Erthygl am yr Uwchgynhadledd ar Iechyd Pobl Ddu 2025
Yr wythnos diwethaf, cefais y fraint o gael fy ngwahodd i annerch yr Uwchgynhadledd ar Anghydraddoldebau Iechyd Pobl Ddu. Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, rydym yn falch o gefnogi’r digwyddiad hwn a gynhelir gan y Caribbean & African Health Network (CAHN) a’r London Inspire Programme.
Er na fydda i byth yn deall yn llawn nac yn byw’r realiti, y profiadau na’r heriau y mae pobl Ddu yn eu hwynebu, fel cynghreiriad a phartner rwy’n ymrwymo’n llwyr i wrando, cefnogi a chydweithio gyda chymunedau Du i daclo’r anghydraddoldebau iechyd sydd wedi’u gwreiddio mewn hiliaeth strwythurol a gwahaniaethu.
Rydym yn credu’n gryf fod gan Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, fel ariannwr cymunedol mwyaf y Deyrnas Unedig, gyfrifoldeb ar y cyd i herio’r rhwystrau systemig a sbarduno newid ystyrlon. Daeth yr uwchgynhadledd ag arbenigwyr, arweinwyr cymunedol, arianwyr ac eiriolwyr sydd a phwrpas cyffredin ynghyd. Mae’r gwaith a wanwn gyda’n gilydd yn anodd. Mae’n systemig, mae’n hirsefydlog ac ni fydd yn newid dros nos. Ond rwy’n ffyddiog y gallwn greu dyfodol tecach trwy ganolbwyntio ar leisiau cymunedol, meithrin ymddiriedaeth a chydweithio.
Grym Datrysiadau a Arweinir gan y Gymuned

Pan fyddwn ni’n siarad am daclo materion sydd wedi gwreiddio’n ddwfn fel anghydraddoldebau iechyd, rhaid i ni gydnabod mai’r rhai sydd agosaf at yr heriau hynny yn aml yw’r rhai sydd yn y lle gorau i greu datrysiadau effeithiol. Nid dim ond meddwl yn uchelgeisiol yw hyn – mae’n egwyddor rydym wedi ei weld yn cael ei brofi dro ar ôl tro.
Yn Lambeth er enghraifft, fe wnaeth trigolion a wynebai heriau sylweddol ynghylch iechyd meddwl, ansefydlogrwydd tai a rhwystrau i waith greu partneriaeth arloesol. Yn hytrach na phennu datrysiadau allanol, gyda’n cefnogaeth fe wnaeth prosiect Black Thrive ganolbwyntio ar leisiau trigolion Du, gan ddod â hwy ynghyd a sefydliadau a darparwyr gwasanaeth llawr gwlad i gyd-ddylunio ymyriadau a oedd yn mynd i’r afael â rhwystrau systemig i lesiant.
Beth wnaeth eu dull yn drawsnewidiol oedd eu gweledigaeth gyfannol. Wnaethon nhw ddim mynd ati i greu rhaglenni lleoliad gwaith traddodiadol yn unig - fe wnaethon nhw ymgysylltu’n uniongyrchol â chyflogwyr i chwalu’r arferion recriwtio rhagfarnllyd, gan agor llwybrau i gyflogaeth ystyrlon a hirdymor. Fe wnaethon nhw daclo heriau tai ac iechyd trwy ganolbwyntio’n gyson ar brofiadau’r rhai effeithiwyd fwyaf. Mae beth ddechreuodd fel prosiect wedi esblygu’n symudiad sy’n parhau i rymuso unigolion a meithrin gwytnwch cymunedol.
Mae hyn yn crynhoi un o brif gredoau Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i’r dim: mae gwir newid yn dechrau gyda’r gymuned. Mae ein strategaeth, “Cymuned yw’r man cychwyn” yn seiliedig ar ymddiried yn y rhai sydd â phrofiad bywyd a’u grymuso. Rydym yn cydnabod fod pobl sy’n profi tlodi, anghydraddoldebau neu wahaniaethu yn aml yn meddwl am y datrysiadau mwyaf arloesol i’r heriau hyn. Ein rôl ni yw sefyll gyda nhw, gan ddarparu’r adnoddau a’r gefnogaeth wrth barchu’r grym sydd ganddynt i lywio eu dyfodol eu hunain.
Mynd i’r afael ag Anghydraddoldebau Iechyd: Ymrwymiad i Gyfiawnder
Mae realiti anffodus anghydraddoldebau iechyd yn y Deyrnas Unedig yn gofyn am weithredu brys a pharhaus. Mae’r ystadegau’n frawychus: mae babanod Du yn ddwywaith fwy tebygol o fod yn farw-anedig na babanod Gwyn. Mae oedolion Du yn wynebu cyfraddau anghymesur o uchel o bwysedd gwaed uchel a strôc mewn oedrannau iau na’u cymheiriaid Gwyn. Nid yw’r canlyniadau hyn ar hap – maent yn deillio o rwystrau systemig yn cynnwys mynediad anghyfartal i ofal iechyd, gwahaniaethau o fewn gwasanaethau ac effaith sylweddol hiliaeth ar iechyd corfforol ac iechyd meddyliol.
Nid yw’r anghydraddoldebau iechyd hyn yn bodoli ar wahân. Mae cysylltiad annatod i’r penderfynyddion cymdeithasol ehangach: tlodi, ansefydlogrwydd tai a chyfleoedd cyfyngedig. Mae mynd i’r afael â’r rhain yn gofyn i ni fod yn feiddgar wrth herio systemau sy’n gwaethygu annhegwch.
Mae’r Jasmine Recovery Programme yn enghraifft rymus o ddatrysiadau a arweinir gan y gymuned i fynd i’r afael â heriau cymhleth. Mae’r fenter hon a ariannwyd gan Reaching Communities yn cefnogi menywod De Asiaidd sydd wedi goroesi trais a thrais domestig, gan greu llefydd sy’n sensitif yn ddiwylliannol ac sy’n cydnabod yr heriau unigryw y mae’r menywod hyn yn eu hwynebu. Trwy gyfuno cefnogaeth emosiynol, adnoddau ymarferol a gwasanaethau sy’n ddiwylliannol addas, mae’r rhaglen yn helpu goroeswyr i wella, ailadeiladu eu bywydau ac yn aml i ddod yn eiriolwyr eu hunain. Mae eu gwaith yn dangos sut mae dulliau wedi’u targedu ac sy’n benodol i gymuned yn gallu torri’r cylch o drawma a meithrin cymunedau iachach.
Cyd-greu Datrysiadau ar gyfer Newid Systemig

Yma yng Nghronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, rydym yn ymrwymedig i esblygu ein dull mewn partneriaeth â chymunedau. Gyda mewnbwn o’r cymunedau a wasanaethwn, rydym ar hyn o bryd yn ail-ddylunio dwy o’n rhaglenni blaenllaw – Cyrraedd Cymunedau ac Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol – i sicrhau eu bod yn fwy hygyrch ac yn ymateb yn well i anghenion cymunedau.
Trwy ein Cronfa Gydsefyll newydd sy’n cael ei lansio’r Haf yma byddwn yn ymrwymo gwariant o £50 miliwn yn flynyddol – 10% o ariannu Lloegr – i ddarparu arian craidd a hirdymor i sefydliadau sy’n taclo achosion creiddiol tlodi, gwahaniaethau neu anfantais. Bydd y gronfa yn rhoi tegwch wrth ei chraidd, gan flaenoriaethau’r cymunedau sy’n wynebu’r rhwystrau mwyaf i fynediad a chyfleoedd ac yn ceisio mynd i’r afael â heriau systemig.
Mae’r Gronfa Cydsefyll yn ymgorffori newid mewn deinameg pŵer. Trwy wahodd cymunedau i gymryd yr awenau a llywio strategaethau yn seiliedig ar eu profiadau bywyd nhw, rydym yn gweithio i greu partneriaethau mwy cytbwys sy’n cydnabod arbenigedd y tu hwnt i’r cymwysterau traddodiadol.
Yn yr uwchgynhadledd, cynhaliodd cydweithwyr o Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol weithdai i gyd-ddatblygu ein dull o daclo anghydraddoldebau iechyd sydd wedi’u gwreiddio mewn hiliaeth strwythurol a gwahaniaethu. Y brif neges oedd bod cael amrywiaeth o bobl i wneud penderfyniadau yn hanfodol ar bob lefel. Er inni siarad am rannu pŵer yn gyfartal, nid yw ein systemau presennol yn addas i’r pwrpas. Mae angen syniadau newydd arnom. Mae profiad bywyd yn amhrisiadwy; rhaid i bobl o gymunedau sydd ar y cyrion helpu i lywio polisïau sy’n effeithio ar eu bywydau. I daclo’r materion cymhleth hyn, mae arnom angen gwneud penderfyniadau mewn modd clir, cynhwysol ac atebol gyda safbwyntiau amrywiol ar bob cam. Mae dulliau fel dyfarnu grantiau mewn modd cyfranogol yn gallu grymuso grwpiau llawr gwlad trwy roi llais go iawn iddyn nhw mewn penderfyniadau ac adnoddau.
Rydym nawr yn defnyddio'r adborth hwn i ddyfnhau ein dealltwriaeth o systemau iechyd, gan ganolbwyntio ein hymdrechion ar le y gallwn wneud y gwahaniaeth mwyaf. Gyda’n gilydd, rydym yn datblygu theori newid ar gyfer mentrau iechyd sy’n mynd i’r afael a hiliaeth strwythurol a gwahaniaethu. Yr Haf eleni, byddwn yn gwahodd sefydliadau a arweinir gan ac sy’n gwasanaethu cymunedau sy’n wynebu’r anghydraddoldebau iechyd mwyaf a achosir gan hiliaeth strwythurol. Byddwn yn gweithio gyda’n gilydd i greu datrysiadau a sbarduno newid ystyrlon.
Meithrin Ymddiriedaeth ar gyfer Newid Trawsnewidiol
Dim ond un darn o’r pos yw ariannu. Er mwyn i newid trawsnewidiol ddigwydd, mae cymunedau angen partneriaid y gellir ymddiried ynddynt ac sy’n fodlon gwrando, dysgu ac addasu. Dyna pam ein bod yn edrych tuag at i mewn hefyd, gan sicrhau ein bod yn dal ein hunain yn atebol am wreiddio tegwch trwy ein sefydliad.
Yn hwyrach yr Haf yma, byddwn yn rhannu ein dull seiliedig ar Degwch ar gyfer ariannu ynghyd â’n Datganiad o Fwriad fel sefydliad – ymrwymiadau cadarn, diwyro i arwain ein gwaith. Rydym yn meithrin tîm sy’n adlewyrchu amrywiaeth y cymunedau a wasanaethwn, gan ddiweddaru arferion recriwtio, buddsoddi mewn hyfforddiant staff ar faterion anghydraddoldeb, a symleiddio ein prosesau ariannu i ddileu rhwystrau i sefydliadau llawr gwlad.
Mae ymddiriedaeth yn cael ei feithrin trwy weithredu’n gyson - bod yno, bod yn dryloyw a rhannu pŵer. Trwy ymrwymo i’r egwyddorion hyn, ein nod yw creu partneriaethau cryfach a mwy ystyrlon sy’n grymuso cymunedau i sbarduno’r newidiadau y maen nhw am eu gweld.
Ymrwymiadau Allweddol i Sbarduno Newid
Wrth i ni symud ymlaen, mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn parhau’n ymrwymedig i:
- Feithrin partneriaethau ystyrlon a bod yn gynghreiriad trwy wrando, cydweithio a grymuso cymunedau i sbarduno newid sy’n cael effaith. Rydym yn cydnabod mai ein rôl ni yw cefnogi arbenigedd y gymuned yn hytrach na gorfodi datrysiadau.
- Taclo anghydraddoldebau iechyd a rhwystrau systemig trwy ganolbwyntio ar leisiau cymunedol, herio anghyfiawnder strwythurol, a sbarduno newid ystyrlon, hirdymor sy’n mynd i’r afael a gwraidd yr achosion yn hytrach na’r symptomau.
- Esblygu a chyd-greu datrysiadau gyda rhanddeiliaid i sicrhau yr eir i’r afael â heriau systemig ar y cyd ac yn effeithiol, gan gydnabod fod doethineb i’w gael o fewn y cymunedau eu hunain.
- Gwneud ymrwymiadau cadarn trwy ein hariannu trwy’r Gronfa Gydsefyll a’r dull ariannu sy’n seiliedig ar Degwch sydd i ddod ynghyd â Datganiad o Fwriad y sefydliad, sy’n trosi gwerthoedd i weithredu cadarn.
Trwy gydol yr uwchgynhadledd, roedd un neges greiddiol yn creu argraff: os ydym am weld newid go iawn a pharhaol ar anghydraddoldebau iechyd, rydym angen mwy na phrosiectau tymor byr neu ymyraethau. Siaradodd Professor Bola Owolabi am feddwl ynghylch symudiad cymdeithasol fel ffordd o feithrin datrysiadau tymor hir wedi’i harwain gan y gymuned. Myfyriodd Cyd-gadeiryddion Inspire ar sut y mae eu gwaith nhw wedi tyfu o brosiect cychwynnol i raglen strwythuredig, a bellach i symudiad parhaus ac sy’n wirioneddol gynnwys pobl leol. Fel y dywedais yn y gynhadledd, er nad wyf yn rhannu’r un profiadau bywyd, rydw i yma fel cynghreiriad a phartner. Yng Nghronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, rydym yn ymrwymedig i weithio gyda chymunedau a chefnogi’r ymdrechion ar y cyd i gael effaith go iawn a hirdymor.
Nid yw hwn yn waith y gallwn ni – nac y dylen ni – ei wneud ein hunain, Rhaid i ni weithio mewn partneriaeth i gyfuno ein cryfderau, gan feithrin a chefnogi cymunedau lle mae gan bawb y cyfle i ffynnu. Roedd yr ynni, angerdd a’r sgyrsiau grymus yn Uwchgynhadledd ar Anghydraddoldebau Iechyd Pobl Ddu yn tanlinellu pam fod y gwaith hwn yn bwysig – a pham fod yn rhaid iddo barhau i esblygu tuag at newid gwirioneddol drawsnewidiol.