Edefyn 1

Roedd Edefyn 1 y Gronfa Ddigidol yn cynnig grantiau hyd at £500,000 a phecyn cefnogaeth wedi’i deilwra. Y nod oedd i helpu mudiadau sefydledig i ddefnyddio digidol i gymryd cam sylweddol ymlaen. Mae grantiau bellach wedi’u dyfarnu a byddent yn para rhwng 1 a 4 blynedd.

Daeth rownd gyntaf y Gronfa Ddigidol i ben ar 3 Rhagfyr 2018 am 5pm.

Sut mae'r broses yn gweithio

Nid ydym eisiau i chi dreulio llawer o amser yn paratoi i gael sgwrs gychwynnol gyda ni. Hoffem siarad a chi am eich syniad cyn i chi ddechrau datblygu cais manwl am grant.

  1. Cyflwynwch fraslun o’ch syniad—daeth i ben ar 3 Rhagfyr am 5pm

    Gyrrwch fraslun byr o’ch syniad ar-lein

  2. Siarad â ni

    Os yw’n ymddangos bod eich syniad yn cyfateb i feini prawf y Gronfa Ddigidol, byddwn yn trefnu galwad gyda chi

  3. Cyflwyno cais llawn

    Os ydym yn teimlo y gallai'r Gronfa Ddigidol weithio i chi, byddwn yn gofyn i chi gyflwyno cais llawn

Meini prawf cymhwyster

  • Mae’n rhaid bod eich mudiad wedi derbyn incwm o dros £500,000 y llynedd. Os oedd gan eich mudiad incwm o dros £10m y llynedd, byddwn yn gofyn am gyfraniad cyfatebol a fydd wedi'i deilwra i'ch maint

Gallwch ymgeisio os yw eich mudiad yn:

  • fudiad gwirfoddol a chymunedol
  • elusen gofrestredig
  • menter gymdeithasol
  • grwpiau o fudiadau, os ydynt wedi'u harwain gan fudiadau gwirfoddol a chymunedol neu fenter gymdeithasol
  • cwmnïau buddiant cymunedol (gyda dau neu fwy o gyfarwyddwyr).

Ni fyddwn yn derbyn ceisiadau gan:

  • unigolion
  • unig fasnachwyr
  • mudiadau sydd wedi’u lleoli y tu allan i'r Deyrnas Unedig
  • eitemau sy'n cael eu prynu ar ran mudiad arall
  • mae gan eich mudiad o leiaf dau o bobl nad oes cyswllt rhyngddynt ar y bwrdd neu bwyllgor.
  • cwmnïau y mae eu nod yw creu elw i’w ddosbarthu’n breifat.

(* wrth 'nad oes unrhyw gyswllt rhyngddynt', rydym yn golygu perthynas trwy waed, wedi priodi, mewn perthynas hir dymor neu bobl sy'n cydfyw yn yr un cyfeiriad)

Bydd ceisiadau’n gymwys dim ond os mai pobl a chymunedau yn y Deyrnas Unedig yw prif ffocws y buddsoddiad – gellir caniatáu creu buddion rhywle arall ond mae’n rhaid nad dyna’r prif nod. Bydd ceisiadau’n gymwys hefyd dim ond os cânt eu cyflwyno gan fudiadau sy’n gorfforedig yn y Deyrnas Unedig.

Mae cyllid cyhoeddus ar gyfer mudiadau sy’n ymgymryd â gweithgareddau masnachol, gan gynnwys y rhai sydd â statws elusennol, wedi’i lywodraethu gan reolau ‘Cymorth Gwladwriaethol’ y Comisiwn Ewropeaidd. Byddwn yn siarad ymhellach â chi am y mater hwn os cewch eich gwahodd i gyflwyno cais llawn i’r Gronfa Ddigidol.

Ar beth allwch chi wario'r arian?

Gallwn ariannu:

  • cyflogau staff
  • gweithgareddau prosiect
  • costau rhedeg
  • gwaith adnewyddu ar raddfa fach
  • cyfarpar
  • datblygu sefydliadol

Allwn ni ddim ariannu:

  • cynigion gan fudiadau a redir yn bennaf er budd preifat neu i gynhyrchu elw i'w ddosbarthu'n breifat, neu unrhyw weithgareddau sy'n cynhyrchu elw er budd preifat
  • gweithgareddau crefyddol (er y gallwn ariannu mudiadau crefyddol os yw eu prosiect o fudd i'r gymuned ehangach ac nid yw'n ymwneud â chynnwys crefyddol)
  • gweithgareddau sy'n disodli'r rhai a ariennir gan y llywodraeth (er enghraifft, gallwn ariannu dim ond gweithgareddau ysgol sy'n ychwanegol at y cwricwlwm)
  • gweithgareddau y gall unigolion yn unig elwa ohonynt, yn hytrach na'r gymuned ehangach
  • gweithgareddau gwleidyddol
  • costau sydd eisoes wedi'u talu
  • ad-dalu benthyciadau

Ffactorau llwyddiant

Bydd cynigion Edefyn 1 llwyddiannus yn:

  • Dangos ymrwymiad cryf arweinwyr y mudiad i newid y ffordd y mae'r mudiad yn gwasanaethu pobl a chymunedau.
  • Cynnwys cynllun a ddatblygwyd yn unol ag arferion digidol da, megis ymrwymo i ddull iteraidd, a sicrhau mai pobl sy'n arwain.
  • Darparu tystiolaeth bod y mudiad eisoes wedi buddsoddi mewn digidol, cyn y cynnig hwn.
  • Dangos ymrwymiad i weithio'n hael, gan rannu'r hyn a ddysgwch a'r cynnyrch a gwasanaethau a gynhyrchwch ag eraill.

Nid ydym yn chwilio am:

  • Gynigion gyda chynllun hynod fanwl sy'n disgrifio holl fanylion y trawsnewidiad sydd ar ddod. Yn hytrach na hynny rydym yn croesawu cynigion sy'n gwahaniaethu'n glir rhwng yr hyn rydych yn ei wybod nawr, a'r hyn y byddwch yn ei ddysgu ar y daith.
  • Cynigion sydd wedi'u symbylu gan ddymuniad i ddefnyddio technoleg.
  • Cynigion sy'n seiliedig ar fylchau yn y gyllideb graidd.

Oes gennych gwestiynau?

Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â chymhwyster.

Noder, na allwn roi unrhyw adborth i chi ar syniadau yn y cam hwn. Yr unig ffordd o dderbyn adborth fydd dychwelyd at y dudalen hon o 22 Hydref i gyflwyno braslun.

Ffôn: 0300 123 0735
Cyfnewid testun: 18001 plws 0300 123 0735 (ar gyfer pobl sydd â nam ar y clyw neu'r lleferydd)
E-bost: cymru@cronfagymunedolylg.org.uk

Mwy o gyfleoedd ariannu

Rydym yn cynnig ystod o raglenni ariannu agored a all eich helpu cefnogi pobl a chymunedau i ffynnu.