Cyngor codi arian

CreamTea, Gateshead

Gallwch ddefnyddio eich gweithgarwch Jiwbilî Loteri Genedlaethol i godi arian at achos da sydd angen cymorth, elusen sy’n bwysig i chi neu ar gyfer offer neu adnoddau hanfodol ar gyfer eich prosiect.

Os ydych chi’n cynnal diwrnod agored neu ddathliad o’ch prosiect yn ystod Penwythnos Canolog y Jiwbilî Platinwm, gall fod yn gyfle gwych i feddwl am godi arian hefyd.

Dyma rai syniadau codi arian i chi:

  • Gosod bwcedi casglu arian yn eich digwyddiad neu weithgaredd
  • Cysylltu â’ch siop elusen lleol a chynnig codi arian iddynt
  • Gwahodd pobl i dalu i ddyfalu faint o losin sydd mewn jar, enw tegan, neu bwysau llysieuyn gwobrwyol
  • Siarad â busnesau lleol a gofyn am wobrwyon fel y gallwch drefnu raffl neu am nawdd
  • Cynnal arwerthiant pobi neu werthu eich cynnyrch cartref
  • Creu ocsiwn addewidion lle’r rhoddion yw sgiliau pobl a enillir gan y cynigydd uchaf.

Gallwch ddod o hyd i ragor o awgrymiadau codi arian ar NCVO a’r Chartered Institute of Fundraising