Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn penodi Dr. David Halpern CBE fel cynghorydd i’r Bwrdd

Heddiw, mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol wedi cyhoeddi eu bod wedi penodi Dr. David Halpern CBE fel cynghorydd i’r Bwrdd. Bydd profiad helaeth David brofiad o lunio polisi yn seiliedig ar dystiolaeth, economeg ymddygiadol a buddsoddiad sy'n seiliedig ar le mewn uwch lywodraeth yn ei alluogi i gefnogi'r Bwrdd i gryfhau'r defnydd o dystiolaeth i gefnogi cymunedau - uchelgais a wnaed yn glir trwy eu strategaeth Effaith a lansiwyd yn gynharach eleni.
Meddai David Knott, Prif Weithredwr Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol am y penodiad:
“Pan wnaethom lansio ein Strategaeth Effaith ym mis Mai, i gefnogi ein strategaeth ehangach, ‘Cymuned yw’r man cychwyn’, fe wnaethom nodi’r glasbrint am sut fyddwn yn defnyddio data, mewnwelediadau a dysgu i gryfhau ein cefnogaeth i gymunedau yn y ffordd fwyaf hygyrch, cydweithredol ac ystyrlon. Bydd penodiad David yn helpu i sicrhau ein bod yn gwneud hynny. Mae’n bleser gen i groesawu Dr. David Halpern i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ac rwy’n edrych ymlaen at gydweithio i gyflawni’r canlyniadau gorau bosibl i gymunedau ym mhob cwr o’r DU.”
David Halpern CBE yw Llywydd Emeritws y Behavioural Insights Team cyn hynny roedd yn Gyfarwyddwr y tîm a Phrif Weithredwr (2010-2023), ac yna’n Llywydd a Sylfaenydd-Gyfarwyddwr (2023-2024).
Cyn BIT, roedd David yn Sylfaenydd-Gyfarwyddwr yr Institute for Government a rhwng 2001-2007 roedd yn Brif Ddadansoddwr yn Uned Strategaeth y Prif Weinidog. Penodwyd David fel Cynghorydd Cenedlaethol What Works ym mis Gorffennaf 2013, swydd a fu ynddi hyd nes 2022 lle bu’n arwain ymdrechion i wella’r defnydd o dystiolaeth ar draws llywodraeth y DU.
Cyn dechrau gweithio i’r llywodraeth, roedd David yn dal swydd yng Nghaergrawnt a swyddi yn Rhydychen a Harvard. Mae wedi ysgrifennu nifer o lyfrau a phapurau ar feysydd yn ymwneud â mewnwelediadau ymddygiadol a lles, gan gynnwys Social Capital (2005), Hidden Wealth of Nations (2010), Online Harms and Manipulation (2019) ac mae’n gydawdur adroddiad MINDSPACE. Yn 2015, ysgrifennodd David lyfr am y Behavioural Insights Team o’r enw Inside the Nudge Unit: How Small Changes Can Make a Big Difference.
Cafodd David CBE yn Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd ym mis Ionawr 2023 am Wasanaeth Cyhoeddus a’i rôl fel Cynghorydd Cenedlaethol What Works.
Bydd ei benodiad yn sicrhau fod Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn parhau i gryfhau ei chefnogaeth i gymunedau ledled y DU trwy dystiolaeth a dysgu cadarn.