Over half a million pounds improving lives in communities across Wales
Dros hanner miliwn o bunnoedd yn gwella bywydau mewn cymunedau ledled Cymru
Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol wedi cyhoeddi gwerth £628,955 o grantiau i 38 o brosiectau ledled Cymru.
Mae arian y Loteri Genedlaethol yn mynd i amrywiaeth o brosiectau, gan gynnwys cefnogi:
• Pobl ifanc yn Abertawe,
• Plant awtistig a'u teuluoedd yn Sir Benfro,
• Cyn-filwyr yn Sir Fynwy,
• Myfyrwyr yn Wrecsam.
Un o'r grwpiau sy'n derbyn grant yw Mixtup yn Abertawe. Byddant yn gwario £99,732 gan ddarparu cymorth, gwasanaethau a gweithgareddau i bobl rhwng 11 a 25 oed sydd â galluoedd cymysg ac yn cael eu harwain ganddynt. Dros ddwy flynedd byddant yn trefnu clybiau ieuenctid, cymorth lles a sgiliau bywyd a gweithgareddau eraill i helpu pobl ifanc i gynyddu eu hyder a'u hunan-barch, cymryd rhan mewn gweithgareddau cymunedol, a lleihau unigedd cymdeithasol. Croesawodd Nicole, Cadeirydd Pwyllgor Pobl Ifanc Mixtup, y grant gan ddweud:
"Diolch am y grant gan y bydd yn galluogi fy ffrindiau a fi i gymryd rhan mewn gweithgareddau mewn amgylchedd diogel a derbyniol."
Cafodd Family Help yn Sir Benfro 9,975 gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i helpu plant ac oedolion awtistig, eu teuluoedd, eu gofalwyr a gweithwyr proffesiynol. Dywedodd Melissa Hutchings arweinydd prosiect Family Help wrthym:
"Mae hyn mor gyffrous! Byddwn yn gallu estyn allan at rieni a gofalwyr plant sy'n aros am gadarnhad neu sydd â diagnosis awtistiaeth. Byddwn yn cynnal amrywiaeth o 'weithdai awtistiaeth cefnogol i rieni', gan adael i deuluoedd ddod at ei gilydd a theimlo nad ydynt ar eu pennau eu hunain. Bydd y gweithdai yn eu grymuso gyda'r sgiliau a'r wybodaeth i ddeall a helpu eu plant.
"Alla i ddim aros i ddechrau arni ac wrth i bopeth ddechrau ailagor, byddwn yn cynnal y gweithdai wyneb yn wyneb. Ein nod yw i'n pobl ifanc awtistig dyfu'n oedolion hapus, annibynnol, sy'n teimlo'n ddiogel ac sy'n rhan o'r gymuned leol."
Gwnaeth Sefydliad On Course gais llwyddiannus am £6,090 i wella iechyd a lles personél y lluoedd arfog sydd wedi'u clwyfo neu eu hanafu, a chyn-filwyr drwy sesiynau golff yn Sir Fynwy.
Eglurodd Mark Schorah, Pennaeth Digwyddiadau a Chyflogaeth sefydliad On Course beth fyddai'r grant yn ei olygu:
"Rydym yn falch iawn o fod wedi derbyn y grant hwn. Dros yr 11 mlynedd diwethaf, rydym wedi gweld y gall cymryd rhan mewn golff gael effaith gadarnhaol ddofn ar les meddyliol ac adferiad ein buddiolwyr haeddiannol. Mae'n un o ychydig o chwaraeon y gellir eu chwarae waeth beth fo'u anaf neu salwch.
"Gall pontio o yrfa filwrol i fywyd sifil fod yn anodd i lawer o bobl. Rhowch hynny â gorfod ymdopi ag anaf neu gyflwr meddygol sy'n torri gyrfa'n fyr ac mae'r anhawster yn lluosi'n sylweddol. Mae llawer o'r rhai sy'n gadael y gwasanaeth yn cael trafferth gyda hyder o ganlyniad ac yn rhoi pwysau arnynt eu hunain. Nod ein rhaglen yw eu helpu i ymdopi â'r anawsterau hyn, rhannu'r profiad gydag unigolion o'r un anian a chanolbwyntio ar yr hyn y gallant ei wneud, nid yr hyn na allant ei wneud. Mae llawer o bersonél presennol a chyn-filwyr Cymru nad ydynt eto wedi clywed am ein gwaith a allai elwa'n wirioneddol o'n cefnogaeth. Edrychwn ymlaen at ledaenu ymwybyddiaeth a helpu cymaint â phosibl dros y 12 mis nesaf."
Yn y cyfamser, gwnaeth Cylch Meithrin Trefynwy yn Nhrefynwy gais llwyddiannus am £10,000 gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Diolch i gefnogaeth chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, maent yn sicrhau dyfodol sefydlog i Gylch Meithrin Trefynwy sy'n tyfu'n gyflym. Dywedodd Robin Davies, Trysorydd ac Ymddiriedolwr Cylch Meithrin Trefynwy:
"Rydw i wrth fy modd. Mae'r staff wedi gweithio'n hynod o galed i sefydlu Cylch Meithrin Trefynwy. Mae'r galw'n cynyddu ar gyfer ein lleoliad cyn-ysgol a bydd y grant yn gwneud gwahaniaeth enfawr."
Bydd Professional Academic Study Support Limited – a elwir yn Up-grade - yn Wrecsam yn defnyddio £10,000 i gefnogi Myfyrwyr Prifysgol Glyndŵr y mae eu hiechyd meddwl, eu lles a'u cyrhaeddiad academaidd wedi dioddef effeithiau COVID-19.
Roedd Benjamin Morgan-Jones, Sylfaenydd a Chyfarwyddwr Up-Grade, yn dal mewn sioc:
"Ers cael gwybod am ein cais llwyddiannus ar gyfer rhaglen Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol, rydym wedi bod mewn sioc llwyr ac yn dal i geisio prosesu'r newyddion. Y dyfarniad hon yw'r trobwynt ar gyfer lansio prosiect cymunedol lleol ein Menter Gymdeithasol. Rwyf yn wirioneddol werthfawrogol bod Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol wedi gweld y potensial. Rydym bellach wedi cael yr hwb ychwanegol hwnnw mewn hyder i wneud y prosiect 'Up-Grade You' yn llwyddiant ysgubol. Rydym yn diolch i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol o waelod ein calonnau ac yn addo na fyddwn yn eu siomi, na'n cymuned ni."
Cynigiodd John Rose, Cyfarwyddwr Cymru yng Nghronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ganmoliaeth ac anogaeth i bob un o'r 38 cymuned gan ddweud:
"Mae'n ysbrydoledig gweld yr egni a'r brwdfrydedd mewn cymunedau ledled Cymru a greodd y prosiectau hyn. Mae'r ffordd y mae cymunedau'n gweithio gyda'i gilydd i helpu eu hunain mewn cymaint o ffyrdd bob amser yn creu argraff arnom. Mae ein harian ar gyfer pawb, a chyda chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn codi £36 miliwn bob wythnos ledled y DU, rydym bob amser yn edrych ymlaen at weld beth fydd cymunedau yng Nghymru yn dewis ei wneud nesaf."
Darllenwch am bob un o'r 38 prosiect a ariennir y mis hwn yma.
I gael gwybodaeth am wneud cais i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol am grant i helpu eich cymuned i ffynnu, ewch i www.cronfagymunedolylg.org.uk neu ffonio 0300 123 0735.
-diwedd-
- Dyddiad cyhoeddi
- Rhanbarth
- Cymru

Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol Cymru
Ffordd sydyn i ymgeisio am nifer llai o arian rhwng £300 a £20,000.
Pawb a'i Le: grantiau canolig
Hoffem helpu cymunedau yng Nghymru gyda'r materion sydd bwysicaf iddyn nhw. Rydym yn ariannu prosiectau sy'n cynnwys y gymuned ac a fydd yn adeiladu ar eu sgiliau a'u profiadau. Gall yr arian hwn dalu am gostau cyfalaf neu eich helpu i gynllunio gwaith tir neu adeiladu.