Lawrlwythwch logo Cynaliadwy Cymru

Llongyfarchiadau ar eich grant. Fel rhan o'ch grant, gofynnwn i chi ddefnyddio'r logo dwyieithog hwn ar unrhyw ddeunyddiau rydych chi'n eu cynhyrchu, fel posteri neu daflenni. Dylech hefyd ei ddangos ar eich gwefan a'ch cyfryngau cymdeithasol os oes gennych chi.

Bydd arddangos y logo dwyieithog yn dangos i bobl sy'n elwa o'ch gwaith eich bod wedi derbyn grant drwy Gronfa Asedau Segur Camau Cynaliadwy Cymru. Dim ond prosiectau sydd wedi derbyn grant all ddefnyddio'r logo hwn, felly gobeithiwn y byddwch yn ei weld fel cydnabyddiaeth o'ch llwyddiant.

Defnyddiwch y logo yn union fel y mae - rydym wedi dylunio'r logo i weithio fel un darn o waith celf. Peidiwch â newid na thynnu unrhyw ran ohono, gan gynnwys newid y lliwiau, neu gael gwared o’r gofod gwyn o amgylch y logo.

Lawrlwytho’r logo

Fformatiau

Mae ar gael mewn dau fformat ffeil. Rydym yn argymell y fformat 'JPEG' ar gyfer y rhan fwyaf o ddefnyddiau o ddydd i ddydd, gan gynnwys dogfennau Word, gwefannau neu gyfryngau cymdeithasol.

Rydym hefyd wedi darparu fformat 'EPS', y cyfeirir ato weithiau fel ffeil ‘vector’. Dim ond mewn meddalwedd dylunio proffesiynol y bydd y ffeil hon yn gweithio, a dylid ei defnyddio ar gyfer print a nwyddau ar raddfa fawr (fel baneri, stondinau, sticeri cerbydau mawr).

Rydym am i'r logo dwyieithog fod yn ddarllenadwy ac yn adnabyddadwy. Felly gwnewch yn siŵr nad yw'n llai na 30mm o uchder ar unrhyw ddeunydd printiedig. Os ydych chi'n ei ddefnyddio ar eich gwefan, gwnewch yn siŵr ei fod yn ddigon mawr i fod yn ddarllenadwy. Ni ddylid byth ei ymestyn.

Rhannu eich stori

Bydd ein tîm Cyfathrebu yn cysylltu â chi cyn i ni gyhoeddi eich grant. Byddwn yn cyhoeddi'r newyddion da am eich grant ar ein gwefan ac yn anfon y stori at y cyfryngau. 

Mae rhoi cyhoeddusrwydd i'ch prosiect yn bwysig fel y gall pobl ddysgu am y gwaith rydych yn ei wneud gyda'ch grant gan Camau Cynaliadwy Cymru. Un o'r ffyrdd hawsaf y gallwch roi cyhoeddusrwydd i'ch grant a hyrwyddo'r gwaith a wnewch yw ar sianeli cyfryngau cymdeithasol fel Twitter a Facebook. 

Efallai yr hoffech chi rannu'r newyddion da ar eich llwyfannau cyfryngau cymdeithasol. Os ydych chi, tagiwch ni

Twitter: @TNLComFundWales

Facebook: @TNLCommunityFundWales

Defnyddiwch yr hashnod #Camaucynaliadwycymru yn eich postiadau hefyd.

Cyhoeddiad i’r wasg

Os ydych yn anfon gwybodaeth i'r cyfryngau, gallech ddefnyddio'r wybodaeth isod yn y Nodiadau i Olygyddion:

Nodiadau DRAFFT i Olygyddion:

Diffinnir cyfrifon segur yn Neddf Asedau Segur 2022 fel y rhai nad ydynt wedi gweld unrhyw weithgarwch a gychwynnwyd gan gwsmeriaid am o leiaf 15 mlynedd.

O dan Ddeddf Asedau Segur 2022, mae'r Gronfa Adennill yn rhyddhau arian o gyfrifon banc segur a chynnyrch ariannu eraill i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i'w dosbarthu i achosion da ledled y DU.

Trosglwyddodd y Gronfa Adennill Cyf. (RFL), a sefydlwyd ym mis Mawrth 2011, i dderbyn a buddsoddi balansau cyfrif segur ledled y DU, y gyfran gyntaf o arian o gyfrifon banc a chymdeithas adeiladu segur i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ar 2 Awst 2011. Mae Deddf Asedau Segur 2022 wedi cynyddu cwmpas y cynllun. Gallwch ddarllen rhagor ar wefan y Gronfa Adennill.

Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yw'r ariannwr cymunedol mwyaf yn y DU sy'n dyfarnu arian, a godwyd gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, i gymunedau lleol. Ers mis Mehefin 2004, rydym wedi dyfarnu dros 200,000 o grantiau ac wedi dyfarnu dros £9 biliwn i brosiectau sydd wedi bod o fudd i filiynau o bobl. Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn gweinyddu arian o’r Gronfa Asedau Segur.

Cysylltwch â ni

Os hoffech gael cymorth gyda brandio neu hyrwyddo eich grant

Cysylltwch â ni - rydym yn hapus i helpu:

e-bost: wales.communications@tnlcommunityfund.org.uk

ffôn: 0300 123 0735