Cefnogi cymunedau i adrodd eu straeon
Ym 1995, derbyniodd Stepping Stones for Families, elusen o’r Alban, un o grantiau cyntaf y Loteri Genedlaethol. Eu cynllun? I brofi dull newydd arloesol o gefnogi teuluoedd. Yn ogystal â chynnig gofal plant a chyngor, aethant ymhellach. Fe wnaethant benodi gweithwyr iechyd a llesiant newydd i hybu hyder rhieni. Fe wnaethant recriwtio arbenigwyr i ddarparu cyngor hanfodol ar arian a budd-daliadau. Roedd hyn yn gwbl newydd i ganolfannau teulu ar y pryd. Ond roedd y Prif Weithredwr, Isobel Lawson yn gwybod y byddai’n gweithio. Roedd hi’n ffyddiog. “Ond...”, ychwanegodd, “wyddoch chi, mae’n rhaid i chi ei brofi.”
Mae hyn yn swnio’n syml, yn tydi? Ond dydi o ddim. Fel ariannwr mwyaf gweithgarwch cymunedol yn y DU, mae’n anrhydedd cael miloedd o bobl yn siarad â ni am beth sy’n bwysig iddyn nhw ac i’w cymunedau nhw. Y problemau maen nhw’n eu hwynebu. Yr atebion sydd ganddynt. Y gwahaniaeth y maen nhw’n ei wneud. Ac rydym yn gwybod, yn enwedig i sefydliadau llai, bod adrodd ar effaith – y gwahaniaeth a wneir – yn gallu bod yn heriol.
Y mwyaf y gwnaethom wrando, y mwyaf yr oeddem yn gweld angen. Gweld cyfle. Rydym, wedi’r cyfan, yn fwy na dim ond ariannwr. Rydym yn cefnogi cymunedau i fynd i’r afael a’u problemau, gwireddu eu huchelgeisiau a chyrraedd eu potensial.
Yn yr ysbryd hwn, rydym yn gwneud addewid. Gan ddechrau heddiw. Hynny yw, i gefnogi’r rhai rydym ni’n gweithio gyda nhw - elusennau, sefydliadau cymunedol, grwpiau llawr gwlad - i allu dangos yn well y gwahaniaeth y maen nhw’n ei wneud i’w cymunedau. Rydym eisiau ei gwneud yn haws iddyn nhw gael mynediad i’r syniadau, atebion, arferion gorau a’r dysgu y maen nhw ei angen i arddangos eu heffaith a rhannu hynny.
I ni, mae hyn yn ymwneud â gweithio gyda’n gilydd i gasglu tystiolaeth glir a chadarn am sut i gydweithio i drawsnewid cymdeithas. Mae ein cynlluniau newydd – a gyhoeddir heddiw – yn nodi sut rydym eisiau gweithio gyda’r sector. I ddefnyddio tystiolaeth a dysgu yn fwy effeithiol. I daclo tlodi, anfantais a gwahaniaethu. I ysbrydoli newid cymdeithasol ystyrlon.
Cymunedau sy’n ein harwain. Y nhw yw’r rheswm rydym yn gwneud yr hyn a wnawn. Ac er mai ni yw’r ariannwr mwyaf yn yr ystafell, nid ni yw’r arbenigwr. Yn enwedig pan ddaw at brofiadau bywyd. Dyna pam rydym yn gwneud addewid i ni’n hunain hefyd. I roi systemau a phrosesau gwell yn eu lle sydd eu hangen arnom i wrando ar beth mae ein cymunedau yn ei ddweud wrthym ni. I dyfu o hyn, fel sefydliad cyfan. Ac yna, i rannu hyn gydag eraill. Wedi’r cyfan, mae dysgu gan ein gilydd yn gweithio i sawl cyfeiriad.
Mae ein cynigion yn nodi pum blaenoriaeth dros ar gyfer y pum mlynedd nesaf. Sef:
- Dysgu gyda chymunedau: i gasglu a rhannu tystiolaeth ar y cyd a chreu mwy o gyfleoedd i gymunedau i ddysgu, cysylltu a datblygu.
- Arwain gyda thystiolaeth trwy harneisio tystiolaeth a dysgu i wneud y gwahaniaeth mwyaf i heriau difrifol cymdeithas.
- Galluogi ein dull sy’n seiliedig ar degwch fel ein bod yn defnyddio dysgu am dlodi, anfantais a gwahaniaethu i dargedu ein hariannu a’n cyfathrebu.
- Arddangos ein heffaith – defnyddio tystiolaeth a data i ddangos cyrhaeddiad ein hariannu, a’r effaith a gaiff ar gymunedau, ac i wneud penderfyniadau ariannu gwell yn y dyfodol.
- Defnyddio dull sy’n seiliedig ar dystiolaeth wrth ariannu - gan ddefnyddio tystiolaeth a dysgu o du mewn a thu allan i’r Gronfa i wneud penderfyniadau.
Yn ystod y cyfnod hwnnw, rydym am:
- Greu banc dysgu ar-lein ar gyfer arferion gorau. Yma, bydd cymunedau yn cael hyd i syniadau newydd, tystiolaeth ac atebion bywyd go iawn. Byddwn yn trosi tystiolaeth a chanfyddiadau o wahanol ffynonellau yn rhywbeth fydd yn hawdd mynd ato, ei ddilyn a gwneud defnydd ohono. Bydd cymunedau yn gallu dysgu mwy am brofiadau eu cymheiriaid - sut oedd eu teithiau nhw’n edrych yn ymarferol. Fe fydd mwy o gyfleoedd i gydweithio. A byddwn yn ceisio llenwi unrhyw fylchau o ran beth y mae cymunedau eisiau dysgu amdano sydd weithiau yn anodd ei gyrchu.
- Ei gwneud yn haws i’n deiliaid grantiau gael mynediad i’r rhwydweithiau; pecynnau cymorth; mentora, hyfforddi a chyfleoedd dysgu a gynigir gennym ni a’n partneriaid, ledled y DU. Byddwn yn sicrhau fod grwpiau cymunedol gyda mwy o ffyrdd i gysylltu â chymheiriaid, dod o hyd i gyngor, a dysgu gan eraill.
- Gwneud gwell defnydd o dystiolaeth i hyrwyddo newid cadarnhaol a dangos y gwahaniaeth a wna cymunedau gyda help arian y Loteri Genedlaethol. Bydd hyn yn ein helpu i gyfathrebu’r achos dros newid yn well ym mhob un o feysydd ein pedair nod a chefnogi sefydliadau eraill sy’n rhannu’r un nodau.
- Sefydlu panel amrywiol o gynghorwyr cymunedol o ledled y DU. Does gennym ni mo’r atebion i gyd. A dydyn ni bendant mo’r arbenigwyr bob tro. Felly, bydd y panel hwn yn rhoi syniadau a chyngor i ni ynghylch sut rydym ni - a’r rhai rydym ni’n gweithio gyda nhw - yn gallu dysgu, meithrin ymddiriedaeth a theilwra'r hyn rydym yn ei ddarparu i’r hyn y mae cymunedau gwirioneddol ei angen. A byddent yn ein helpu ni i gyd-ddylunio ffyrdd newydd y gall cymunedau ddysgu, cysylltu a datblygu’n agored hefyd.
Dyna’r cynllun. Gallwch ddarllen amdano yma. Rydym wedi ei ddatblygu trwy ymgynghori â chymunedau a phartneriaid yn y sector; eu cyngor, profiad ac arbenigedd nhw sydd wedi ei lywio. Rydym yn hynod ddiolchgar o’u mewnbwn ac rydym am wneud cyfiawnder â’r angerdd a ddangoswyd wrth ein helpu gyda hyn. Dyna pam rydym yn dal ein hunain yn atebol i’r ymrwymiadau a wnawn yma, A byddwn yn rhannu’r hyn a ddysgwn ar hyd y ffordd, gan gynnwys adrodd yn ôl i’r cymunedau a’n partneriaid ynghylch y gwahaniaeth y mae ein hariannu yn ei wneud mewn adroddiad blynyddol ar effaith.
Dros y misoedd nesaf, byddwn yn datblygu ein cynlluniau ar gyfer y panel dysgu cymunedol. Gall elusennau, grwpiau llawr gwlad a sefydliadau sy’n gwasanaethu cymunedau sydd â nodweddion gwarchodedig sydd â diddordeb gysylltu â ni. Ysgrifennwch atom ar community.learning@tnlcommunityfund.org.uk. Byddem wrth ein boddau yn clywed gennych.
A beth am Stepping Stones ac Isobel Lawson? Bryd hynny, fe wnaethom rywbeth gwahanol hefyd. Roedd ein grant yn cynnwys £40,000 yn benodol ar gyfer canfod beth oedd wir yn gwneud gwahaniaeth wrth helpu teuluoedd yn fwy effeithiol. Roedd y canlyniadau’n glir: roedd y rhieni’n cael y gorau gan gymorth a ganolbwyntiai ar lesiant teuluoedd a chyngor ariannol. Roeddent yn croesawu’r gefnogaeth gyfeillgar, gyfannol. Yr ymatebion wedi’u teilwra i anghenion bob teulu. Roedd manteision enfawr. Darganfu Stepping Stones fod ychwanegu cynhwysiant ariannol i’w cefnogaeth wedi “gwireddu oddeutu £10 miliwn yn ôl i’r gymuned wledig” dros ddeng mlynedd.
Roedd arddangos effaith y prosiect yn drawsnewidiol iddynt. “Fe gododd ein proffil...roedd ein syniadau arloesol yn cael mwy o ddilysrwydd,” meddai Iosbel. Gofynnodd awdurdodau lleol, wedi’u plesio gyda’r dull seiliedig ar dystiolaeth, i Stepping Stones leoli staff ym meithrinfeydd y cyngor yn y ddinas. Mae’r elusen wedi mireinio’r model dros y tri degawd, ond mae’r elfennau craidd yn parhau hyd heddiw. Yn cael gymaint o effaith ag erioed.
Roedd Isobel yn credu ynddo.
Ac yna, gydag ychydig o help gennym ni, fe aeth yn ei blaen i’w brofi.