyfarnu, y bobl rydym yn dylanwadu arnynt, neu'r pethau rydym yn eu dysgu.
Dros y pum mlynedd diwethaf, rydym wedi bod ar daith go iawn; cyflwynwyd ein tîm Llais Ieuenctid cyntaf ‘nôl yn 2020 ac ers hynny rydym wedi mynd ymlaen i recriwtio nifer o Gynghorwyr Llais Ieuenctid i helpu ein timau ariannu i ddylunio a llywio'r penderfyniadau sy'n effeithio ar bobl ifanc a'u cymunedau.
Ar Ddiwrnod Rhyngwladol Ieuenctid, rydym yn tynnu sylw at ein Cynghorwyr Llais Ieuenctid newydd a fydd yn gwneud argraff werthfawr ar ein gwaith fel ariannwr. Bydd Katie, Cynghorydd Llais Ieuenctid yng Ngogledd Iwerddon, sydd wedi bod gyda ni ers blwyddyn, yn ymuno â’r cynghorwyr diweddaraf i roi cefnogaeth barhaus iddynt, ynghyd â’r staff ariannu. Dysgwch fwy am ein recriwtiaid newydd isod.

Fatemah (hi), 21, Glasgow, Cynghorydd Llais Ieuenctid
Mae gen i gefndir amrywiol ym maes llais ieuenctid, ac rwy’n angerddol dros wella iechyd meddwl pobl ifanc a chefnogi cynaliadwyedd y sector ieuenctid.
Dechreuodd fy nhaith yn 2021 fel Aelod o Senedd Ieuenctid yr Alban, gan gynrychioli pobl ifanc yn lleol ac yn genedlaethol. Fe wnaeth y rôl hon ddatblygu fy sgiliau arwain, ymgyrchu a dylanwadu ar y rhai sy'n gwneud penderfyniadau, gan gynnwys siarad ag uwch weision sifil i eiriol dros hyfforddiant ac addysg iechyd meddwl gwell. Yn 2022, ymunais â Senedd Ieuenctid y DU, lle mynychais gynadleddau cenedlaethol a thraddodi araith yn Nhŷ’r Cyffredin ar iechyd meddwl a stigma.
Rwyf hefyd yn cymryd rhan weithredol mewn mentrau sy'n canolbwyntio ar ieuenctid fel aelod o banel gyda SAMH (Scottish Action for Mental Health), gan roi cyflwyniadau, mynychu cynadleddau, ymgysylltu ag ASau a chyd-gynllunio ymgyrchoedd i wella gwasanaethau ac addysg iechyd meddwl. Yn 2024, des i'n Ymgynghorydd Ieuenctid gyda See Me Scotland, gan ddylunio a chyflwyno gweithdai ar stigma iechyd meddwl a helpu i greu adnoddau sy'n addas ar gyfer ieuenctid.
Yn ogystal â'r rolau hyn, rwy'n gwirfoddoli fel gweithiwr ieuenctid sy'n cefnogi pobl ifanc sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, gan gynnwys ffoaduriaid a cheiswyr lloches sy'n wynebu rhwystrau i addysg, cyflogaeth neu dai.
Yn fwyaf diweddar, des i’n Gynghorydd Llais Ieuenctid gyda Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, gan sicrhau bod pobl ifanc yn cael eu cynrychioli’n ystyrlon mewn penderfyniadau ariannu. Y tu hwnt i waith ieuenctid, rwy’n ateb galwadau ffôn i’r NHS 24 ac yn mwynhau darllen yn fy amser rhydd.

Ffion (hi), 18, Cynghorydd Llais Ieuenctid
Rydw i wedi bod yn ofalwr ifanc ers pan oeddwn i'n bedair oed, yn gofalu am fy mam. Oherwydd fy rôl yn gofalu, profiadau bywyd a phrofiadau yn y gorffennol gyda phethau fel iechyd meddwl, dechreuais wirfoddoli yn ifanc. Roeddwn i'n 13 oed pan ddechreuais wirfoddoli gyntaf; yn gyntaf gyda sefydliad Gofalwyr Ifanc ond nawr ar ôl blynyddoedd lawer rydw i'n gwirfoddoli gyda chymaint o brosiectau unigryw. O baneli grantiau, prosiectau iechyd meddwl, mentora pobl ifanc eraill a bod yn aelod o Senedd Ieuenctid Cymru; rydw i'n hoffi cymryd rhan yn y cyfan!
Rwy'n gwybod sut beth yw bod yn berson ifanc a theimlo'n anweledig mewn byd llawn oedolion, felly fe wnes i geisio gwneud y byd yn lle gwell a mwy cynhwysol i bobl ifanc! Rwy'n credu y gallwn ni bob amser wneud yn well, dim ond ymdrech ac ymrwymiad sydd ei angen! Ac felly, mae'n bwysig iawn i mi roi sylw i safbwyntiau nad ydynt bob amser yn cael eu clywed, a hyd yn oed safbwyntiau sydd eisoes yn amlwg.
Er mai dim ond newydd ddechrau mae fy nhaith fel un o'r Ymgynghorwyr Llais Ieuenctid newydd, rwy'n edrych ymlaen at y cyfle i wneud gwahaniaeth! Mae eisoes wedi bod yn werthfawr iawn cwrdd â phawb, wedi bod yn llawn profiadau a heriau newydd ac rydym wedi cael sgyrsiau anhygoel, gan gydweithio bob cam o'r ffordd. Rwyf hefyd yn edrych ymlaen at fod yn rhan o'r prosesau ymgeisio, darparu mewnwelediad a gweithio gyda phrosiectau a sefydliadau anhygoel. Rwyf wrth fy modd yn dysgu, a bydd yn gymaint o hwyl dysgu amdanynt. Alla i ddim aros i barhau i weithio gyda phawb a gweld beth allwn ni ei gyflawni gyda'n gilydd. Mae gennym ni i gyd brofiadau a safbwyntiau gwahanol, ond rwy'n credu mai dyna sy'n ein gwneud ni mor anhygoel ac yn dîm mor wych.
Fel arfer, rwy'n treulio fy holl amser sbâr yn gwirfoddoli neu'n codi ymwybyddiaeth, ond rwy'n caru pêl-droed a chwaraeon. Ac rwyf wrth fy modd yn treulio amser gyda fy nheulu. Heb sôn am ddim byd gwell na marathon ffilmiau dda neu bobi bisgedi a chacennau bach!
Molly, 25, (hi), Sussex, Cynghorydd Llais Ieuenctid
Dechreuodd fy nhaith llais ieuenctid yn 2022 pan ddes i’n Llysgennad iwill, a chael fy nghydnabod am fy ngwaith yn mynd i’r afael ag unigrwydd ieuenctid a hyrwyddo’r ymdeimlad o berthyn. Ond sylweddolais yn ddiweddarach fod hyn wedi dechrau yn llawer cynharach.
Fel plentyn, cefais brofiad o gam-drin ac es i drwy’r llys teulu heb unrhyw lais mewn penderfyniadau am fy mywyd, felly dechreuodd fy nealltwriaeth o lais ieuenctid ymhell cyn i mi wybod am y term.
Yn ddeg oed, clywais straeon ceiswyr lloches ifanc. Er nad oeddwn yn ffoadur fy hun, roeddwn i'n teimlo’r un math o ddiffyg diogelwch a pherthyn. Gwnaeth eu straeon fy ysgogi i godi ymwybyddiaeth a chodi arian yn yr ysgol. Hyd yn oed bryd hynny, roeddwn i'n cymryd camau gweithredu ac yn cysylltu ag eraill.
Rwyf bellach yn sylweddoli bod fy mhrofiad bywyd wedi bod yn ffynhonnell o nerth ac wedi fy ngalluogi i gysylltu ag eraill. Yn un ar hugain oed, gofynnodd gweithiwr ieuenctid i mi am fy stori - moment bwysig a helpodd fi i sylweddoli gwir bŵer fy llais. Ers hynny, rwyf wedi brwydro dros hawliau plant, gan ganolbwyntio’n gryf ar sicrhau fod pobl ifanc yn cael eu clywed, a bod gweithredu ar hynny mewn modd ystyrlon hefyd.
Rwy'n gweithio ar draws sectorau i herio llais ieuenctid - yn ymgysylltu â'r llywodraeth, yn llywio polisi'r sector ieuenctid, ac yn sefydlu cylchlythyr sy'n rhannu cyfleoedd teg a hygyrch i bobl ifanc. Fel Cynghorydd Ieuenctid i'r UE, rwy'n helpu i ail-ddychmygu cysylltiad a pherthyn i bobl ifanc mewn byd ar ôl Brexit.
Fel Cynghorydd Llais Ieuenctid, rwy'n edrych ymlaen at ymgysylltu'n uniongyrchol â phobl ifanc a chlywed eu lleisiau o fewn y gofodau sy'n llywio eu bywydau.
Ac o fis Medi ymlaen, rwy'n gobeithio cael hyd yn oed mwy o effaith drwy astudio Hawliau Plant Rhyngwladol yng Ngholeg y Brenin, Llundain.