Edefyn 2

Roedd Edefyn 2 y Gronfa Ddigidol yn cynnig grantiau hyd at £500,000 ar gyfer mudiadau eithaf newydd y maent eisoes wedi lansio gwasanaethau addawol sy'n defnyddio digidol i gyflawni graddfa neu effaith. Mae grantiau bellach wedi’u dyfarnu a byddent yn para rhwng 1 a 4 blynedd.

Daeth rownd gyntaf y Gronfa Ddigidol i ben ar 3 Rhagfyr 2018 am 5pm.

Sut mae'r broses yn gweithio

Nid ydym eisiau i chi dreulio llawer o amser yn paratoi i gael sgwrs gychwynnol gyda ni. Hoffem siarad a chi am eich syniad cyn i chi ddechrau datblygu cais manwl am grant.

  1. Cyflwynwch fraslun o’ch syniad—daeth i ben ar 3 Rhagfyr am 5pm

    Gyrrwch fraslun byr o’ch syniad ar-lein

  2. Siarad â ni

    Os yw’n ymddangos bod eich syniad yn cyfateb i feini prawf y Gronfa Ddigidol, byddwn yn trefnu galwad gyda chi

  3. Cyflwyno cais llawn

    Os ydym yn teimlo y gallai'r Gronfa Ddigidol weithio i chi, byddwn yn gofyn i chi gyflwyno cais llawn

Meini prawf cymhwyster

  • Mae’n rhaid bod eich mudiad wedi sefydlu ei strwythur cyfreithiol ar ôl 2000
  • Mae'n rhaid i chi weithredu cynnyrch neu wasanaeth ar hyn o bryd sy'n weithredol ac yn cael ei ddefnyddio gan y math o bobl a chymunedau rydych yn bwriadu eu gwasanaethu yn y dyfodol

Gallwch ymgeisio os yw eich mudiad yn:

  • fudiad gwirfoddol a chymunedol
  • elusen gofrestredig
  • menter gymdeithasol
  • grwpiau o fudiadau, os ydynt wedi'u harwain gan fudiadau gwirfoddol a chymunedol neu fenter gymdeithasol
  • cwmnïau buddiant cymunedol (gyda dau neu fwy o gyfarwyddwyr).

Ni fyddwn yn derbyn ceisiadau gan:

  • unigolion
  • unig fasnachwyr
  • mudiadau sydd wedi’u lleoli y tu allan i'r Deyrnas Unedig
  • eitemau sy'n cael eu prynu ar ran mudiad arall
  • mae gan eich mudiad o leiaf dau o bobl nad oes cyswllt rhyngddynt ar y bwrdd neu bwyllgor.
  • cwmnïau y mae eu nod yw creu elw i’w ddosbarthu’n breifat.

(* wrth 'nad oes unrhyw gyswllt rhyngddynt', rydym yn golygu perthynas trwy waed, wedi priodi, mewn perthynas hir dymor neu bobl sy'n cydfyw yn yr un cyfeiriad)

Bydd ceisiadau’n gymwys dim ond os mai pobl a chymunedau yn y Deyrnas Unedig yw prif ffocws y buddsoddiad – gellir caniatáu creu buddion rhywle arall ond mae’n rhaid nad dyna’r prif nod. Bydd ceisiadau’n gymwys hefyd dim ond os cânt eu cyflwyno gan fudiadau sy’n gorfforedig yn y Deyrnas Unedig.

Mae cyllid cyhoeddus ar gyfer mudiadau sy’n ymgymryd â gweithgareddau masnachol, gan gynnwys y rhai sydd â statws elusennol, wedi’i lywodraethu gan reolau ‘Cymorth Gwladwriaethol’ y Comisiwn Ewropeaidd. Byddwn yn siarad ymhellach â chi am y mater hwn os cewch eich gwahodd i gyflwyno cais llawn i’r Gronfa Ddigidol.

Ar beth allwch chi wario'r arian?

Gallwn ariannu:

  • cyflogau staff
  • gweithgareddau prosiect
  • costau rhedeg
  • gwaith adnewyddu ar raddfa fach
  • cyfarpar
  • datblygu sefydliadol

Allwn ni ddim ariannu:

  • cynigion gan fudiadau a redir yn bennaf er budd preifat neu i gynhyrchu elw i'w ddosbarthu'n breifat, neu unrhyw weithgareddau sy'n cynhyrchu elw er budd preifat
  • gweithgareddau crefyddol (er y gallwn ariannu mudiadau crefyddol os yw eu prosiect o fudd i'r gymuned ehangach ac nid yw'n ymwneud â chynnwys crefyddol)
  • gweithgareddau sy'n disodli'r rhai a ariennir gan y llywodraeth (er enghraifft, gallwn ariannu dim ond gweithgareddau ysgol sy'n ychwanegol at y cwricwlwm)
  • gweithgareddau y gall unigolion yn unig elwa ohonynt, yn hytrach na'r gymuned ehangach
  • gweithgareddau gwleidyddol
  • costau sydd eisoes wedi'u talu
  • ad-dalu benthyciadau

Ffactorau llwyddiant

Bydd cynigion Edefyn 2 llwyddiannus yn:

  • Manteisio ar ddylunio sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr.
  • Dangos yn glir naill ai'r potensial i gynyddu eich effaith am gost isel, neu ddangos yn glir y potensial i defnyddio digidol i greu buddion sylweddol ar gyfer grŵp penodol o bobl.
  • Cael eich symbylu gan dimau sy'n cyfuno gwybodaeth am fater sydd o bwys i bobl a chymunedau gyda phrofiad o gyflwyno digidol.
  • Cysylltiedig â chynnyrch neu wasanaeth sy'n ddigon pell trwy ei broses ddatblygu y mae pobl yn elwa ohoni ar hyn o bryd.
  • Darparu tystiolaeth o effaith ar y bobl hynny.
  • Dangos theori newid neu ddogfen debyg sy'n dangos sut fydd y cynnyrch neu wasanaeth yn cyflawni nodau y gall grŵp penodol o bobl elwa ohonynt.
  • Dangos dealltwriaeth o her cynnal effaith ar ôl i gefnogaeth gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ddod i ben.

Nid ydym yn chwilio am:

  • Gynnyrch neu wasanaethau nad ydynt yn ddigon aeddfed i fod o fudd i bobl eto.
  • Cynnyrch neu wasanaethau na allant ddangos tystiolaeth sylweddol o ymchwil gyda defnyddwyr wrth eu creu.
  • Cynnyrch neu wasanaethau sy'n dyblygu gwasanaethau presennol heb unrhyw arloesedd sylweddol.

Oes gennych gwestiynau?

Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â chymhwyster.

Noder, na allwn roi unrhyw adborth i chi ar syniadau yn y cam hwn. Yr unig ffordd o dderbyn adborth fydd dychwelyd at y dudalen hon o 22 Hydref i gyflwyno braslun.

Ffôn: 0300 123 0735
Cyfnewid testun: 18001 plws 0300 123 0735 (ar gyfer pobl sydd â nam ar y clyw neu'r lleferydd)
E-bost: cymru@cronfagymunedolylg.org.uk

Mwy o gyfleoedd ariannu

Rydym yn cynnig ystod o raglenni ariannu agored a all eich helpu cefnogi pobl a chymunedau i ffynnu.