Camau Cynaliadwy Cymru – Grantiau Egin

We mind the gap

Hoffem helpu grwpiau cymunedol yng Nghymru sy’n dechrau gweithredu yn erbyn newid hinsawdd a byw mewn ffordd fwy cynaliadwy. Bydd ein grantiau’n helpu grwpiau sy’n derbyn cefnogaeth gan Egin i gychwyn eu syniadau.

Ardal
Cymru
Yn addas ar gyfer
Bydd ein grantiau’n helpu grwpiau sy’n derbyn cefnogaeth gan Egin i gychwyn eu syniadau.
Cyfanswm ar gael
£3.75 miliwn dros 5 mlynedd
Terfyn amser ymgeisio

Gallwch geisio am grant hyd at £15,000, mae'r grantiu ar gael diolch i Arian Asedau Segur. Gallwch geisio am grant pan rydych chi'n barod.

Sut i ymgeisio.

Os ydych chi wedi derbyn mentora gan Egin (gwasanaeth mentora Camau Cynaliadwy Cymru) ac wedi cwblhau cynllun gweithredu, gallwch geisio am grant drwy gysylltu gyda ni am ffurflen gais.

Pan rydych yn barod i geisio, cysylltwch gyda ni drwy ffonio 0300 123 0735,
neu e-bostio or sustainablestepswales@tnlcommunityfund.org.uk

Gallwch geisio am grant hyd at £15,000, mae'r grantiu ar gael diolch i Arian Asedau Segur. Gallwch geisio am grant pan rydych chi'n barod.

Os oes diddordeb gennych i gael eich mentora, cysylltwch gyda Egin www.egin.org.uk

Beth sy’n digwydd ar ôl i chi ymgeisio?

Rydych yn anfon eich cais – Byddwn yn cysylltu â chi gyda phenderfyniad mewn oddeutu 12 wythnos. Yn ystod y 12 wythnos hyn rydym yn edrych ar eich syniad ac yn gwneud ein gwiriadau diogelwch. Gallwch ddarganfod mwy am y gwiriadau rydym yn ei wneud. Efallai byddwn yn eich ffonio o fewn y 12 wythnos i drafod ychydig mwy am eich syniad, neu i ofyn am fwy o wybodaeth.

Os yw eich cais yn llwyddiannus – Byddwn yn anfon e-bost gyda’r newyddion da! A byddwn yn rhoi’r arian yn eich cyfrif banc o fewn 14 diwrnod.

Gallwch ddechrau gwario’r arian ar eich prosiect – Dylech wario’r arian fel y dywedoch y byddech (Oni bai ein bod wedi cytuno i rywbeth gwahanol yn gynharach). Efallai byddwn yn gwirio’r prosiect o bryd i’w gilydd i weld sut mae popeth yn mynd.

Telerau ac Amodau Sylfaenol ar gyfer Camau Cynaliadwy Cymru: Grantiau Egin

Rhannu eich stori – Gallwch ddweud wrth eich cymuned leol, rhannu eich newyddion da ar gyfryngau cymdeithasol neu gysylltu â phapurau newydd lleol. Mae gwybodaeth am sut i hysbysebu eich grant. Byddwn yn gwneud cyhoeddiad i’r wasg a’n rhannu eich stori.

Pwy’n sy’n gallu ymgeisio a pheidio

Bydd angen i'r grŵp sydd yn gwneud y cais dderbyn Mentora gan Egin, a chwblhau Cynllun Gweithredu.

Gallwn ariannu'r grwpiau sydd ag o leiaf tri pherson sydd yn anghysylltiedig ar eu panel neu bwyllgor.

Bydd angen i'r grŵp gael Banc Prydeinig, neu Gyfrif Cymdeithas Adeiladu mewn enw cyfreithiol o'ch sefydliad, ag o leiaf dau berson yn anghysylltiedig a ellir rheoli'r cyfrif.

Drwy beidio â bod yn gysylltiedig, rydym yn golygu pobl nad ydynt:

  • yn gysylltiedig drwy waed â'i gilydd
  • yn briod â'i gilydd
  • mewn partneriaeth sifil â'i gilydd
  • mewn perthynas hirdymor â'i gilydd
  • yn byw gyda'i gilydd yn yr un cyfeiriad.

Bydd angen i'ch grŵp fod yn un o'r isod:

  • Elusen gofrestredig
  • Sefydliad cymunedol neu wirfoddol
  • Sefydliad corfforedig elusennol (CIO)
  • Cymdeithas gydweithredol (os oes ganddi gymal nid er elw)
  • Cwmni cyfyngedig drwy warant (os oes ganddo gymal nid er elw).
  • Cwmni buddiannau cymunedol
  • Cymdeithas buddiant cymunedol
  • Sefydliad gwirfoddol neu gymunedol heb ei gofrestru
  • Cynghorau tref a chymuned (cyhyd â bod cefnogaeth gref gan y gymuned i ddatblygu’r syniad).
  • Ysgol (hyd nes bod eich prosiect yn elwa’r gymuned, a’r gymuned o amgylch yr Ysgol).

Mae croeso i bartneriaethau o bob sector wneud cais, cyhyd â bod y prif ymgeisydd yn un o’r mathau o sefydliadau a restrir uchod. Rhaid bod gan eich sefydliad bwyllgor rheoli gydag o leiaf dri aelod digyswllt sy’n 18 oed neu'n hŷn.

Y prosiectau rydym yn ei ariannu

Hoffem helpu grwpiau cymunedol yng Nghymru sy’n dechrau gweithredu yn erbyn newid hinsawdd a byw mewn ffordd fwy cynaliadwy. Bydd ein grantiau’n helpu grwpiau sy’n derbyn cefnogaeth gan Egin i gychwyn eu syniadau.

Bydd grwpiau y byddwn ni’n eu hariannu wedi cwblhau cynllun gweithredu ac yn barod i ddatblygu un neu’n fwy o’u syniadau.

Byddwn ni’n ariannu amrywiaeth o brosiectau ledled Cymru. Er enghraifft, gallai prosiectau ymwneud â bwyd, trafnidiaeth, ynni, neu wastraff a defnydd.

Dylai prif ffocws eich prosiect fod ar ymgysylltu â newid hinsawdd a byw mewn ffordd fwy cynaliadwy, ond hoffem wybod hefyd am fuddion eraill eich prosiect. Gallai’r rhain gynnwys pethau fel gwella lles pobl, gwella perthnasoedd rhwng pobl a sefydliadau, neu wella bioamrywiaeth. Hoffem ariannu prosiectau sydd wedi meddwl am yr effaith y bydd eu gweithgareddau yn ei chael ar yr amgylchedd, a lle bo’n bosibl, cyfyngu ar unrhyw beth sy’n niweidiol.

Hoffem ariannu prosiectau a fydd yn rhannu’r hyn y maen nhw wedi’i ddysgu ag eraill. Byddwn ni’n ariannu sefydliadau sy’n dymuno dysgu, ac yn bwriadu rhannu hynny gyda grwpiau tebyg.

Rydym ni’n annhebygol o ariannu:

  • prosiectau na fyddant yn helpu pobl newid y ffordd y maen nhw’n ymateb i’r argyfwng hinsawdd neu fyw mewn ffordd fwy cynaliadwy
  • prosiectau nad ydynt yn canolbwyntio’n ddigon cryf ar newid hinsawdd, hyd yn oed os bydd manteision eang ar gyfer eich cymuned neu les pobl.
  • prosiectau lle nad yw’r gymuned wedi bod yn rhan o ddatblygu’r syniad

Os yw eich prosiect yn canolbwyntio ar les, efallai y bydd hi’n well gennych wneud cais i’n rhaglenni Pawb a’i Le neu Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol.

Ar beth y gallwch chi wario’r arian

TF22 026 Sustainable Steps Wales Vehicles guidance Welsh 02Rydym ni’n cynnig grantiau hyd at £15,000, i dalu am gostau cyfalaf a refeniw.

Gall costau refeniw gynnwys cyflogau staff y prosiect, treuliau gwirfoddolwyr a chostau dysgu a gwerthuso.

Gall costau cyfalaf gynnwys prynu, adnewyddu neu ddatblygu tir, adeilad neu waith adeiladu arall.

Ar gyfer prosiectau tir ac adeiladu, bydd angen i chi ddarparu’r canlynol i ni:

  • Dogfennau sy’n dangos mai chi sy’n berchen ar y tir neu’r adeilad. Gall fod yn rhydd-ddaliadol neu’n les-ddaliadol.
  • Os yw eich perchnogaeth yn rhydd-ddaliadol, rhaid i’r les fod am isafswm o bum mlynedd o’r adeg y byddwch chi’n cwblhau’r gwaith yr hoffech ei wneud, ac ni ddylai fod unrhyw gymalau terfynu yn y ddogfen lesio.
  • Tystiolaeth fod yr holl ganiatâd angenrheidiol ar gyfer datblygiad a/neu ddefnydd yr eiddo wedi cael eu caffael
  • Tystiolaeth eich bod wedi derbyn o leiaf tri amcangyfrifiad gan dri adeiladwr annibynnol.

Os ydym ni’n gofyn am un, anfonwch gopi o adroddiad y syrfëwr atom i ddangos cyflwr yr eiddo i ni, ei werth ac a yw’n addas ar gyfer y prosiect.

Gallwn ariannu costau cerbydau trydanol. Gallwch ddarllen ein canllawiau am gostau cerbydau trydanol i gael rhagor o wybodaeth.

Gallwn ariannu prosiectau fel arfer am hyd at 12 mis.

Gallwn ariannu rhan o’ch prosiect, neu hyd at 100% o’ch prosiect.

Byddwn ni fel arfer yn ariannu costau hyd at £15,000 neu’n llai.

Ni allwn ariannu:

  • ymgyrchu
  • alcohol
  • gwneud elw
  • TAW adenilladwy
  • gweithgareddau sy’n disodli ariannu gan y llywodraeth – cyn i chi ymgeisio, dylech ymchwilio i ba gymorth sydd eisoes ar gael
  • gweithgareddau gwleidyddol neu grefyddol
  • talu rhywun arall i ysgrifennu eich cais.