Ariannu yng Nghymru

The Outdoor Partnership

Rydym ni yma i chi wrth i gymunedau adfer ac ail-adeiladu yn dilyn pandemig COVID-19. Gallwch ymgeisio am gyllid i gynnal gweithgaredd newydd neu sydd eisoes yn bodoli neu i gefnogi eich sefydliad i newid ac addasu i heriau newydd ac yn y dyfodol, gan gynnwys yr argyfwng costau byw presennol.

We’re here to help. Please contact us if you have an idea by calling 0300 123 0735 or emailing wales@tnlcommunityfund.org.uk.

Pa grantiau sydd ar gael?

Pan fydd gennych syniad prosiectau rydych eisiau ei gyflwyno i ni, rhowch ganiad i ni i siarad amdano. Byddwn yn gallu dweud wrthych p'un a yw'n rhywbeth y byddem yn ei ariannu ai beidio.

Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol

£300–£10,000

  • Ar gyfer gweithgareddau llawr gwlad a chymunedol sydd â'r nod o wella bywydau pobl a chymdogaethau lleol.
  • Nid oes unrhyw derfyn amser, felly gallwch ymgeisio unrhyw bryd.
  • Dyma'n rhaglen grantiau fwyaf poblogaidd felly byddwn yn blaenoriaethu grwpiau sydd ag incwm llai.
  • Mae ymgeisio am y grant hwn yn gyflym ac yn syml.

Gweld y rhaglen

Pawb a’i Le: Grantiau maint canolig

£10,001–£100,000

  • Grantiau ar gyfer grwpiau gwirfoddol neu gymunedol.
  • Byddwn yn ariannu gwariant refeniw neu gyfalaf sy'n para hyd at bum mlynedd.
  • Y peth pwysicaf yw i chi ddweud wrthym am eich cymuned a sut fydd y prosiect yn gwneud newidiadau cadarnhaol i fywydau'r bobl sy'n byw ynddi.
  • Proses ymgeisio un cam yw hon.

Gweld y rhaglen

Pawb a’i Le: Grantiau mawr

£100,001–£500,000

  • Grantiau ar gyfer grwpiau gwirfoddol neu gymunedol.
  • Byddwn yn ariannu gwariant refeniw neu gyfalaf sy'n para hyd at bum mlynedd.
  • Y peth pwysicaf yw i chi ddweud wrthym am eich cymuned a sut fydd y prosiect yn gwneud newidiadau cadarnhaol i fywydau'r bobl sy'n byw ynddi.
  • Dyma broses ymgeisio dau gam.

Gweld y rhaglen

Ariannu yng Nghymru

  • Ariannwyd 1,200 o fudiadau cymunedol a gwirfoddol yng Nghymru

  • Ariannwyd o leiaf 50 o brosiectau ym mhob awdurdod lleol

  • Dyfarnwyd £7.5m i brosiectau sy'n cefnogi plant a phobl ifainc

  • Dyfarnwyd £8.6m i brosiectau sy'n cefnogi pobl hŷn

  • Dyfarnwyd £4.6m i brosiectau i gefnogi pobl sydd ag anableddau

Ynghylch y syniadau a gefnogwn

Rydym yn credu y dylai pobl arwain ar wella'u bywydau a'u cymunedau. Mae ein hymagwedd yn canolbwyntio ar y sgiliau ac egni y gall pobl alw arnynt a'r potensial yn eu syniadau. Rydym yn gofyn beth sy'n bwysig i gymunedau, nid beth sy'n bod gyda nhw.

Mae gennym ddiddordeb mewn syniadau sy'n cefnogi:

  • Cysylltiadau cryfion - gan gefnogi syniadau sy'n dod â phobl ynghyd, gan gryfhau cysylltiadau o fewn ac ar draws cymunedau.
  • Mannau a lleoedd cynaliadwy a rennir - gan gefnogi pobl i benderfynu ffurf y lleoedd sy'n bwysig iddynt, fel parc, canolfan gymunedol neu rwydwaith ar-lein.
  • Gweithredu Cynnar - gan gefnogi gweithgareddau sy'n grymuso pobl i gyflawni eu potensial, gan weithio i daclo problemau mor gynnar â phosib. Rydym yn gwneud hyn trwy:
  • Ariannu gweithredu cymunedol llawr gwlad ar draws Cymru.
  • Cynnig grantiau a chefnogaeth hir dymor a hyblyg i elusennau a grwpiau cymunedol
  • Helpu mudiadau i gydweithio ag eraill i wella cymunedau a datrys problemau

Lleihau eich ôl troed amgylcheddol

Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn gofalu am ein hamgylchedd ac rydym bob amser yn ceisio rheoli ein heffaith amgylcheddol. Rydym yn annog ac yn cefnogi prosiectau a chymunedau i wneud yr un peth. Dysgwch fwy am sut y gallwch Dysgu mwy am sut y gallwch wneud eich prosiect neu ddigwyddiad yn fwy cynaliadwy yn amgylcheddol ac efallai arbed arian ar yr un pryd.