
Defnyddiwch ein logo
Rydym yn falch bod grantiau’r Loteri Genedlaethol yn cefnogi amrywiaeth o weithgareddau a phrosiectau mor eang i nodi’r Jiwbilî Platinwm ac rydym yn gobeithio y gallwch chi ein helpu i sicrhau bod cymaint o bobl â phosibl yn gwybod am y gefnogaeth hon.
Cyrchu’r logo
Gall yr holl ddeiliaid grant sy’n darparu gweithgareddau sy’n ymwneud â’r Jiwbilî Platinwm gyrchu fersiwn arbennig o’n logo sy’n gysylltiedig â’r emblem swyddogol ar gyfer Jiwbilî Platinwm Ei Mawrhydi y Frenhines. Bydd defnyddio’r fersiwn arbennig hon o’n logo yn sicrhau y bydd pobl sydd ynghlwm â’ch prosiect yn deall ei fod wedi cael ei gefnogi gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn ystod y flwyddyn goffa gyffrous hon.
Lle i ddefnyddio’r logo
Bydd rhoi ein logo Jiwbilî Platinwm rhywle gweladwy yn helpu gwneud hyn. Gallwch roi’r logo ar wal neu ar daflen. Dylech ei ychwanegu at eich gwefan, e-byst a chylchlythyrau neu sicrhau ei fod ar grysau-t neu offer – unrhyw le y gall pobl ei weld.
Lawrlwytho’r logo
Gallwch lawrlwytho ein logo Jiwbilî Platinwm isod. I gael y canllawiau llawn, gweler ein Canllawiau Brand (PDF, 1.4MB).