Pecyn cymorth cyfryngau cymdeithasol

Gall defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol helpu cryfhau a chodi ymwybyddiaeth am eich prosiect Jiwbilî Platinwm a ariennir. Gall ddenu sylw cynulleidfaoedd sydd â diddordeb, fel pobl yn eich cymuned, gwirfoddolwyr a buddiolwyr, a gallant rannu’r wybodaeth â’u rhwydweithiau wedi hynny i ledaenu’r neges am eich gweithgareddau ymhellach.

Gall y cyfryngau cymdeithasol fod yn anodd eu llywio oherwydd mae llawer o sianeli i’w defnyddio. Y rhai mwyaf poblogaidd yw Facebook, Twitter, LinkedIn ac Instagram, ond does dim angen i chi ymddangos arnyn nhw i gyd i rannu’r neges am eich prosiect. Os ydych chi’n gyfarwydd ag un neu ddau o’r rhain yn barod, ceisiwch gadw at y rhain yn lle defnyddio mwy ohonynt.

Fel arall, gallwch weld os oes gan aelod o’ch tîm neu un o’ch gwirfoddolwyr fwy o brofiad ar y cyfryngau cymdeithasol a gofyn iddyn nhw helpu i feddwl am yr hyn a fydd yn gweithio ar gyfer eich prosiect.

Denu sylw pobl

Wrth bostio ar y cyfryngau cymdeithasol, mae’n bwysig cofio bod angen i’ch postiadau amlygu eu hunain ar ffrwd newyddion pobl fel eu bod yn denu eu sylw. Dyma rai awgrymiadau defnyddiol:

  • Cadwch y postiadau’n fyr a byddwch yn glir am yr hyn rydych am ei ddweud. Mae hyn yn enwedig o bwysig ar Twitter oherwydd bod cyfyngiad o 280 nod.
  • Defnyddiwch ddelweddau, fideos neu raffeg o ansawdd da - mae tystiolaeth yn dangos y bydd fideo neu ddelweddau’n golygu bod mwy o bobl yn rhyngweithio â’ch postiadau.
  • Peidiwch â bod ofn ennyn emosiwn yn eich postiadau – gall hyn helpu pobl i gysylltu â’r hyn rydych yn ei wneud.
  • Ystyriwch ddogfennu eich prosiect ar y cyfryngau cymdeithasol gyda phostiadau rheolaidd fel y gall pobl weld taith eich cyllid. Mae postio ar y cyfryngau cymdeithasol yn aml hefyd yn fwy tebygol o ymgysylltu â’ch cynulleidfa yn hytrach nag ychydig o bostiadau yn awr ac yn y man.
  • Rhowch wybod i’r bobl rydych yn gweithio â nhw bod eich grŵp ar y cyfryngau cymdeithasol a gofynnwch iddyn nhw rannu eich postiadau – bydd hyn yn helpu lledaenu’r neges ymhellach.
  • Peidiwch ag anghofio cynnwys yr hashnodau #LoteriGenedlaethol a #JiwbilîPlatinwm yn eich postiadau.

Tagiwch ni

Cofiwch ein tagio yn eich postiadau cyfryngau cymdeithasol. Er enghraifft, i dagio ein cyfrif DU cyfan ar Twitter, teipiwch @TNLComFund, ac ar gyfer Instagram, teipiwch @TNLCommunityFund. Fel hynny, mae’n fwy tebygol y byddwn yn gweld eich postiadau ac yn gallu eu cefnogi.

Twitter: @TNLComFund / @TNLComFundWales

Facebook: @TNLCommunityFund / @TNLCommunityFundWales

Instagram: @TNLCommunityFund

LinkedIn: The National Lottery Community Fund

Ymgysylltwch â ni

Helpwch ni i nodi penblwydd y Frenhines Ei Mawrhydi ar Ddydd Iau 21 Ebrill trwy gymryd rhan yn ein gweithgarwch cyfryngau cymdeithasol ar y diwrnod. Mae’n gyfle gwych i amlygu prosiectau Jiwbilî Platinwm a ariennir sy’n dod â chymunedau ynghyd yn ystod y flwyddyn arbennig hon o ddathlu.

Sicrhewch eich bod chi’n gwirio ein sianeli cyfryngau cymdeithasol, tagiwch ni ar Facebook a LinkedIn, a chofiwch ymgysylltu â’n postiadau i helpu amlygu’r amrywiaeth eang o brosiectau gwych sy’n bosibl diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol.

Dod o hyd i’r geiriau cywir

Oes angen cymorth arnoch i ddod o hyd i’r geiriau cywir ar gyfer postiadau cyfryngau cymdeithasol eich hun?

Dyma drydariad yn Saesneg a thrydariad yn Gymraeg, y gallwch eu golygu, eu personoleiddio ac ychwanegu lluniau o’ch prosiect pe dymunech.

Ar gyfer sianeli cyfryngau cymdeithasol eraill, gweler y testun isod, y gallwch ei bersonoleiddio, fel ysbrydoliaeth. Cofiwch ychwanegu lluniau a’n tagio!

We're delighted to announce our project has received #PlatinumJubilee funding from The National Lottery Community Fund, celebrating 70 years of Her Majesty The Queen's reign.

Thanks to #NationalLottery players for making this possible!

Trydariad Cymraeg:

Rydym wrth ein boddau i gyhoeddi bod ein prosiect wedi derbyn cyllid #Jiwbilî Platinwm gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, i ddathlu 70 mlynedd o deyrnasiad Ei Mawrhydi y Frenhines.

Diolch i chwaraewyr y #LoteriGenedlaethol am wneud hyn yn bosibl!

Rhannu ein graffeg

Os nad oes gennych chi unrhyw luniau o ansawdd uchel o’ch prosiect eto, gallwch hefyd lawrlwytho graffeg yr ydym wedi’i greu i chi ei bostio ar eich cyfryngau cymdeithasol.