63 cymuned yn dathlu grantiau gwerth £3.5miliwn
Mae 63 cymuned yng Nghymru'n dathlu dechrau cyfnod y Nadolig gyda grantiau o'r Gronfa Loteri Fawr gwerth cyfanswm o £3,732,133. 93 a ddyfarnwyd dros y mis diwethaf.
Mae'r grantiau hyn yn bosib diolch i bobl sy'n chwarae'r Loteri Genedlaethol. Mae'r grant mwyaf am £700,000 i Gymunedau Camphill Coleg Elidyr i ehangu a moderneiddio eu cyfleuster addysg ar gyfer oedolion ifanc ag anghenion ychwanegol a'r gymuned anabl ehangach, gyda'r lleiaf am £1,700 a aeth i Sefydliad Tai Cymunedol Caerdydd i gynnal dau ddigwyddiad a fydd yn dod â phobl ynghyd i rannu effaith Credyd Cynhwysol a Diwygio Lles.
- Dyddiad cyhoeddi
- Rhanbarth
- Cymru

Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol Cymru
Ffordd sydyn i ymgeisio am nifer llai o arian rhwng £300 a £20,000.
Pawb a'i Le: grantiau canolig
Hoffem helpu cymunedau yng Nghymru gyda'r materion sydd bwysicaf iddyn nhw. Rydym yn ariannu prosiectau sy'n cynnwys y gymuned ac a fydd yn adeiladu ar eu sgiliau a'u profiadau. Gall yr arian hwn dalu am gostau cyfalaf neu eich helpu i gynllunio gwaith tir neu adeiladu.