Arwain newid cyflym ar raddfa: arweinyddiaeth, digidol a chysylltiad yn ystod #COVID19

Y Gronfa Ddigidol

Y Gronfa Ddigidol

Mae’r rownd gyntaf o’r Gronfa Ddigidol bellach ar gau. Dan edefyn 1 a 2, fe ddyfarnom £12.1 miliwn i 29 mudiad a £500,000 i gontract cefnogi i weithio â nhw. Mae £2.4 miliwn yn weddill o’r £15 miliwn a ddyrennir i’r Gronfa Ddigidol, fel y cyhoeddwyd yn 2018. Rydym wrthi’n gwneud ychydig o waith darganfyddiad i bennu anghenion micro-fudiadau ledled y DU, ac os yw’r anghenion hyn yn bennaf yn ddigidol. Byddwn yn defnyddio’r gwaith hyn i hysbysu sut y byddwn yn cefnogi’r grwpiau hyn yn 2020. Ynghyd â hyn, rydym yn cwmpasu sut y gall yr arian sy’n weddill gael yr effaith fwyaf, ac rydym yn gobeithio lansio nifer fach o gronfeydd strategol, bach yn 2020. Am ddiweddariadau rheolaidd ar y Gronfa Ddigidol, dilynwch blog canolig y tîm.

Darllen mwy am y rhaglen hon