Lansio Cronfa’r Deyrnas Unedig: cefnogi cymunedau i ddod ynghyd a’n helpu i fod yn gymdeithas fwy cysylltiedig
Ni ddylai pandemig wedi gorfod dweud wrthym pa mor bwysig yw cysylltiad cymdeithasol, ond mae COVID-19 wedi cynyddu fy nealltwriaeth o’i bwysigrwydd. Rwy’n siŵr nad fi yw’r unig un o’r farn honno.
Fel bodau dynol, mae angen cysylltiad arnom. Mae ein hiechyd a lles wedi’u gwreiddio’n ddwfn yn ein hangen am gymuned. Mae cysylltiad cymdeithasol yn effeithio ar ein disgwyliad oes a symudedd economaidd. Mae’n ein helpu i oresgyn sefyllfaoedd argyfwng a llywio gwell dyfodol.
Er nad ydym yn cadw pellter cymdeithasol mwyach, yn aml rydym ni ar wahân o’n gilydd, ac o fyd natur.
Dyma pam bod ein strategaeth newydd ‘Cymuned yw’r Man Cychwyn’ a Chronfa’r Deyrnas Unedig yn dechrau gyda’r sylfeini sy’n galluogi cymunedau i gysylltu, meithrin perthnasoedd a gweithredu ar y materion mwyaf pwysig iddyn nhw.
Hoffem helpu creu’r amodau gorau i gymunedau ddod ynghyd nawr ac yn y dyfodol. Beth sydd angen newid? A pha ddulliau a strwythurau sy’n gallu helpu? Sut allai ein stryd fawr, ein gweithleoedd, a’n cymdogaethau edrych petai cysylltiad cymdeithasol wrth wraidd eu dyluniad?
Yr hyn rydym yn gobeithio ei ariannu
Cronfa’r Deyrnas Unedig yw un o’n hymrwymiadau arwyddocaol cyntaf fel rhan o’n strategaeth newydd. Mae’r cyllid hwn wedi’i ddylunio i gefnogi cymunedau i gysylltu â’i gilydd mewn ffyrdd sy’n fwy addas ar gyfer ein bywydau newidiol. Mae’n gyfle i ail-adeiladu’r we gymdeithasol. Hoffem gefnogi prosiectau sy’n uchelgeisiol am newid systemau a llywio’r dyfodol ledled y DU.
Rydym ni’n canolbwyntio ar dair agwedd ar gysylltiad lle’r ydym ni’n credu y gall ein cyllid gael yr effaith fwyaf:
- Yn gyntaf, wrth bontio perthnasoedd rhwng pobl o wahanol gefndiroedd neu brofiadau, oherwydd gwyddom fod gan gysylltiad ar draws ffiniau cymdeithasol fudd cyhoeddus enfawr.
- Mae technoleg newydd yn ein helpu i gysylltu mewn mwy o ffyrdd nag erioed, ond maen nhw hefyd yn gallu ein gwahanu ymhellach. Felly, hoffem helpu creu cysylltiadau rhwng y byd ar-lein a’r byd all-lein.
- Yn olaf, hoffem helpu sicrhau bod pobl o bob cefndir yn cael cyfleoedd i ddod ynghyd i lywio dyfodol eu cymunedau a gweithredu ar yr hyn sydd bwysicaf iddyn nhw.
Os ydych chi’n credu bod eich prosiect yn cyd-fynd yn gryf â’r gofynion hyn, gallwch wneud cais trwy ein gwefan.
Os hoffech chi ddysgu rhagor, darllenwch feini prawf llawn y rhaglen a sut i ymgeisio.

Y mathau o brosiectau y gallem eu hariannu
Rydym ni’n bwriadu ariannu amrywiaeth eang o wahanol brosiectau; fodd bynnag, dim ond prosiectau sy’n gallu dangos sut y byddan nhw’n gwneud y canlynol y byddwn yn eu cefnogi:
- buddio cymunedau ledled y DU (neu gael y potensial i wneud hynny) – gallai hyn fod trwy rannu dysgu, dylanwadu, cydweithredu, cynnull neu gynnal gweithgareddau ledled gwledydd y DU a rhyngddynt
- cynyddu eu heffaith - gallai hyn fod trwy ehangu i leoliadau newydd, datblygu seilwaith, cryfhau darpariaeth neu gynyddu cyrhaeddiad
- cynnwys a buddio llefydd, pobl a chymunedau. Mae diddordeb arbennig gennym mewn prosiectau sy’n canolbwyntio ar bobl sy’n profi tlodi, anfantais neu wahaniaethu
- cael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd naturiol
- rhannu dysgu’n agored a bod yn fodlon addasu gyda diddordeb mewn gweithio gydag eraill ar draws sectorau neu systemau er mwyn cyflawni newid hirhoedlog.
I gael rhagor o wybodaeth am sut i ymgeisio, ewch i Gronfa’r Deyrnas Unedig, neu anfonwch e-bost at CronfaDU@cronfagymunedolylg.org.uk ac ymholiadau.cyffredinol@cronfagymunedolylg.org.uk.