Pecyn cymorth cyfryngau

Planetary Boundaries, Birmingham

Ysgrifennu datganiad i’r cyfryngau

Mae anfon datganiad i’r cyfryngau i’ch gwasg lleol yn ffordd wych o amlygu newyddion am eich prosiect Jiwbilî Platinwm a ariennir gan y Loteri Genedlaethol. Anogwn i chi ddefnyddio ein templed datganiad i’r cyfryngau a darllen y cyfarwyddiadau a’r canllawiau’n ofalus.

Sut i ysgrifennu datganiad i’r cyfryngau

Dylai eich datganiad i’r cyfryngau ddweud wrth newyddiadurwyr pwy ydych chi ac am beth rydych wedi derbyn cyllid y Loteri Genedlaethol. Ysgrifennir datganiadau i’r cyfryngau yn y trydydd person ac maen nhw’n defnyddio iaith ffeithiol a phlaen. Mewn datganiad i’r cyfryngau, dylech osgoi defnyddio ansoddeiriau hyperbolig ym mhrif ran y datganiad, e.e. “anhygoel” a “gwych”. Er enghraifft, yn lle “ymgyrch newydd gwych y sefydliad”, dywedwch “ymgyrch newydd y sefydliad”.

Byddwch mor lleol â phosibl gyda’ch geiriau. Er enghraifft, cyfeiriwch at eich ardal leol drwy gydol y datganiad a’r ffaith eich bod am weithio gyda’r gymuned, ac ar ei chyfer.

Cynnwys dyddiadau embargo

Cyn anfon eich datganiad i’r cyfryngau, dylech gynnwys y dyddiad embargo Dydd Llun 21 Mawrth, 2022. Mae dyddiad embargo yn golygu y gallwch anfon y datganiad i’r cyfryngau, ond mae’n cyfarwyddo na ddylai ymddangos mewn print na chael ei ddarlledu i’r cyhoedd tan y dyddiad hwn.

Rhannu eich datganiad i’r cyfryngau

Unwaith rydych yn hapus gyda’ch datganiad ac wedi dilyn y canllawiau angenrheidiol, dylech gysylltu â’ch cyfryngau lleol. Gall y cyfryngau lleol olygu papurau newydd y gallwch eu prynu neu rai sy’n cael eu rhoi am ddim yn ardal eich prosiect, neu gall olygu gorsafoedd radio a gynhelir gan y gymuned neu orsafoedd lleol masnachol neu’r BBC. Gall hyn hefyd gynnwys eich newyddion teledu rhanbarthol – naill ai BBC neu ITV.

Os ydych chi’n ansicr pa ardal y maen nhw’n ei chynnwys, gwiriwch wefan y gwasanaeth newyddion neu edrychwch ar leoliadau’r straeon sy’n cael sylw. Os ydych yn ansicr, gallwch ffonio desg newyddion y cyhoeddiad a gofyn. Meddyliwch am gysylltu â’ch gorsaf radio BBC lleol yn ogystal ag unrhyw orsafoedd masnachol yn eich ardal. Gallwch hefyd wirio i weld os oes unrhyw wefannau neu flogiau lleol y gallent fod â diddordeb yn eich stori.

Ffonio’n nes ymlaen

Ar ôl anfon y datganiad i’r newyddiadurwr, gall fod yn ddefnyddiol ffonio’n nes ymlaen i weld os ydynt wedi’i dderbyn a gofyn a oes angen rhagor o wybodaeth arnynt.

Beth i’w wneud cyn etholiad

Eleni, mae gennym etholiadau cyngor lleol yn Lloegr, Yr Alban a Chymru ac etholiadau cyngor lleol a’r cynulliad datganoledig yng Ngogledd Iwerddon. Cyn unrhyw etholiad yn y DU, mae cyfnod o sensitifrwydd, pan fydd angen i’r rhai sy’n derbyn cyllid cyhoeddus fod yn fwy gofalus o ran yr hyn y maen nhw’n ei wneud, ei ddweud ac â phwy y maen nhw’n rhannu platfform cyhoeddus. Sicrhewch eich bod yn dilyn y canllawiau ar gyfer y cyfnod o sensitifrwydd cyn etholiadau yn ystod cyhoeddusrwydd eich prosiect, yn enwedig os ydych yn cysylltu ag Aelod Seneddol (MP), Aelod o’r Senedd (MS) neu gynghorydd lleol i ddarparu dyfyniad ar gyfer eich datganiad i’r cyfryngau.

Defnyddiwch luniau i adrodd eich stori

Mae lluniau deniadol ac ysbrydoledig o’ch prosiect a phobl yn dod â’ch stori’n fyw, ar-lein, ar y cyd â’ch datganiad i’r cyfryngau, yn y wasg ac ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae rhai arferion gorau i’w dilyn yn cynnwys:

  • Gofynnwch am ganiatâd i ddefnyddio’r lluniau
  • Sicrhewch eu bod o ansawdd da
  • Defnyddiwch luniau sy’n dangos pobl sydd ynghlwm â’ch prosiect
  • Peidiwch â chynnwys gormod o bobl – mae lluniau â llai o bobl ynddynt yn well na rhai â sawl wyneb.