Dysgu gan gymunedau: awgrymiadau, syniadau a datrysiadau

Mewn blwyddyn arferol, rydyn ni’n cefnogi 13,000 o gymunedau ledled y DU. Rydym wedi gwrando ar eu hastudiaethau a’u hadolygu i weld beth sy’n gweithio, beth sy’n heriol – ac rydym wedi defnyddio’r mewnwelediad hwn i greu’r awgrymiadau ymarferol hyn a rhannu enghreifftiau go iawn o’r hyn sydd wedi bod yn ddefnyddiol iddynt.

Nid ydym wedi gwneud hyn i ddweud wrthych beth i’w wneud, neu sut i’w wneud – yn syml rydyn ni’n rhannu syniadau ac enghreifftiau o’r hyn sydd wedi gweithio i eraill.

A gwyddom eich bod i gyd yn gweithio mewn gwahanol gyd-destunau gyda gwahanol heriau a chyfleoedd felly chi sy’n gwybod beth sydd orau i chi, ond gobeithio y bydd y rhain yn rhoi ysbrydoliaeth neu syniadau y gallech roi cynnig arnynt.

Ymwadiad

Mae’r tudalennau hyn yn adrodd straeon deiliaid grant a staff ac yn rhannu enghreifftiau o’r hyn sydd wedi gweithio’n dda i eraill. Ni ddylech ddibynnu ar y wybodaeth hon yn lle cyngor proffesiynol. Nid yw Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn ardystio unrhyw gynnwys allanol sydd wedi’i gynnwys fel dolen yn y tudalennau hyn.