Ein cynllun amgylchedd
O 2023 hyd 2030
Yng Nghronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, credwn mai Cymuned yw'r man cychwyn. Gwyddom fod cymunedau’n hapusach ac yn iachach pan maent yn byw mewn amgylchedd o ansawdd uchel, a bod nifer cynyddol o bobl a chymunedau ar draws y DU yn poeni am eu hamgylchedd 1.
Yn ein proses adnewyddu strategaeth ddiweddar, dywedodd cymunedau wrthym eu bod eisiau newid mwy beiddgar i fynd i’r afael â rhai o’r heriau mawr y maent yn eu hwynebu. O ganlyniad, mae un o’n pedair cenhadaeth dan arweiniad cymunedau yn amlinellu lle byddwn yn canolbwyntio rhywfaint o’n cyllid, dysgu ac ymdrechion i gefnogi cymunedau i fod yn gynaliadwy yn amgylcheddol.
Mae “amgylchedd” yn golygu pethau gwahanol i wahanol gydweithwyr, rhanddeiliaid ac ar draws cymunedau. Yn y Cynllun Amgylchedd hwn, mae’r amgylchedd yn cwmpasu’r tri maes blaenoriaeth y mae’r Cenhedloedd Unedig wedi’u nodi fel rhai sy’n peryglu lles economaidd a chymdeithasol byd-eang: Hinsawdd, Natur, a Llygredd.
Ein nodau
Mae’r Cynllun hwn yn cael ei arwain gan broses o ymgysylltu mewnol ac allanol fel rhan o’n hadnewyddu strategaeth.
Nod 1: Bod yn gyllidwr amgylcheddol o’r radd flaenaf
Mae ein strategaeth yn nodi 2 y byddwn yn buddsoddi mewn prosiectau amgylcheddol penodol, fel y gall cymunedau helpu i greu planed iach. Byddwn yn ariannu prosiectau sy’n:
lleihau allyriadau carbon ac effaith amgylcheddol negyddol
creu effaith amgylcheddol gadarnhaol
sefydlu tegwch o ran mynediad i’r amgylchedd naturiol
gwella ansawdd mannau naturiol
Mae ein profiad wedi dangos bod rhaglenni grantiau amgylcheddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf wedi dangos galw sylweddol gan gymunedau. Mae ein hymchwil yn dangos bod y grantiau hyn yn fwy tebygol na’r cyfartaledd o gyfrannu at fuddion cymunedol megis galluogi pobl i fyw bywydau iachach, a dod â phobl ynghyd o amgylch yr amgylchedd i gynyddu balchder lleol a chynhwysiant 3. Yn wir, mae cyd-fanteision gwaith amgylcheddol yn cael eu deall yn gynyddol ac yn elfen bwysig y dylai eistedd y tu ôl i’n dull cyllido 4.
Yn arbennig, mae ein strategaeth yn nodi, er bod ein cyllid ar gael i bob cymuned, y byddwn yn cymryd dull seiliedig ar degwch ac yn ariannu lle mae’r angen mwyaf. Yn nhermau cyllid amgylcheddol, mae hyn yn awgrymu adeiladu gwytnwch ymhlith y cymunedau hynny sydd fwyaf dan effaith dirywiad amgylcheddol neu fwyaf mewn perygl o effeithiau newid hinsawdd 5, yn ogystal â chefnogi’r rhai sydd fwyaf abl i leihau effaith amgylcheddol yn eu cymunedau (e.e., drwy newid ymddygiad, neu fuddsoddiadau cyfalaf i wella asedau cymunedol mewn unrhyw / bob cymuned).
Cyflawniadau hyd yma
Yn ystod y pum mlynedd diwethaf, mae’r Gronfa wedi ymrwymo dros £440 miliwn i brosiectau mewn cymunedau ar draws y DU sy’n cynnwys gweithgareddau amgylcheddol. Rydym yn ariannu prosiectau o bob maint sy’n cynnwys gweithredu amgylcheddol, gan gynnwys camau ar wastraff a defnydd, ynni, trafnidiaeth, bwyd a’r amgylchedd naturiol.
Gan gydnabod yr argyfwng hinsawdd rydym bellach yn ei wynebu, yn 2019 cyhoeddodd y Gronfa fuddsoddiad sylweddol i gefnogi pobl i gydweithio i gymryd camau hinsawdd yn eu cymunedau lleol. Nod Cronfa Gweithredu Hinsawdd £100m dros ddeg mlynedd yw arddangos arferion gorau ac ysbrydoli a dylanwadu ar adeiladu mudiad ehangach dan arweiniad cymunedau i ymateb i newid hinsawdd. Erbyn Mawrth 2023, roedd dros £50m eisoes wedi’i ymrwymo.
Mae rhaglenni cyllid amgylcheddol sylweddol eraill yn cynnwys: Our Bright Future; Communities Living Sustainably; Creu Eich Lle Cymru; a Living Places and Spaces.
Targedau
1a: Bydd gan bob un o’n pum portffolio cyllido ymateb clir i Genhadaeth Cynaliadwyedd Amgylcheddol drwy ddulliau cyllido wedi’u targedu a/neu’n ymatebol erbyn haf 2024, wedi’u halinio â’r fframwaith cenadaethau ac yn cynnwys cyfeiriad penodol at gefnogi pobl a chymunedau i ganolbwyntio ar:
camau hinsawdd, gan gynnwys addasu a gwytnwch
adfer natur
1b: Trwy gynnig strwythuredig o hyfforddiant ac adnoddau 6, byddwn yn grymuso ein timau cyllido, paneli a phwyllgorau i wneud penderfyniadau cyllido hyderus ar sail dealltwriaeth glir o faterion amgylcheddol allweddol.
1c: Byddwn yn deall, ac yn gallu dangos, y gwahaniaeth y mae prosiectau amgylcheddol rydym yn eu hariannu yn ei wneud, o ran eu cyfraniad i’r fframwaith cenadaethau interim (gweler Atodiad 2), yn ogystal â sut maent yn effeithio ar ddangosyddion cymdeithasol eraill 7.
1d: Fel y nodir yn y Cynllun Corfforaethol 2024–2027, bydd o leiaf 15% o’n grantiau’n mynd i brosiectau sydd â chynaliadwyedd amgylcheddol fel eu prif nod (KPI 4).
Nod 2: Gwella effaith amgylcheddol y sector gwirfoddol a chymunedol
Mae ein Cynllun Corfforaethol yn nodi: ‘Byddwn yn rhoi’r amgylchedd wrth wraidd ein cyllid a’n gweithrediadau’ (blaenoriaeth strategol 4). Mae ein Strategaeth yn nodi y byddwn yn ymgorffori cefnogaeth i gamau amgylcheddol ar draws pob cyllid, gan gynnwys cefnogi pob prosiect i ystyried yr amgylchedd hyd yn oed pan nad dyna yw eu prif ffocws.
Fel y ffynhonnell gyllid sengl fwyaf ar gyfer gweithgareddau cymunedol yn y DU, rydym am ddefnyddio ein sefyllfa i adeiladu tuag at ddyfodol adfywiol yn amgylcheddol. Mae hyn yn golygu cydnabod effaith amgylcheddol uniongyrchol ac anuniongyrchol ein cyllid, cefnogi ein ceiswyr a’n deiliaid grantiau i gryfhau eu dealltwriaeth a’u hymrwymiadau, a mynd y tu hwnt i gyllido i ddarparu cymorth ehangach i’r sector.
Cyflawniadau hyd yma
Ers 2019 rydym wedi cynnal sawl peilot llwyddiannus i ysbrydoli deiliaid grantiau presennol i gymryd camau amgylcheddol, gan gynnwys Climate Action Top-Ups a Climate Action Boost yng Nghymru, a Top-Ups Amgylcheddol yng Ngogledd Iwerddon.
Yn 2020 cyhoeddom dudalen ar ein gwefan gyda chanllawiau amgylcheddol i geiswyr a deiliaid grantiau. Mae’r dudalen hon yn cynnwys awgrymiadau i leihau effaith amgylcheddol grwpiau a phrosiectau cymunedol, lleihau costau ynni, ac awgrymiadau penodol i bob gwlad ar ble i fynd am gymorth ac arweiniad amgylcheddol pellach.
Yn 2021 lansiwyd yr Hwb Gweithredu Hinsawdd, sef gofod ar-lein i ddarganfod sut i wneud cais am gyllid i gefnogi camau hinsawdd, darllen mewnwelediadau a dysgu o’n prosiectau a rhaglenni amgylcheddol, ac aros yn gyfoes gyda’r newyddion a’r digwyddiadau diweddaraf.
Targedau
2a: Byddwn yn adolygu ein portffolios cyllido i sefydlu dealltwriaeth glir o ble mae prosiectau cymunedol yn cael yr effeithiau amgylcheddol mwyaf (cadarnhaol a negyddol) 8. Byddwn yn defnyddio’r ddealltwriaeth hon i symud ffocws ein cyllid, lle bo’n briodol, i wneud y gorau o’r effeithiau amgylcheddol cadarnhaol (uniongyrchol ac anuniongyrchol) a lleihau’r effeithiau negyddol 9.
2b: Byddwn yn adolygu ein prosesau cyllido, i sicrhau ein bod yn symud o ysbrydoli i osod gofynion. Byddwn yn ymgynghori ac yn sefydlu llwybr priodol i nodi disgwyliad (graddol) i geiswyr ddarparu gwybodaeth inni am eu perfformiad ac ymrwymiadau amgylcheddol, ar gyfer prosiectau a gyllidir ac ar gyfer eu sefydliadau’n gyfan gwbl.
2c: Byddwn yn darparu pecyn o opsiynau cymorth i’n ceiswyr a’n deiliaid grantiau 10, i’w helpu i leihau effeithiau amgylcheddol negyddol a gwneud y gorau o’u potensial i gael effaith amgylcheddol gadarnhaol yn ogystal â hyrwyddo gweithredu cadarnhaol yn eu cymunedau 11.
2d: Byddwn yn mabwysiadu dull cyson ar draws y DU ar yr hyn y mae ein huchelgais i fod yn gyllidwr adfywiol yn amgylcheddol yn ei olygu yn ymarferol, gan gynnwys ein dull o ariannu gofynion cyfalaf a newid ymddygiad.
Nod 3: Dod yn enghraifft o reoli ein heffaith amgylcheddol
Mae ein Cynllun Corfforaethol diweddaraf yn ein hymrwymo i fod yn ‘enghraifft o reoli ein heffaith amgylcheddol ein hunain drwy weithio tuag at net sero a rhannu ein harferion ar hyd y ffordd i ysbrydoli eraill’ (blaenoriaeth strategol 4).
Cyflawniadau hyd yma
Rydym wedi sefydlu rhwydwaith gweithgar o dros 50 o gydweithwyr yn y Rhwydwaith Gweithredu Hinsawdd (a elwid gynt yn Green Champions), sy’n cefnogi cyfathrebu mewnol am dargedau amgylcheddol, yn craffu ac yn herio ar strategaeth, ac yn yrru ymgyrchoedd newid ymddygiad.
Erbyn Ionawr 2024, byddwn wedi lleihau ein hôl troed swyddfa 52% o 8,839m² (2020) i 4,231m², ac wedi ymrwymo i adolygiad parhaus o’n gofynion lle corfforol yn y dyfodol.
Rhwng 2020 a 2023, cymerodd 100 o gydweithwyr gwrs Llythrennedd Carbon, gan gynnwys cynrychiolwyr o bob tîm ac adran.
Rydym wedi bod yn mesur a lleihau ein hallyriadau mewn rhyw ffordd ers 2007/08, wedi sicrhau statws Planet Mark yn 2021, ac wedi cyflawni niwtraliaeth carbon drwy brynu credydau gwrthbwyso carbon ers 2018.
Yn 2021 fe sefydlon ni bolisi dim hedfan i’n cydweithwyr, ac eithrio’r rhai sydd wedi’u lleoli yng Ngogledd Iwerddon neu’r rhai sy’n teithio i ynysoedd pellennig yr Alban.
Targedau
3a: Byddwn yn ymgorffori diwylliant o welliant parhaus, gan gynnwys trwy ail-ddychmygu ein strategaethau eiddo a thechnoleg i leihau’r cyfanswm o ofod a gontractwyd, lleihau unrhyw effeithiau amgylcheddol negyddol a galluogi ein modelau gwaith a dulliau gweithio sy’n esblygu.
3b: Byddwn yn diweddaru ein Polisi Amgylcheddol gyda chyfeiriad penodol at ein gweithrediadau (gan gynnwys hierarchaeth trafnidiaeth, gweithio gartref, gwella ein llety swyddfa, ein dull tuag at ddigwyddiadau a chartrefu, a’n hôl troed digidol carbon).
3c: Byddwn yn sefydlu ac yn darparu lefel isaf o hyfforddiant i bob cydweithiwr 12 ar ddeall yr argyfyngau hinsawdd a natur a’r camau y gall pobl eu cymryd, gan sicrhau bod cyfrifoldeb dros gyflawni’r Cynllun Amgylchedd yn cael ei rannu ar draws y Gronfa.
3d: Byddwn yn sefydlu llinell sylfaen Net Sero ar gyfer allyriadau, gan gynnwys gwell dealltwriaeth o’n hôl troed carbon Cwmpas 3 13, ac yn gosod llwybr i gyflawni allyriadau Net Sero erbyn 2030.
Nod 4: Dangos dylanwad ac arweinyddiaeth
Rydym am adeiladu ar ein sefyllfa fel prif gyllidwr a’n potensial i ddylanwadu ar y Llywodraeth, drwy ddod â rhanddeiliaid ynghyd a rhannu ein gwybodaeth, tystiolaeth a dysgu, er mwyn ymestyn yr effaith amgylcheddol gadarnhaol yr ydym yn anelu i’w chyflawni.
Rydym am gael ein hadnabod fel llais dibynadwy ar y berthynas rhwng cymunedau a’r amgylchedd, gan ddefnyddio ein sefyllfa unigryw sy’n ymestyn ar draws y sector gwirfoddol a chymunedol, i ddangos yn weithredol y rôl y gall cymunedau ei chwarae ac yn wir yn ei chwarae wrth wella ein hamgylchedd ac i helpu i ledaenu arfer da. Yn unol â’n huchelgais i fod yn gyllidwr adfywiol yn amgylcheddol, rydym am ddangos sut, drwy gyllid a chefnogaeth ychwanegol, y gellir cefnogi cymunedau orau i arwain y ffordd tuag at ddyfodol adfywiol i’n planed.
Cyflawniadau hyd yma
Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn dod â grŵp traws-ddosbarthwyr o arweinwyr amgylcheddol ynghyd ac yn cadeirio’r grŵp ar gyfer pob corff dosbarthu’r Loteri Genedlaethol, sy’n cyfarfod dair i bedair gwaith y flwyddyn i rannu dysgu, uchelgais ac arfer da.
Ym mis Hydref 2023, ymunom â dros 100 o gyllidwyr eraill yn y sector i lofnodi’r Funder Commitment on Climate Change (gweler Atodiad 3 am ragor o fanylion).
Targedau
4a: Neilltuo cyllid a/neu adnodd penodol ar gyfer ymchwil i sut y gellir cefnogi cymunedau orau i weithio gyda’i gilydd tuag at ddyfodol adfywiol. Mae hyn yn cynnwys datblygu a gwella ein dull a’n systemau ar gyfer tystiolaeth, ymchwil a monitro i gefnogi ein gallu i ddylanwadu a dangos arweinyddiaeth.
4b: Gweithio mewn partneriaeth gyda chyllidwyr eraill a chyrff seilwaith, i wella effaith amgylcheddol y sector cyllido. Archwilio partneriaethau posibl eraill (e.e. gyda’r sector preifat, sefydliadau’r cyfryngau, y llywodraeth) i ymestyn ein dylanwad – drwy ymgyrchoedd, cyllido neu gefnogaeth y tu hwnt i gyllid.
4c: Ceisio’n rhagweithiol gyfleoedd i gyfathrebu’n allanol am ein hymrwymiad, ein harferion a’n dysgu, er enghraifft drwy gyfleoedd siarad, gweminarau, blogiau gwadd, podlediadau a darnau barn, yn ogystal â’r wasg sectorol a chenedlaethol.
4d: Datblygu cynllun cyfathrebu mewnol 14 ac allanol cadarn ar gyfer y Genhadaeth Cynaliadwyedd Amgylcheddol a’r Cynllun Amgylchedd, gan gynnwys sut a phryd i gyfathrebu targedau penawdol a’r cynnydd a wnaed arnynt, pa gynulleidfaoedd i’w targedu, y dull naratif, cyfleoedd ar gyfer broceriaeth, a strategaeth ymgysylltu rhanddeiliaid/eiriolaeth, ac wedi’u halinio ag amserlenni ar gyfer gweithgareddau cyfathrebu eraill.
4e: Gweithio gydag Allwyn a’r Uned Hyrwyddo’r Loteri Genedlaethol i gysylltu’n fwy eglur chwarae’r Loteri Genedlaethol â chefnogi prosiectau sy’n gwella’r amgylchedd.
Cyflawni a goruchwylio
Mae ein Cynllun Amgylchedd yn bwydo i mewn i’r Cynllun Corfforaethol ac fe’i hadolygir bob blwyddyn gan is-bwyllgor Polisi ac Ymarfer. Mae’n cael ei berchnogi gan arweinydd Tîm Rheoli Uwch yr Amgylchedd, gyda chefnogaeth gan Bennaeth Gweithredu Hinsawdd a’r Swyddog Amgylcheddol.
Bydd Tîm Rheoli Uwch a’r Bwrdd yn derbyn diweddariad blynyddol ar gynnydd yn erbyn targedau allweddol o fewn y Cynllun Amgylchedd, y Cynllun Corfforaethol a’r Strategaeth DU ehangach Popeth yn dechrau gyda’r gymuned.
Mae pob Cyfarwyddiaeth yn gyfrifol am ddatblygu a gweithredu gweithgareddau sy’n cyfrannu at gyflawni ein Cynllun Amgylchedd, ac yn arbennig dylai portffolios cyllido sicrhau bod cynlluniau ar waith i gyflawni yn erbyn pob un o’r pedwar prif faes. Bydd grŵp gwaith traws-adrannol newydd yn sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei rhannu mewn modd amserol ar draws y Gronfa, a dull pob portffolio.
Mae Grŵp Cyflawni’r Cynllun Amgylchedd (EPDG) yn cwrdd bob chwarter i adolygu cynnydd, a dylai pob cyfarwyddiaeth adeiladu cyfeiriad at y Cynllun Amgylchedd yn eu cynlluniau busnes.
Troednodiadau
mae pryderon amgylcheddol yn rheolaidd ymhlith y prif faterion sy’n peri pryder i’r cyhoedd yn y DU; newid hinsawdd bellach yw’r ail bryder mwyaf ymhlith oedolion ym Mhrydain Fawr (74%), ychydig y tu ôl i’r cynnydd yng nghostau byw (79%); Arolwg Barn ac Arferion Byw ONS, Hydref 2022
ers cyhoeddi’r Strategaeth, mae gwaith pellach wedi digwydd i’w datblygu’n fframwaith canlyniadau interim, gweler Atodiad 2
dyfyniad o Putting Communities First, Adroddiad Ein Heffaith (TNLCF, Tachwedd 2021, t.87)
mae cyfleoedd amlwg a chlir ar gyfer cyllido trawsadrannol rhwng pob un o bedair cenhadaeth ein strategaeth
mae’r dull hwn yn sicrhau bod cyfiawnder hinsawdd wrth wraidd ein strategaeth gyllido
gan gynnwys ychwanegu elfen amgylcheddol at ein rhaglen hyfforddi orfodol i bob staff, Workplace Essentials
bwriad hyn yw ein helpu i ddangos a meintioli natur drawsadrannol cyllido amgylcheddol
bydd hyn yn unol â’n fframwaith cenadaethau sefydliadol, fel y nodir yn Atodiad 2
er ei fod wedi’i osod fel darn o waith unwaith ac am byth, disgwylir yr angen i adolygu’n barhaus ansawdd y data a’r dystiolaeth a gasglwn a defnyddio’r dystiolaeth orau sydd ar gael wrth wneud penderfyniadau yn y dyfodol
gan dynnu ysbrydoliaeth, er enghraifft, o grant a ddarparwyd gennym i Voluntary Organisations’ Network North East i ddatblygu goinggreentogether.org, a’r model gwasanaeth mentora a ddatblygwyd ar gyfer Sustainable Steps yng Nghymru
bydd hyn yn cynnwys helpu’r sector i ddeall y cysylltiadau rhwng cyfiawnder cymdeithasol ac amgylcheddol
a’n hannog i hyn gael ei gynnwys mewn amcanion lle bo’n bosibl, yn unol â’r dull ar gyfer cenadaethau strategol eraill
mae Cwmpas 3 yn cynnwys ein teithio, gweithio gartref, caffael (gan gynnwys technoleg) ac allyriadau ehangach yn y gadwyn gyflenwi
gall cyfleoedd ymgysylltu mewnol gynnwys rhannu arferion gorau ar ein sianeli mewnol, dathlu cerrig milltir amgylcheddol a diwrnodau ymwybyddiaeth, ac ymgysylltu arweinwyr ar y pwnc
yn nhermau’r ymrwymiad hwn mae’r term buddsoddiadau yn cyfeirio at gronfeydd sefydlog/buddsoddiadau a gedwir gan ymddiriedolaethau elusennol (yn hytrach na grantiau/dyfarniadau a roddir ganddynt)