Dysgwch ragor am ariannu Amgylcheddol yn eich ardal a gwnewch gais
Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn mynd yn wyrdd!
Ym mis Mehefin, rydym yn dathlu Diwrnod Amgylchedd y Byd (5 Mehefin) a’r Wythnos Fawr Werdd (7 – 15 Mehefin). Rydym yn ariannu prosiectau amgylcheddol o bob siâp a maint sy'n fuddiol i bobl a'r blaned ac eisiau annog hyd yn oed mwy o bobl i gymryd rhan. Dysgwch ragor am ein hariannu a sut i wneud cais isod..
Pam mae gweithredu amgylcheddol mor bwysig?
Mae gweithredu amgylcheddol o fudd i bobl yn ogystal â'r blaned. Ar Ddiwrnod Amgylchedd y Byd, cyhoeddwyd ymchwil newydd* sy'n dangos y gall wella iechyd meddwl pobl, gan eu helpu i fyw bywydau iachach a hapusach. Nid yn unig hynny, ond roedd dros draean (43%) o rieni'r DU yn teimlo y byddai treulio amser ym myd natur yn helpu iechyd meddwl eu plentyn a dywedodd dros chwarter y byddai mynediad at ofod gwyrdd o fudd iddynt.
Ers i ni ariannu'r Wythnos Fawr Werdd gyntaf erioed yn 2021, mae wedi tyfu i fod yn ddathliad mwyaf y DU o weithredu cymunedol i fynd i'r afael â newid hinsawdd ac amddiffyn natur. O erddi cymunedol, i gynlluniau atgyweirio ac ailgylchu, i gynnal sesiynau gwirfoddol i ofalu am fannau gwyrdd, diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae pobl ledled y DU o Perth i Portsmouth yn gwneud gwahaniaeth.
Byddwn yn dathlu rhai o'r bobl y tu ôl i'r prosiectau anhygoel hyn ar draws ein sianeli cyfryngau cymdeithasol drwy gydol mis Mehefin, felly os ydych chi'n brosiect a ariennir gan y Loteri Genedlaethol sydd wedi ymrwymo i helpu'r amgylchedd, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n ymuno ac yn ein tagio fel y gallwn ni ddathlu gyda chi.
- BlueSky Social
- #WythnosFawrWerdd
- #DiwrnodAmgylcheddYByd
Pa grantiau amgylcheddol sydd ar gael a sut alla i wneud cais?
Os oes gennych chi syniad ar gyfer prosiect amgylcheddol, mae gennym ni amrywiaeth o grantiau ar gael i wneud cais amdanynt. Mae grantiau'n amrywio o £300 hyd at £20,000 trwy ein rhaglen Arian i Bawb agored i grantiau dros £500,000 trwy ein Cronfa Gweithredu Hinsawdd.
Dysgwch ragor a gwnewch gais:
- Ledled y DU - Cronfa Gweithredu Hinsawdd - Ein Dyfodol Ni | Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol
- Cymru - Grantiau yng Nghymru | Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol
*Arolwg ledled y DU o dros 2,000 o rieni plant 4 – 17 oed a gynhaliwyd gan Ipsos