Hyb y Jiwbilî Platinwm

PARCA, Peterborough

Drwy gydol 2022, cynhelir dathliadau ledled y DU i anrhydeddu 70 mlynedd o deyrnasiad Ei Mawrhydi y Frenhines.

I nodi’r digwyddiad pwysig hwn, rydym yn dod â chymunedau ynghyd ar draws tri maes allweddol drwy ein grantiau Jiwbilî Platinwm:

  • Ar draws cenedlaethau a Phobl Ifanc – Cryfhau perthnasau rhwng cenedlaethau a chreu etifeddiaeth ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
  • Adnewyddu Cymunedol – Cefnogi cyfleoedd newydd i bobl ddatblygu sgiliau a phrofiadau yn eu cymuned leol, yn ogystal â chyfleoedd i ddod â phobl ynghyd mewn ffyrdd newydd, ac mewn llefydd a mannau newydd neu wahanol.
  • Ein Byd Naturiol a Rennir – Cryfhau ein gofal a’n gweithredu’n lleol ar gyfer y byd naturiol.

Mae prosiectau a ariennir gan y Loteri Genedlaethol yn nodi’r Jiwbilî Platinwm mewn amrywiaeth o ffyrdd a bydd yr hyb hwn yn eich helpu chi a’ch prosiect i fanteisio ar eich grant Jiwbilî Platinwm i’r eithaf.

Mae’r hyb yn cynnwys cyngor gwych o sut i ddweud wrth y cyfryngau lleol am eich cynlluniau, i gysylltu â gwleidyddion lleol neu feddwl am y cyfryngau cymdeithasol a sicrhau bod eich prosiect ar fap cenedlaethol digwyddiadau’r Jiwbilî Platinwm.

Gallwch ddysgu rhagor am sut rydym yn cefnogi ein holl brosiectau a ariennir gan y Loteri Genedlaethol i gymryd rhan yn y dathliadau drwy edrych ar yr adrannau isod.