Panel Cynghori Pobl Ifanc yn Arwain Cymru

Ein tîm Llais Ieuenctid Cymru

Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yw cyllidwr mwyaf gweithgarwch plant a phobl ifanc ledled y DU.

Mae dros draean o’n cyllid yn mynd tuag at y grwpiau ar lawr gwlad lleiaf yr holl ffordd i elusennau mawr DU-cyfan i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn ffynnu. Yn 2020, gwnaethom recriwtio panel o bobl ifanc ledled Cymru i gyd-ddatblygu ein rhaglen Meddwl Ymlaen gyda ni. Mae’r gwaith hwn yn parhau wrth i ni geisio sicrhau bod lleisiau pobl ifanc wedi’u cynnwys yn ein gwaith i gyd, boed yw hynny trwy’r grantiau a wnawn, y bobl rydym ni’n eu dylanwadu neu’r pethau rydym ni’n eu dysgu.

Trwy banel ymgynghori Tîm Llais Ieuenctid Cymru, rydym yn ceisio mynd i’r afael â’r materion y mae pobl ifanc a’u cymunedau yn eu wynebu, gyda’r nod o lywio newid arwyddocaol a chadarnhaol mewn cymunedau.

Mae Tîm Llais Ieuenctid Cymru’n cyfarfod â’n Tîm Gwybodaeth a Dysgu yng Nghymru ac yn penderfynu fel tîm ar ba waith i ganolbwyntio arno a sut i gyflawni hyn. Maen nhw hefyd yn derbyn cefnogaeth ac arweiniad gan ein staff fel rhan o becyn hyfforddiant wedi’i deilwra i ddatblygu eu sgiliau a’u profiad.

Ar hyn o bryd, rydym ni’n recriwtio dau aelod newydd i ymuno â’n tîm. Os oes diddordeb gennych, darllenwch ein hysbyseb.

Os oes unrhyw ymholiadau gennych neu os hoffech chi drafod y grŵp ymhellach, mae croeso i chi gysylltu â ni cymru@cronfagymunedolylg.org.uk

Jessica

Jessica

Mae Jessica yn 21 oed ac yn dod o Aberdâr. Bydd yn dechrau astudio gradd BA yn y Celfyddydau Creadigol a Therapiwtig ym Mhrifysgol De Cymru eleni. Yn 2019, fe wnaeth hi a'i chyfoedion sefydlu y What If Project i gefnogi ac addysgu pobl ifanc â'u hiechyd meddwl.

“Mae bod yn rhan o dîm Pobl Ifanc yn Arwain Cymru yn gyfle gwych i symud ymlaen a chefnogi pobl ifanc yng Nghymru.”

Serena

Serena

Mae Serena yn 22 oed ac yn byw ym Mhenarlâg yn Sir y Fflint. Mae hi'n gweithio fel Cynorthwyydd Ymgysylltu Creadigol yn Theatr Clwyd gan weithio gyda grwpiau cymunedol i ddefnyddio'r celfyddydau i wella iechyd, lles a hygyrchedd, ac mae hi eisiau cefnogi pobl LHDT + ifanc yng Nghymru.

“Mae Arian y Loteri Genedlaethol yn hynod o bwysig oherwydd bydd yn caniatáu inni greu'r lleoedd sydd eu hangen i hwyluso ein prosiect gwydnwch ieuenctid. Mae cynnydd unigrwydd a materion iechyd meddwl ymhlith pobl ifanc, yn enwedig yn ystod y pandemig, wedi ei gwneud yn bwysicach nag erioed i ni greu allfa ar gyfer cysylltiad.”

Tilly

Tilly

Mae Tilly yn 17 oed ac yn astudio Chwaraeon yn Academi Chwaraeon Llandarcy. Mae hi'n gweithio gyda Gweilch yn y Gymuned yn cefnogi'r gymuned trwy rygbi a chwaraeon eraill.

“Trwy dîm Pobl Ifanc yn Arwain Cymru, rwy’n gobeithio defnyddio chwaraeon i gefnogi a chodi ymwybyddiaeth o’r gwaith sy’n cael ei wneud yng Nghymru i bobl ifanc.”

Tom

Tom

Mae Tom yn 23 oed ac yn dod o Gaerffili sydd ar hyn o bryd ar secondiad ac yn gwirfoddoli gyda NYAS Cymru dra hefyd yn gweithio gydag Academi Arweinyddiaeth Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru.

“Rwy’n teimlo balchder mawr o allu dylanwadu ar benderfyniadau mawr a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar bobl ifanc Cymru. Mae'r profiad hwn yn amhrisiadwy i mi. Mae’n wych gallu dylanwadu ar benderfyniadau sy’n cael eu gwneud sy’n bwysig i ni fel pobl ifanc a gallu gwneud gwahaniaeth.”