Leaders with Lived Experience 2020

Ethnic Youth Support Team, 2019

Mae’r rhaglen hwn bellach ar gau.

Cefnogi sefydliadau a sefydlwyd neu a redir gan bobl sydd â phrofiad uniongyrchol o fater cymdeithasol, sy'n ceisio creu newid cadarnhaol i gymunedau a phobl sy'n rhannu'r profiadau hynny. Bydd y grant hwn yn cefnogi arweinyddiaeth profiad llygad y ffynnon, ac yn sicrhau bod profiad llygad y ffynnon yn chwarae rhan allweddol wrth lunio sut mae cymunedau'n symud tuag at adferiad ac adnewyddiad ar ôl effaith COVID-19. Disgwyliwn ariannu rhwng 30 a 40 o grantiau.

Ardal
Ledled y DU
Yn addas ar gyfer
Sefydliadau gwirfoddol neu cymunedol, a sefydlwyd neu a redir gan arweinwyr â phrofiad o lygad y ffynnon
Maint yr ariannu
£20,000 i £50,000
Terfyn amser ymgeisio

Mae’r rhaglen hwn bellach ar gau

Ymgeisio

Mae rhaglen Profiadau o Lygad y Ffynnon 2020 bellach ar gau

Nid ydym bellach yn derbyn ceisiadau ar gyfer y rhaglen Profiadau o Lygad y Ffynnon 2020. Os wnaethoch anfon cais, efallai byddwn mewn cysylltiad i ofyn rhagor o gwestiynau. Byddwn yn cysylltu â chi i roi gwybod i chi p’un ai y byddwn yn ariannu eich prosiect ai beidio erbyn diwedd 2020.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau yn y cyfamser
Cysylltwch â ni ar llygadyffynnon@cronfagymunedolylg.org.uk

Beth sy’n digwydd ar ôl i chi ymgeisio?

  1. Rydych chi'n anfon eich cais atom - byddwn yn asesu'ch cais. Rydym yn disgwyl llawer iawn o alw am yr arian hwn, felly bydd yn rhaid i ni wneud rhai penderfyniadau anodd ynghylch pa brosiectau i'w wobrwyo. Byddwn yn ceisio rhoi gwybod ichi am ein penderfyniad mewn wyth wythnos neu lai.
  2. Byddwn yn gofyn am ragor o wybodaeth am eich prosiect - byddwn yn anfon ffurflen ar-lein arall atoch i'w llenwi. Bydd hyn yn ein helpu i wneud penderfyniad terfynol ynghylch dyfarnu grant ai peidio. Bydd y ffurflen yn gofyn am ragor o fanylion am eich sefydliad, mwy o fanylion am eich prosiect, pwy fydd yn elwa o'r prosiect, manylion prif gyswllt ac uwch gyswllt, a chyllideb arfaethedig a datganiad banc diweddar. Bydd angen i chi anfon y wybodaeth hon atom cyn pen 10 diwrnod (rydym yn gwybod bod hyn yn eithaf cyflym, felly bydd rhywun yn eich cefnogi gyda hyn).
  3. Byddwn yn gwneud penderfyniad - bydd panel o'n staff a'n harweinwyr sydd â phrofiad llygad y ffynnon yn penderfynu a ddylid dyfarnu grant i'ch prosiect. Byddwn yn ceisio dweud wrthych ein penderfyniad mewn wyth wythnos neu lai, ar ôl i chi anfon mwy o wybodaeth atom am eich prosiect. Byddwn hefyd yn gwneud ein gwiriadau diogelwch (gallwch chi darganfod fwy am y gwiriadau a wnawn yma).
  4. Os yw'ch cais yn llwyddiannus - byddwn yn cysylltu â chi gyda'r newyddion da! Ar ôl i chi dderbyn grant gennym ni, dyma beth i'w ddisgwyl. Bydd y dudalen hon hefyd yn rhoi gwybod i chi am y pethau y mae angen i chi eu gwneud. Bydd ein partner dysgu, Ymgynghorwyr EP:IC, a arweinir gan bobl sydd â phrofiad llygad y ffynnon, mewn cysylltiad. Byddant yn eich cefnogi ar eich taith ac yn eich rhoi mewn cysylltiad â deiliaid grant eraill. Mae ein dysg o'r Rhaglen Beilot Arweinwyr â Phrofiad o Lygad y Ffynnon yn dangos na ddylai ymwneud ag arian grant yn unig. Dylai hefyd helpu i greu rhwydwaith o sefydliadau sy'n gallu dangos gwerth profiad llygad y ffynnon, a pharhau i gysylltu a rhannu dysg gyda'i gilydd (am ddwy flynedd o leiaf).
Pwy all ymgeisio

Gallwch ymgeisio os yw eich sefydliad:

  • wedi cael ei sefydlu gan arweinydd sydd â phrofiad o lygad y ffynnon
  • yn cael ei redeg gan arweinydd sydd â phrofiad o lygad y ffynnon
  • ag arweinyddiaeth sy'n adlewyrchu'r bobl y mae eisiau eu cefnogi.

Hefyd, mae angen i'ch sefydliad fod yn:

  • sefydliad gwirfoddol neu gymunedol
  • elusen gofrestredig
  • grŵp neu glwb gyda chyfansoddiad
  • cwmni nid er elw neu gwmni buddiant cymunedol.

Ni allwn dderbyn ceisiadau gan:

  • unigolion
  • unig fasnachwyr
  • cwmnïau y mae eu bwriad yw creu elw yn bennaf i'w ddosbarthu'n breifat
  • sefydliadau sydd wedi’u lleoli y tu allan i'r DU
  • ceisiadau a wneir gan un sefydliad ar ran sefydliad arall
  • ysgolion
  • cyrff statudol (gan gynnwys cynghorau tref, plwyf a chymuned)

Ariannu blaenorol

Gallwch ymgeisio am yr arian hwn, hyd yn oed os yw eich sefydliad eisoes wedi ymgeisio i ni am ariannu COVID-19, ni waeth p'un a fu eich cais yn llwyddiannus neu'n aflwyddiannus. Efallai y bu eich cais i'r Gronfa Cefnogaeth Coronafeirws Gymunedol (CCSF) yn Lloegr, neu i'n cronfa COVID-19 yng Nghymru, Yr Alban neu Ogledd Iwerddon.

Ond ni all y gweithgareddau prosiect rydych yn gwneud cais i'r Rhaglen Arweinwyr â Phrofiad o Lygad y Ffynnon 2020 amdanynt fod yr un peth ag unrhyw gais arall rydych wedi'i gyflwyno i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, gan gynnwys CCSF.

Ni allwn dderbyn ceisiadau gan:

Os nad ydych yn siŵr a allwch wneud cais

Cysyllltwch a ni. Gallwch hefyd weld pa raglenni ariannu eraill gallwch ymgeisio amdanynt.

Y prosiectau rydym yn ei ariannu

Mae’r rhaglen yn adeiladu ar Rhaglen Beilot Arweinwyr â Phrofiad o Lygad y Ffynnon. A bydd yn dyfarnu arian y Loteri Genedlaethol i gefnogi arweinyddiaeth profiad llygad y ffynnon wrth inni symud trwy argyfwng COVID-19.

Oherwydd effaith COVID-19, mae cyfle i helpu profiad llygad y ffynnon i chwarae rhan allweddol wrth lunio sut mae cymunedau'n symud tuag at adferiad ac adnewyddiad.

Mae hyn yn bwysig, oherwydd mae gan arweinwyr sydd â phrofiad llygad y ffynnon a'u sefydliadau y wybodaeth leol a chymunedol, a dealltwriaeth ddofn o'r heriau y mae eu cymunedau'n eu hwynebu, i helpu i adnewyddu cymunedau.

Mae'r grant am hyd at ddwy flynedd

Felly gallwch naill ai ganolbwyntio ar yr ymateb ar unwaith i argyfwng COVID-19, neu helpu cymunedau i adfer ac adnewyddu ar ôl effaith COVID-19, neu'r ddau.

Rydym am ariannu prosiectau sy'n cwrdd â'n blaenoriaethau ariannu:

  • gall arweinyddiaeth profiad llygad y ffynnon fod yn ganolog wrth ddatblygu strategaethau ar gyfer adnewyddu cymdeithas sifil trwy argyfwng COVID-19 a thu hwnt
  • cefnogi a datblygu arweinyddiaeth profiad llygad y ffynnon ar bob lefel mewn sefydliad
  • creu cyfleoedd newydd i arweinwyr a sefydliadau llygad y ffynnon , a fod profiad yn ganolog i unrhyw ymateb adfer ac adnewyddu COVID-19.

Beth yw ystyr 'arweinydd profiad llygad y ffynnon?

Rhywun sy'n defnyddio ei brofiad uniongyrchol o fater cymdeithasol i greu newid cadarnhaol i gymunedau a phobl sy'n rhannu'r profiadau hynny (ac yn gweithio gyda nhw i wneud hynny).

Er enghraifft, meddyliwn am arweinydd â phrofiad o lygad y ffynnon fel:

  • rhywun sydd wedi bod yn ddigartref sy'n gweithio i wella gwasanaethau digartrefedd
  • unigolyn â HIV sydd wedi sefydlu ac yn rhedeg gwasanaeth cymorth cymar-i-gymar i bobl eraill â HIV
  • rhywun sydd wedi colli rhywun annwyl i hunanladdiad sydd wedi sefydlu ac sy'n rhedeg grŵp cymorth i eraill sydd wedi colli rhywun oherwydd hunanladdiad.

Nid yw arweinydd profiad llygad y ffynnon yn:

  • unigolyn nad yw'n anabl sydd wedi gwirfoddoli gyda phobl anabl, ac eisiau sefydlu elusen anabledd
  • riant neu ofalwr rhywun â HIV sydd wedi sefydlu grŵp cymorth i bobl â HIV
  • person dosbarth canol sy'n rhedeg cynllun mentora dosbarth gweithiol.

Mae'n bwysig bod yr holl sefydliadau rydyn ni'n eu hariannu trwy'r rhaglen hon yn cael eu harwain gan arweinwyr profiad llygad y ffynnon. Rydyn ni am i bobl sydd â phrofiad llygad y ffynnon arwain ar ddylunio, datblygu a chyflawni'r gweithgareddau maen nhw'n eu cynllunio.

Pa fathau o brosiectau y byddwn yn eu blaenoriaethu

Roedd galw mawr am arian gan y Rhaglen Beilot Arweinwyr â Phrofiad o Lygad y Ffynnon. Ac rydym yn disgwyl y gallem gael llawer o geisiadau ar gyfer y rhaglen hon hefyd. Felly, roeddem am roi gwybod ichi un o'r rhesymau pam roedd rhai prosiectau'n fwy tebygol o gael arian yn ystod y rhaglen beilot, i'ch helpu chi wrth lenwi'ch cais.

Nid oedd y prosiectau roeddem yn fwy tebygol o'u hariannu ddim ond yn dangos rôl profiad llygad y ffynnon a chwaraewyd yn eu sefydliad ac yn y modd yr oedd eu prosiect yn cael ei redeg. Roeddent hefyd eisiau datblygu a chefnogi arweinyddiaeth profiad llygad y ffynnon.

Dyma rai enghreifftiau o brosiectau a allai wneud cais am y grant hwn:

  • Cynnwys arweinwyr profiad llygad y ffynnon wrth ddylunio a darparu gwasanaethau sy'n diwallu anghenion y cymunedau y mae COVID-19 yn effeithio fwyaf arnynt.
  • Creu amser a lle i arweinwyr profiad llygad y ffynnon feddwl mwy am strategaeth, amcanion a dylanwadu, neu ddatblygu strategaeth yn gyffredinol.
  • Creu amser a lle i arweinwyr profiad llygad y ffynnon ddylanwadu ar sut mae cymunedau'n gwella ac yn adnewyddu ar ôl effaith COVID-19, mewn ffordd strategol. Gall hyn fod ar gyfer ardal ddaearyddol benodol neu ar gyfer sector penodol.
  • Datblygu rhwydweithiau o gefnogaeth a chydweithrediad rhwng sefydliadau a arweinir gan brofiad, i greu strategaethau sy'n datrys croestoriadau mewn profiad llygad y ffynnon. Er enghraifft, gweithio gyda phobl sy'n gadael gofal du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig (BAME), neu bobl anabl mewn cymunedau lesbiaidd, hoyw, deurywiol, traws a queer + (LHDTQ+).
  • Helpu sefydliadau sy'n cael eu harwain gan brofiad i ddod yn fwy gwydn a chynaliadwy. Er enghraifft, trwy hyfforddiant, datblygiad personol neu broffesiynol, cynllunio i drosglwyddo arweinyddiaeth i eraill, gwella gallu digidol, neu becynnau cymorth i wella lles.
  • Cefnogi prosiectau sy'n bodoli eisoes neu greu prosiectau newydd sy'n helpu sefydliadau ac arweinwyr i ddiwallu anghenion y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu yn ystod y pandemig COVID-19.
  • Cefnogi gwaith sy'n bodoli eisoes neu greu prosiectau newydd sy'n helpu i atal argyfyngau fel COVID-19 rhag effeithio ar rai cymunedau (fel pobl anabl a chymunedau BAME) yn fwy nag eraill.

Bydd prosiectau a ariennir trwy'r rhaglen hon yn dod yn rhan o rwydwaith o sefydliadau, ochr yn ochr â sefydliadau a ariennir trwy'r rhaglen beilot. Bydd y sefydliadau hyn wedi bod yn ganolog i greu strategaethau i ail-lunio ein cymunedau a rhoi profiad llygad y ffynnon wrth wraidd y rhain.

Cyflwyno'ch prosiect yn Gymraeg

Os ydych chi'n derbyn grant gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ar gyfer prosiect yng Nghymru, bydd angen i chi ei gyflawni yn Gymraeg yn ogystal â Saesneg. Darllenwch ein arweiniad ar reoli eich prosiect yn ddwyieithog.

Ar beth gallwch wario’r arian

Gallwn ariannu ystod eang o eitemau am hyd at ddwy flynedd. Nid yw'r rhestr hon yn cynnwys popeth. Felly, os nad ydych chi'n siŵr, cysylltwch â ni.

Gallwn ariannu:

  • offer (e.g. offer swyddfa)
  • digwyddiadau unwaith yn unig
  • costau staff
  • costau hyfforddi
  • trafnidiaeth
  • cyfleustodau/costau cynnal
  • treuliau gwirfoddoli
  • gweithgareddau statudol
  • benthyciadau, gwaddolion neu log

Ni allwn ariannu:

  • cynhyrchu trydan a thaliadau tariff cyflenwi trydan
  • talu rhywun arall i ysgrifennu'ch cais
  • gweithgareddau gwleidyddol neu grefyddol
  • gweithgareddau gwneud elw neu godi arian
  • TAW y gallwch ei hawlio yn ôl
  • alcohol
  • prynu neu adnewyddu adeiladau, a elwir hefyd yn arian cyfalaf.

Os oes angen rian cyfalaf arnoch, rydym yn cynnig hynny ar rai rhaglenni ariannu eraill. Mae croeso i chi gysylltu â ni i drafod hyn.