Uwch dîm rheoli

David Knott

David Knott

Prif Swyddog Gweithredol Dros Dro

Penodwyd David yn Brif Swyddog Gweithredol Dros Dro ym mis Mehefin 2021. Ymunodd â'r Gronfa ym mis Hydref 2020.

"Mae'n anrhydedd cael fy ngwneud i arwain Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol fel Prif Swyddog Gweithredol ar gyfer y cam nesaf. Byddaf yn canolbwyntio ar roi cymunedau yn arwain, gan helpu i sicrhau bod y Gronfa yn barod i ddod allan o'r pandemig a darparu'r cymorth y mae mawr ei angen i bobl a chymunedau ledled y DU."

Mae David wedi cael gyrfa amrywiol yn y gwasanaeth cyhoeddus, yn fwyaf diweddar fel Cyfarwyddwr Swyddfa'r Gymdeithas Sifil. Yn y rôl hon roedd yn gyfrifol am bolisi ar elusennau, gwirfoddoli, pobl ifanc, dyngarwch, asedau segur, buddsoddi effaith a busnes a arweinir gan genhadaeth. Mae hefyd wedi gweithio'n rhyngwladol, gan gynghori ar lywodraethu a pholisi cyhoeddus mewn mwy na dwsin o wledydd, ac yn y sector preifat. Mae'n mwynhau arwain pobl a sefydliadau i gefnogi gwelliant cymdeithasol. Mae ei arweinyddiaeth wedi rhychwantu meysydd addysg, iechyd, cymdeithas sifil a datblygu cymunedol yn arbennig, a phynciau gan gynnwys symudedd cymdeithasol, unigrwydd a newid diwylliant. Mae ganddo ddwy radd mewn economeg ac un radd mewn Polisi Cyhoeddus gan Ysgol Economeg a Gwyddor Gwleidyddol Llundain.

Kate Beggs

Kate Beggs

Cyfarwyddwr Gogledd Iwerddon

Penodwyd Kate yn gyfarwyddwr Gogledd Iwerddon Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ym mis Ionawr 2019.

Meddai Kate: “Rwy'n falch o weithio dros Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol a chael y cyfle i gwrdd ag amrywiaeth eang o fudd-ddeiliaid, gwirfoddolwyr a buddiolwyr sy'n ymwneud â'r prosiectau a ariannwn.

“Mae'n gyffrous gweld pobl yn defnyddio grantiau Loteri Genedlaethol i gymryd rheolaeth a dod â'u syniadau eu hunain am gryfhau cymunedau yng Ngogledd Iwerddon ac ar draws y Deyrnas Unedig yn fyw. Mae'n anhygoel gweld y gwahaniaeth gwirioneddol a pharhaus y mae hyn yn ei wneud i fywydau pobl hefyd."

Mae Kate yn arwain gweithgareddau arian grant, rheoli perthnasoedd a gweithrediadau'r Gronfa yng Ngogledd Iwerddon.

Cyn ymuno â'r Gronfa, bu Kate yn arweinydd profiadol yn y sector cyhoeddus, gyda 17 mlynedd yng Ngwasanaeth Sifil y Deyrnas Unedig. Yn flaenorol bu'n Ddirprwy Gyfarwyddwr yn Swyddfa Gogledd Iwerddon, gan arwain eu gweithgareddau ennyn diddordeb gwleidyddol a chymunedol allanol.

Cyn ymuno â Swyddfa Gogledd Iwerddon, daliodd Kate gyfres o rolau yn y Gwasanaeth Diplomyddol, yn y Deyrnas Unedig a thramor.

Phil Chamberlain

Phil Chamberlain

Cyfarwyddwr Lloegr

Ymunodd Phil â’r Gronfa ym mis Mehefin 2022 fel Cyfarwyddwr Lloegr (Strategaeth, Partneriaethau ac Ymgysylltu). Mae’n gyfrifol dros oruchwylio ein portffolio ariannu mwyaf a sicrhau bod ein strategaeth ariannu newydd wedi’i hysbysu orau gan bartneriaethau ac ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol.

Yn fwyaf diweddar, Phil oedd y Cyfarwyddwr Gweithredol dros Ymgysylltiad Allanol yn City Lit – coleg addysg i oedolion mwyaf Llundain. Cyn hynny, roedd ganddo nifer o rolau arwain uwch yn Youth Sport Trust, Legacy Trust UK a’r Gronfa Loteri Fawr. Treuliodd Phil 10 mlynedd yn y Gwasanaeth Sifil hefyd, gan weithio ar amrywiaeth o faterion polisi ac ymgyrchoedd rhyngwladol proffil uchel, yn ogystal â’n uniongyrchol o fewn swyddfa breifat Gweinidog.

Mae gyrfa Phil hyd heddiw wedi arwain at brofiad helaeth mewn datblygu strategaethau, cyfathrebu corfforaethol, ymgysylltiad gwleidyddol, datblygu polisïau a rhaglenni, dosbarthu cyllid, arweinyddiaeth strategol a chysylltiadau rhanddeiliaid. Mae’n unigolyn ymroddedig a brwdfrydig, sy’n cynnig ymdeimlad o bwrpas yn ogystal â hiwmor.

“Rwy’n ddigon ffodus fy mod wedi fy hysbysu gan fy holl brofiadau, ac rwy’n gyffrous i ail-ymuno â theulu’r Loteri Genedlaethol – i helpu arwain a hyrwyddo gwaith Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i gefnogi’r cymunedau a’r unigolion y mae’n eu gwasanaethu orau.”

Emma Corrigan

Emma Corrigan

Cyfarwyddwr Lloegr

Ymunodd Emma â Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ym mis Gorffennaf 2022. Fel un o Gyfarwyddwyr Lloegr, mae Emma’n gyfrifol dros Arweinyddiaeth Rhaglenni, Gweithrediadau a Rhanbarthau Lloegr.

Gyda dros 20 mlynedd o brofiad o wneud grantiau, yn fwyaf diweddar roedd Emma’n Bennaeth Dylunio a Darparu i BBC Plant Mewn Angen, gan sicrhau darpariaeth lwyddiannus y gronfa ledled y DU ac arwain nifer o raglenni newid mawr ar gyfer yr elusen. Cyn hynny, gweithiodd i amrywiaeth eang o gyllidwyr, gan gynnwys Sefydliadau Cymunedol a Chymdeithasau Tai, gan ennill profiad arwyddocaol o lywodraethu a chydymffurfiaeth elusennol yn ystod yr adeg hon.

Mae Emma wedi bod yn eiriolwr cryf dros les a grymuso staff ar bob lefel o’r sefydliadau y mae hi wedi gweithio iddynt ac yn credu’n angerddol yn yr angen am gyfathrebiad agored a thryloyw.

“Rwyf wrth fy modd, fel rhywun y mae ei gyrfa wedi ymwneud â gwneud grantiau o ansawdd uchel, i allu ymuno â’r Gronfa i gefnogi gwaith o’r fath raddfa ac ehangder. Mae’r capasiti sydd ar gael i alluogi cymunedau ledled y DU yn wylaidd i mi, ac rwy’n barod i wrando ar gyfoeth gwybodaeth ac arbenigedd y sefydliad i weithredu newid cadarnhaol ac ystyrlon lle mae’r angen mwyaf amdano.”

Stuart Fisher

Cyfarwyddwr Cyllid

Ymunodd Stuart â’r Gronfa ym mis Ionawr 2022 fel Cyfarwyddwr Cyllid, lle mae’n gyfrifol am sicrhau rheolaeth ariannol gref, goruchwylio gwasanaethau archwilio mewnol, caffael a rheoli risg.

Yn ogystal â sicrhau cydymffurfiaeth â’r safonau, codau a rheoliadau perthnasol, mae’r gyfarwyddiaeth gyllid yn chwarae rôl bwysig wrth ychwanegu gwerth drwy ddarparu gwybodaeth reoli ddibynadwy a dadansoddiad risg i gefnogi gwneud penderfyniadau’n strategol.

Treuliodd Stuart amser yn gweithio ym meysydd cyfrifeg, archwilio a gwasanaethau proffesiynol yn flaenorol gydag adran sector cyhoeddus KPMG. Yn fwy diweddar, mae wedi treulio dros 11 mlynedd yn gweithio fel Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol ar gyfer tai cymdeithasol.

“Rwy’n teimlo’n freintiedig ac yn falch i allu gweithio i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, sefydliad sy’n helpu gwella cyfleoedd bywyd pobl ac yn hwyluso newid ac effaith gan adael etifeddiaeth o gymunedau cynaliadwy a chynhwysol. Yn ystod fy amser yn gweithio ym myd tai cymdeithasol, gwelais bwysigrwydd arwyddocaol datblygu a chynnal cymunedau sy’n ffynnu yn uniongyrchol; ac rwy’n edrych ymlaen at weithio â chydweithwyr i sicrhau bod cefnogi cymunedau ledled y DU wrth wraidd popeth a wnawn”.

Mae Stuart yn Gymrawd Cymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig ac mae ganddo dros 20 mlynedd o brofiad ôl-gymhwysol yn y sectorau cyhoeddus a phreifat. Mae hefyd bod mewn sawl rôl anweithredol.

Neil Harris

Neil Harris

Cyfarwyddwr Pobl

Mae gan Neil 6 mlynedd o brofiad o arwain agenda pobl adran Cyfanwerthu BT, lle cyflwynodd llawer o brosiectau newid mawr gan gynnwys lansio set newydd o 'werthoedd' cyflogeion, rheoli cyfuniadau a chaffaeliadau sylweddol a chyflwyno newid diwylliant i drawsnewid y profiad cwsmeriaid. Mae ganddo brofiad arweinyddiaeth arwyddocaol y tu allan i AD ar draws sectorau gwahanol hefyd sy'n ei helpu gweld ein blaenoriaethau trwy lensys lluosog a safbwyntiau budd-ddeiliaid; ac yn bwysicach sut mae mentrau pobl yn arwain at ddiwylliant a profiad cwsmeriaid y mudiad. Mae Neil yn credu'n gryf bod pobl hapus yn arwain at gwsmeriaid hapus; os yw ein diwylliant yn un iach bydd hynny yn ei dro'n gwella'r ffordd yr ydym yn gwasanaethu ein cymunedau.

“I mi nid yw bod yn wych wrth wneud AD yn ymwneud yn bennaf â phroses, mae'n ymwneud â bod yn gysylltiedig; trwy berthnasoedd a dealltwriaeth ddofn o'r mudiad gallwn gyflwyno gwasanaeth perthnasol a gwerthfawr i'r mudiad.”

Neil Ritch

Neil Ritch

Cyfarwyddwr yr Alban

Cafodd Neil ei benodi fel cyfarwyddwr Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn yr Alban ym mis Gorffennaf 2019.

Neil sy’n gyfrifol am ddatblygiad, darpariaeth, gweinyddiaeth a chyfathrebu rhaglenni grant Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn yr Alban a hefyd gwaith ac enw da’r Gronfa yn y wlad.

“Rwyf wrth fy modd i ddechrau fy rôl fel cyfarwyddwr yr Alban. Mae’r gwaith yr ydym yn ei wneud mor ddiddorol a chyffrous ag y mae wedi bod yn ystod yr holl amser yr wyf wedi bod yma. Mae’n lle gwych i fod ac rwy’n gyffrous i gael y cyfle i arwain ein gwaith ledled yr Alban.”

Ymunodd Neil â’r Gronfa gyntaf yn 2000 i sefydlu Cronfa Tir yr Alban ac ers hynny mae wedi bod mewn sawl rôl, o Swyddog Ariannu i Ddirprwy Gyfarwyddwr.

Cyn ymuno â’r Gronfa, dechreuodd Neil ei yrfa fel gweithiwr cymunedol yn Shetland a gweithiodd fel Gwas Sifil yn yr Alban yn y maes polisi gofal cymunedol, a roddodd sylfaen drylwyr iddo mewn gweithredu cymunedol a phwysigrwydd pobl leol yn arwain.

John Rose OBE

John Rose OBE

Cyfarwyddwr Cymru

John sy’n gyfrifol am ddatblygiad, darpariaeth a chyfathrebu gweithrediadau Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yng Nghymru, yn ogystal ag arwain strategaeth amgylcheddol DU-cyfan y Gronfa.

"Mae'r prosiectau rydym yn eu hariannu wir yn cyffwrdd â bywydau'r bobl a'r cymunedau y maent yn eu cefnogi. Rwy'n mwynhau gweld pobl a chymunedau'n arwain ac yn helpu hynny i barhau i ddigwydd, gan sicrhau bod arian y Loteri Genedlaethol yn cael ei wario'n dda ac yn dathlu'r effaith gadarnhaol y mae Arian y Loteri Genedlaethol yn ei chael ar gymunedau."

Mae John wedi mwynhau gyrfa amrywiol. Ar ôl hyfforddi fel cogydd cyn teithio'n rhyngwladol, aeth John ymlaen i astudio BA Systemau Amgylcheddol ac MSc Hydrobioleg Gymhwysol ym Mhrifysgol Cymru, cyn gweithio i Elusen Amgylcheddol. Treuliodd bum mlynedd yn gweithio ar Gronfa Gymunedol y Dreth Dirlenwi, gan reoli gweithrediadau yng Nghymru, Canolbarth Lloegr a De Orllewin Lloegr, cyn ymuno â Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn 2003.

Yn 2022, dyfarnwyd OBE i John yn Anrhydeddau’r Flwyddyn i gydnabod ei gyfraniad at y gymdeithas sifil.

“Rwyf wrth fy modd i dderbyn y wobr hon. Mae hi wedi bod yn anrhydedd gweithio i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ers 2003, ac yn yr amser hwnnw, bod yn dyst i’r gwaith anhygoel a wneir gan gymunedau, diolch i gyllid y Loteri Genedlaethol.”

Uwch dîm rheoli treuliau