
Is-gadeirydd a Chadeirydd Archwilio a Risg
Mae Tony Burton CBE yn un o aelodau cyffredinol y Gronfa.
"Mewn byd sy'n newid yn gyflym mae Cronfa Gymunedol y Loteri
Genedlaethol ar genhadaeth i drawsnewid cymunedau a bywydau'r bobl mewn
angen mwyaf. Fel Is-gadeirydd rwyf wrth fy modd â medru chwarae rôl
gynyddol wrth ddatgloi potensial cymunedau i wella'u bywydau ac ansawdd
eu cymdogaethau. "
Mae Tony yn gweithio ar ystod eang o
brosiectau cymunedol ac amgylcheddol, gan gynnwys darparu cefnogaeth ar
gyfer grwpiau cymunedol ar gynllunio cymdogaethau ac fel Cadeirydd
Gweithredol Sustainable Homes. Hefyd, mae'n cynghori HS2 ar ddyluniad a
Lafarge Tarmac ar gynaladwyedd ac mae'n ymddiriedolwr Cyfeillion y
Ddaear. Sefydlodd Tony Civic Voice - yr elusen genedlaethol dros y
mudiad dinesig - yn 2010 ac mae ganddo dros 25 mlynedd o brofiad ar
fyrddau elusennau cenedlaethol, gan gynnwys yr Ymddiriedolaeth
Genedlaethol, Campaign to Protect Rural England a'r Cyngor Dylunio.
Mae
Tony yn ymddiriedolwr ar gyfer ei gymdeithas ddinesig leol yn Mitcham.
Dyfarnwyd CBE iddo yn Anrhydeddau'r Jiwbilî ar gyfer gwasanaethau i
gynllunio, llywodraeth leol a chymuned. Gellir dod o hyd iddo ar twitter
fel @Tony4PlaceGoes to different website.
Bydd Tony yn ymgymryd â swydd yr Is-gadeirydd o 1 Mehefin 2014 yn dilyn ymadawiad Anna Southall.