Pwyllgor Ariannu Deyrnas Unedig

Tony Burton CBE

Is-gadeirydd a Chadeirydd Archwilio a Risg

Tony Burton CBE

Mae Tony Burton CBE yn un o aelodau cyffredinol y Gronfa.

"Mewn byd sy'n newid yn gyflym mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ar genhadaeth i drawsnewid bywydau cymunedau a phobl sydd mewn angen mwyaf. Fel Is-gadeirydd mae'n bleser gennyf fedru chwarae rôl gynyddol wrth ddatgloi potensial cymunedau i wella'u bywydau ac ansawdd eu cymdogaethau."

Mae Tony yn gweithio'n helaeth ar ystod eang o brosiectau cymunedol ac amgylcheddol, gan gynnwys darparu cefnogaeth ar gyfer grwpiau cymunedol ar gynllunio cymdogaethau ac fel Cadeirydd Gweithredol Tai Cynaliadwy. Hefyd, mae'n rhoi cyngor i HS2 ar ddylunio ac i Lafarge Tarmac ar gynaladwyedd ac mae'n un o ymddiriedolwyr Cyfeillion y Ddaear. Sefydlodd Tony Civic Voice - elusen genedlaethol y mudiad dinesig - yn 2010 ac mae ganddo dros bum mlynedd ar ugain o brofiad ar Fyrddau elusennau cenedlaethol, gan gynnwys yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Campaign to Protect Rural England a'r Cyngor Dylunio.

Mae Tony yn ymddiriedolwr ei gymdeithas ddinesig leol yn Mitcham. Dyfarnwyd CBE iddo yn Anrhydeddau'r Jiwbilî ar gyfer gwasanaethau i gynllunio, llywodraeth leol a chymunedau a gellir dod o hyd iddo ar Twitter fel @Tony4Place

Elizabeth Passey

Elizabeth Passey

Mae Elizabeth Passey yn un o aelodau cyffredinol y Gronfa.

Mae Elizabeth yn Uwch Ymgynghorydd i J Stern & Co, ac yn Gyfarwyddwr Anweithredol VPC Specialty Lending Investments plc. Mae hi'n Gynullydd Prifysgol Glasgow, Cadeirydd Sefydliad y Gwy a'r Wysg ac yn Aelod Cyngor ac Is-gadeirydd blaenorol Cymdeithas Sŵolegol Llundain. Mae hi hefyd yn Aelod o Bwyllgor Rhaglenni WWF-UK

Mae hi wedi gwasanaethu fel Rheolwr Gyfarwyddwr Morgan Stanley ac yn Gadeirydd Bwrdd Sefydliad Rhyngwladol Morgan Stanley, ac fel Rheolwr Gyfarwyddwr Investec Asset Management. Mae hi'n gyn-ymddiriedolwr Sefydliad Cymunedol Isle of Dogs. Mae Elizabeth yn Rhyddfreiniwr Cwmni Goldsmiths, a graddiodd gyda gradd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf o Brifysgol Glasgow.

Sian Callaghan

Sian Callaghan

Mae Sian wedi gweithio mewn cysylltiadau cyhoeddus, materion cyhoeddus a marchnata ers 28 mlynedd yn y sectorau preifat, cyhoeddus ac nid-er-elw. Er mis Gorffennaf 2014 mae hi wedi bod yn Gyfarwyddwr Cyfathrebu'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yng Nghasnewydd.

Roeddwn i'n awyddus i ymuno â Phwyllgor Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ar ôl gweld yr effaith y mae ein hariannu'n ei chael ar gymunedau ym mhob cwr o Gymru, ac rwyf wrth fy modd â bod yn rhan o dîm sydd â budd pobl Cymru wrth ei wraidd. Mae ymweld â'r prosiectau a gefnogwn a chlywed sut rydym yn helpu i wella bywydau wedi bod yn ysbrydoliaeth."

Yn flaenorol gweithiodd Sian i Centrica, rhiant-gwmni Nwy Prydain mewn amrywiaeth o rolau cyfathrebu am 18 mlynedd. Mae hi hefyd wedi gweithio i Ffederasiwn Cymdeithasau Tai Cymru yng Nghyngor Sir Morgannwg Ganol ac wedi ymwneud â chysylltiadau cyhoeddus a marchnata ar gyfer nifer o frandiau defnyddwyr, yn gweithio yng Nghymru ac ar draws y Deyrnas Unedig.

Yn briod â Rob, mae Sian yn byw yng Nghaerdydd. Bu'n aelod o fyrddau Shelter Cymru a Chymdeithas Tai Cadwyn yn y gorffennol ac mae ganddi radd mewn Astudiaethau Cyfathrebu.

Kevin Bone

Kevin Bone

Kevin Bone yw Partner a Phennaeth Deyrnas Unedig Impact Ventures UK.

"Mae ffocws y Gronfa ar weithredu cynnar a phwyslais ar gymunedau'n ddau'n unig o'r pethau a wnaeth i mi deimlo mor gyffrous am ymuno. Mae'n anrhydedd gennyf gael y cyfle i gefnogi'r tîm yn eu gwaith gwych."

Mae'n gyfrifydd cymwysedig ac yn weithiwr buddsoddi proffesiynol profiadol. Mae ganddo gyfoeth o brofiad ac arbenigedd sector preifat mewn buddsoddi mewn effaith gymdeithasol a llywodraethu yn y sector cymdeithasol.

Eileen Mullan

Eileen Mullan

Eileen has worked within and for the public, voluntary and community sectors for over eighteen years. During that time she has been privileged to be a part of many projects that impacted greatly on communities across Northern Ireland. They have included projects focused on access to education, the environment, enterprise development in areas of social disadvantage along with equality and diversity.

"I am delighted to have been appointed to the NI Committee of The National Lottery Community Fund. I have watched the impact this Fund has made across communities over the last ten years and have seen the real tangible benefits from it. I look forward to continuing this great work and being a part of The National Lottery Community Fund’s next chapter.”

Eileen is a trusted advisor to leading NI boards and a coach who has worked with leaders across the public and third sectors. Founder of Strictly Boardroom and the Boardroom Apprentice, enabling and empowering the next generation of decision makers. She holds an MSc in Management and Corporate Governance along with an IOD Diploma in Company Direction. Eileen holds Non Executive roles within Health and Regulation and is a powerhouse in advocating for diversity and a champion for change.

Aaliya Seyal

Aaliya Seyal

Aaliya has over 16 years of senior management experience in voluntary sector organisations.

She is Director of Customer Journey at Citizens Advice Scotland. She is also a member of the Scottish Refugee Council’s board of Directors and a lay member of The Law Society of Scotland, Civil Legal Aid Quality Assurance Sub-Committee and Equality and Diversity Committee.