Meini prawf cymhwyster llawn

Bydd y Gronfa Ddigidol yn agor fesul cam dros y ddwy flynedd nesaf. Bydd y cam cyntaf, a fydd ar agor rhwng 22 Hydref 2018 a 5pm ar 3 Rhagfyr 2018, yn derbyn ceisiadau trwy ddau edefyn.

Mae Edefyn 1 y Gronfa Ddigidol yn cynnig grantiau hyd at £500,000 a phecyn cefnogaeth wedi’i deilwra. Y nod yw helpu mudiadau sefydledig i ddefnyddio digidol i gymryd cam sylweddol ymlaen.

Mae Edefyn 2 y Gronfa Ddigidol yn cynnig grantiau hyd at £500,000 ar gyfer mudiadau eithaf newydd y maent eisoes wedi lansio gwasanaethau addawol sy'n defnyddio digidol i gyflawni graddfa neu effaith.

Rydym yn disgwyl i grantiau yn y ddau edefyn bara rhwng 1 a 4 blynedd.

Ffactorau llwyddiant

Roedd Edefyn 1 y Gronfa Ddigidol yn cynnig grantiau hyd at £500,000 a phecyn cefnogaeth wedi’i deilwra. Y nod oedd i helpu mudiadau sefydledig i ddefnyddio digidol i gymryd cam sylweddol ymlaen. Mae grantiau bellach wedi’u dyfarnu a byddent yn para rhwng 1 a 4 blynedd.

Bydd cynigion Edefyn 1 llwyddiannus yn:

  • Dangos ymrwymiad cryf arweinwyr y mudiad i newid y ffordd y mae'r mudiad yn gwasanaethu pobl a chymunedau.
  • Cynnwys cynllun a ddatblygwyd yn unol ag arferion digidol da, megis ymrwymo i ddull iteraidd, a sicrhau mai pobl sy'n arwain.
  • Darparu tystiolaeth bod y mudiad eisoes wedi buddsoddi mewn digidol, cyn y cynnig hwn.
  • Dangos ymrwymiad i weithio'n hael, gan rannu'r hyn a ddysgwch a'r cynnyrch a gwasanaethau a gynhyrchwch ag eraill.

Nid ydym yn chwilio am:

  • Gynigion gyda chynllun hynod fanwl sy'n disgrifio holl fanylion y trawsnewidiad sydd ar ddod. Yn hytrach na hynny rydym yn croesawu cynigion sy'n gwahaniaethu'n glir rhwng yr hyn rydych yn ei wybod nawr, a'r hyn y byddwch yn ei ddysgu ar y daith.
  • Cynigion sydd wedi'u symbylu gan ddymuniad i ddefnyddio technoleg.
  • Cynigion sy'n seiliedig ar fylchau yn y gyllideb graidd.

Dechrau ymgeisio am edefyn 1

Roedd Edefyn 2 y Gronfa Ddigidol yn cynnig grantiau hyd at £500,000 ar gyfer mudiadau eithaf newydd y maent eisoes wedi lansio gwasanaethau addawol sy'n defnyddio digidol i gyflawni graddfa neu effaith. Mae grantiau bellach wedi’u dyfarnu a byddent yn para rhwng 1 a 4 blynedd.

Bydd cynigion Edefyn 2 llwyddiannus yn:

  • Manteisio ar ddylunio sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr.
  • Dangos yn glir naill ai'r potensial i gynyddu eich effaith am gost isel, neu ddangos yn glir y potensial i defnyddio digidol i greu buddion sylweddol ar gyfer grŵp penodol o bobl.
  • Cael eich symbylu gan dimau sy'n cyfuno gwybodaeth am fater sydd o bwys i bobl a chymunedau gyda phrofiad o gyflwyno digidol.
  • Cysylltiedig â chynnyrch neu wasanaeth sy'n ddigon pell trwy ei broses ddatblygu y mae pobl yn elwa ohoni ar hyn o bryd.
  • Darparu tystiolaeth o effaith ar y bobl hynny.
  • Dangos theori newid neu ddogfen debyg sy'n dangos sut fydd y cynnyrch neu wasanaeth yn cyflawni nodau y gall grŵp penodol o bobl elwa ohonynt.
  • Dangos dealltwriaeth o her cynnal effaith ar ôl i gefnogaeth gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ddod i ben.

Nid ydym yn chwilio am:

  • Gynnyrch neu wasanaethau nad ydynt yn ddigon aeddfed i fod o fudd i bobl eto.
  • Cynnyrch neu wasanaethau na allant ddangos tystiolaeth sylweddol o ymchwil gyda defnyddwyr wrth eu creu.
  • Cynnyrch neu wasanaethau sy'n dyblygu gwasanaethau presennol heb unrhyw arloesedd sylweddol.

Dechrau ymgeisio am edefyn 2

Mae'n bwysig i ni hefyd eich bod yn ymroddedig i gydraddoldeb a'r amgylchedd. Byddwn eisiau gwybod am eich polisïau cydraddoldeb ac amgylcheddol os bydd gennym ddiddordeb yn eich syniad.

Meini prawf cymhwyster

Mae'r meini prawf cymhwyster a ganlyn yn berthnasol i'r ddau edefyn ariannu. Mae meini prawf penodol ar gyfer pob edefyn islaw'r adran hon.

Gallwch ymgeisio os yw eich mudiad yn:

  • fudiad gwirfoddol a chymunedol
  • elusen gofrestredig
  • menter gymdeithasol
  • grwpiau o fudiadau, os ydynt wedi'u harwain gan fudiadau gwirfoddol a chymunedol neu fenter gymdeithasol
  • cwmnïau buddiant cymunedol (gyda dau neu fwy o gyfarwyddwyr).

Ni fyddwn yn derbyn ceisiadau gan:

  • unigolion
  • unig fasnachwyr
  • mudiadau sydd wedi’u lleoli y tu allan i'r Deyrnas Unedig
  • eitemau sy'n cael eu prynu ar ran mudiad arall
  • mae gan eich mudiad o leiaf dau o bobl nad oes cyswllt rhyngddynt ar y bwrdd neu bwyllgor.
  • cwmnïau y mae eu nod yw creu elw i’w ddosbarthu’n breifat.

(* wrth 'nad oes unrhyw gyswllt rhyngddynt', rydym yn golygu perthynas trwy waed, wedi priodi, mewn perthynas hir dymor neu bobl sy'n cydfyw yn yr un cyfeiriad)

Bydd ceisiadau’n gymwys dim ond os mai pobl a chymunedau yn y Deyrnas Unedig yw prif ffocws y buddsoddiad – gellir caniatáu creu buddion rhywle arall ond mae’n rhaid nad dyna’r prif nod. Bydd ceisiadau’n gymwys hefyd dim ond os cânt eu cyflwyno gan fudiadau sy’n gorfforedig yn y Deyrnas Unedig.

Mae cyllid cyhoeddus ar gyfer mudiadau sy’n ymgymryd â gweithgareddau masnachol, gan gynnwys y rhai sydd â statws elusennol, wedi’i lywodraethu gan reolau ‘Cymorth Gwladwriaethol’ y Comisiwn Ewropeaidd. Byddwn yn siarad ymhellach â chi am y mater hwn os cewch eich gwahodd i gyflwyno cais llawn i’r Gronfa Ddigidol.

Meini prawf cymhwyster ychwanegol sy'n berthnasol dim ond i Edefyn 1

  • Mae’n rhaid bod eich mudiad wedi derbyn incwm o dros £500,000 y llynedd. Os oedd gan eich mudiad incwm o dros £10m y llynedd, byddwn yn gofyn am gyfraniad cyfatebol a fydd wedi'i deilwra i'ch maint

Meini prawf cymhwyster ychwanegol sy'n berthnasol dim ond i Edefyn 2

  • Mae’n rhaid bod eich mudiad wedi sefydlu ei strwythur cyfreithiol ar ôl 2000
  • Mae'n rhaid i chi weithredu cynnyrch neu wasanaeth ar hyn o bryd sy'n weithredol ac yn cael ei ddefnyddio gan y math o bobl a chymunedau rydych yn bwriadu eu gwasanaethu yn y dyfodol

Ar beth allwch chi wario'r arian?

Gallwn ariannu:

  • cyflogau staff
  • gweithgareddau prosiect
  • costau rhedeg
  • gwaith adnewyddu ar raddfa fach
  • cyfarpar
  • datblygu sefydliadol

Allwn ni ddim ariannu:

  • cynigion gan fudiadau a redir yn bennaf er budd preifat neu i gynhyrchu elw i'w ddosbarthu'n breifat, neu unrhyw weithgareddau sy'n cynhyrchu elw er budd preifat
  • gweithgareddau crefyddol (er y gallwn ariannu mudiadau crefyddol os yw eu prosiect o fudd i'r gymuned ehangach ac nid yw'n ymwneud â chynnwys crefyddol)
  • gweithgareddau sy'n disodli'r rhai a ariennir gan y llywodraeth (er enghraifft, gallwn ariannu dim ond gweithgareddau ysgol sy'n ychwanegol at y cwricwlwm)
  • gweithgareddau y gall unigolion yn unig elwa ohonynt, yn hytrach na'r gymuned ehangach
  • gweithgareddau gwleidyddol
  • costau sydd eisoes wedi'u talu
  • ad-dalu benthyciadau

Mwy o gyfleoedd ariannu

Os nad yw'r naill na'r llall o'r edafedd ariannu'n gweithio i'ch prosiect neu syniad, mae hynny'n iawn. Mae rhaglenni ariannu eraill sy'n agored i geisiadau.

Dilynwch ni ar gyfryngau cymdeithasol neu gwiriwch ein gwefan am wybodaeth ddiweddar.