Munud i feddwl – un flwyddyn o’r cynllun corfforaethol
Yr adeg hon y llynedd, fe wnaethon gyhoeddi ein cynllun corfforaethol i amlinellu sut rydym am gyflawni ein strategaeth uchelgeisiol. Nawr, 12 mis yn ddiweddarach o’r cynnydd mwyaf yn ein hariannu ers tri degawd, mae’n adeg ddelfrydol i fyfyrio ar beth rydym wedi ei gyflawni eisoes a lle rydym am ganolbwyntio ein hymdrechion ymhellach i gyflawni newid beiddgar i’n cymunedau.
Does dim amheuaeth ein bod yn wynebu heriau fel cymdeithas a bod y pwysau’n cael ei deimlo i’r byw gan amryw, ond rwy’n wirioneddol credu fod grymuso cymunedau a chenedlaethau’r dyfodol yn allweddol wrth fynd i’r afael â’r heriau sylweddol rydym yn eu hwynebu. Mae cysylltiadau cymdeithasol a gweithgareddau cymunedol wrth wraidd creu cymdeithas iachach, hapusach a thecach. Ym mlwyddyn gyntaf ein cynllun, rydym wedi dyfarnu £724 miliwn i 13,000 o brosiectau - mae hynny’n 8 grant bob awr.
Rydym hefyd wedi gwneud cynnydd sylweddol tuag at ein targedau tair blynedd uchelgeisiol: rydym ar y trywydd cywir i gyrraedd 80% o ardaloedd ledled y Deyrnas Unedig; gweld dros 50% o grantiau yn mynd i gymunedau sy’n wynebu’r tlodi neu’r anfantais fwyaf; ac i ganolbwyntio 90% o’n grantiau ar bedair nod a arweinir gan y gymuned.
Wrth i ni symud ymlaen i ail flwyddyn ein cynllun corfforaethol a pharhau i ddyfnhau a datblygu ein perthnasoedd gyda Gweithredwr newydd y Loteri Genedlaethol a Llywodraeth newydd y Deyrnas Unedig, mae ein ffocws ar ein pedair nod gymunedol a’n huchelgais yn glir o hyd. Bydd ein rhaglenni ariannu a adnewyddwyd yng Nghymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon, Yr Alban a’r DU-gyfan yn gwneud y nodau a arweinir gan y gymuned yn flaenoriaeth.
Rydym yn derbyn syniad bob tri munud ac yn ariannu prosiect cymunedol bob wyth munud, felly mae ein dull a arweinir gan nodau wedi ein helpu’n fawr i ganolbwyntio ein hymdrechion dros y flwyddyn ddiwethaf.
Dros y 12 mis diwethaf, roedd 95% o’r grantiau a ddyfarnwyd yn canolbwyntio ar un o’n nodau a arweinir gan y gymuned: cefnogi cymunedau i ddod ynghyd, bod yn gynaliadwy yn amgylcheddol, helpu plant a phobl ifanc i ffynnu a galluogi pobl; i fyw bywydau iachach. Mae ein fframwaith nodau yn edrych yn fanylach ar y meysydd hyn a’r allbynnau a’r grwpiau targed rydym yn anelu i’w cyrraedd. Bydd hyn yn ein helpu wrth i ni weithio tuag at alinio ein rhaglenni ariannu’n i’n nodau’n llawn dros y blynyddoedd i ddod.

Mae’r Menopause Alliance yn Lloegr yn esiampl wych o gefnogi’r grwpiau hynny sy’n mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd. Gydag arian gan y Loteri Genedlaethol maen nhw’n darparu cymorth cymheiriaid hanfodol ynghylch y menopos a bywyd canol oed i fenywod lleol. Mae’r prosiect yn darparu grŵp cymorth i fenywod o ystod o gefndiroedd, lle diogel lle gall menywod siarad yn gyfforddus am effeithiau’r menopos.
Mae’r dull hwn o ganolbwyntio ariannu ar feysydd ein nodau, yn helpu ein timau ymroddedig i ddyfarnu grantiau uchel eu heffaith, trwy roi cyfeiriad clir i ni.
Rydym hefyd wedi addo ymestyn ariannu llawr gwlad ledled y DU ac rwy’n falch o ddweud bod 84% o’n hariannu wedi ei ddosbarthu trwy grantiau bychain a bod 82% o’r grantiau i sefydliadau sydd ag incwm llai nac £1 miliwn.

Rydym yn gwybod mai ein grantiau bychain yw’r ffordd fwyaf effeithiol o gyrraedd gwraidd y materion dydd i ddydd sy’n wynebu cymunedau. Yng Ngogledd Iwerddon, mae Pets as Therapy yn esiampl wych o hyn, defnyddio eu grant bychan i ddod a gwirfoddolwyr a’u hanifeiliaid anwes i mewn i gartrefi gofal a hosbisau, gan wella iechyd a llesiant pobl fregus yn y gymuned.
Mae taclo anghydraddoldeb a defnyddio dull sy’n seiliedig ar degwch wrth graidd yr hyn a wnawn, ac mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi ein gweld yn gwireddu hyn. Roedd 47% o’n grantiau wedi eu dyfarnu i’r 30% o ardaloedd mwyaf difreintiedig.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, fe wnaethom ddyfarnu cyfartaledd o £1.2 miliwn y dydd i brosiectau sy’n gwneud pethau anhygoel i wella eu bywydau a’u cymunedau. Eleni byddwn yn gweld camau gweladwy ymlaen yn y dull seiliedig ar degwch hwn a’n ymrwymiad i weithredu ar yr amgylchedd – dau faes rydym yn canolbwyntio arnynt.
Mae graddfa a chyflymder yr argyfwng hinsawdd, yn enwedig, yn golygu ein bod angen uchafu ein hariannu amgylcheddol, felly rydym yn gwneud cynlluniau ar gyfer y blynyddoedd i ddod i gynyddu ein cymorth ar gyfer prosiectau amgylcheddol. Eisoes rydym wedi mynd dros ymrwymiad ein Cronfa Gweithredu Hinsawdd o fuddsoddi £100 miliwn dros bum mlynedd gyntaf y rhaglen ddeng mlynedd, ac rydym wedi buddsoddi bron i £50 miliwn mewn prosiectau amgylcheddol ledled y DU yn 2024-25

Un prosiect sydd wedi elwa o’r Gronfa Newid Hinsawdd yw Changeworks yn yr Alban, a dderbyniodd bron i £1.5 miliwn i weithio gyda chymunedau i gefnogi datgarboneiddio cartrefi a grymuso cymunedau i weithio gyda’i gilydd tuag at ddyfodol gwyrddach. Y llynedd, darparodd y prosiect gyngor arbed ynni i 64,000 o aelwydydd, gan gefnogi ardaloedd gwledig sy’n dioddef tlodi tanwydd.
I ragori o ran sut rydym yn cefnogi cymunedau yn y dyfodol, byddwn yn blaenoriaethu cyflawni ein strategaeth pobl a diwylliant a’n strategaeth ddigidol newydd - gan groesawu technoleg sy’n symleiddio, ail ddychmygu a gwella’r profiad o’n hariannu. Yn gynharach eleni, fe wnaethom rannu ein Hegwyddorion ar Ddeallusrwydd Artiffisial (AI), ynghyd â Defnyddio AI ar gyfer ceisiadau grant i wella hygyrchedd ac effeithlonrwydd ar gyfer sefydliadau sy’n ymgeisio. Rydym hefyd yn falch o fod yn bartner ar dasglu Elusen AI - cynghrair o arianwyr, elusennau, a phartneriaid eraill sy'n ymroddedig i sicrhau bod AI yn gweithio i gymdeithas sifil. Mae dod ynghyd i gydweithio ar draws y sector i sicrhau fod AI yn gweithio i bawb ac nid dim ond yr ychydig rai, nid yn unig yn ddewis - mae’n rheidrwydd moesol ac rydym wedi ymrwymo i weithio gyda chymunedau i wneud y gwahaniaeth mwyaf posibl.
Byddwn yn parhau i gefnogi cymunedau lle mae’r angen mwyaf a rhoi mwy o lais iddynt wrth i ni weithio i ddosbarthu £4 biliwn o arian sy’n gweddnewid bywydau erbyn 2030. Byddwn yn cryfhau ein hymdrechion partneriaeth ac yn nodi adegau sy’n bwysig i gymunedau trwy gydol y flwyddyn.
Wrth i ni ddechrau ail flwyddyn ein cynllun corfforaethol, rwy’n edrych ymlaen at fwrw ymlaen gyda’n nodau, harneisio arloesi ac uchafu ein hymdrechion llawr gwlad, a bod yn llysgenhadon dros ddatrysiadau beiddgar a arweinir gan y gymuned.