Tyfu a choginio ar gyfer y gymuned: Rhaglen Dewch at eich Gilydd Bwyd am Oes

Mae bwyd da yn rhoi'r egni i ni ddal ati a’r maetholion i gadw'n iach. Gall hefyd fod yn ganolbwynt ar gyfer amser gydag anwyliaid neu’n gyfle i gysylltu â phobl newydd. Gall ein helpu i ddathlu treftadaeth, cysylltu â byd natur, a dangos ein gofal dros eraill.

Cynhaliwyd y rhaglen Dewch at eich Gilydd Bwyd am Oes am bedair blynedd o 2019. Cafodd y rhaglen ei rhedeg gan yr elusen bwyd cynaliadwy Cymdeithas y Pridd, a rhoddodd grantiau bach a ddaeth â phobl ynghyd i dyfu bwyd – o berlysiau mewn blychau ffenestri, i fefus ar falconïau, a moron yng ngerddi neuadd y pentref.

I wneud y gorau o’r cynhaeaf hwn, roedd y rhaglen hefyd yn annog cymunedau i baratoi, coginio a mwynhau bwyd gyda’i gilydd – trwy wyliau, dosbarthiadau coginio, a mwy.

Mae'r adroddiad hwn yn dangos sut y gwnaeth y prosiect bwyd hwn gysylltu 145,310 o bobl, a rhoi sgiliau, hyder a rhwydweithiau i 3,263 o drefnwyr cymunedol i wneud gwahaniaeth yn eu cymunedau.

Gwrando ar yr erthygl hon

Gallwch wrando ar yr erthygl hon fel recordiad sain, sy’n para 25 munud a 19 eiliad, trwy glicio ar y botwm isod.

Rhaglen Dewch at eich Gilydd Bwyd am Oes

Y rhaglen Dewch at eich Gilydd Bwyd am Oes mewn rhifau

Yr angen am gysylltiad

Mae llawer o bobl yn teimlo'n unig ac wedi'u datgysylltu, heb gysylltiad ystyrlon. Ym mis Mehefin 2023, dywedodd tua chwarter (26%) o oedolion eu bod yn teimlo’n unig yn aml, bob amser, neu rywfaint o’r amser.

Rydym hefyd yn aml yn cael ein datgysylltu oddi wrth y bwyd rydym yn ei fwyta – o ble mae'n dod, a'r profiad o'i baratoi. Gall fod yn anodd fforddio neu ddod o hyd i fwyd o ansawdd da sy’n cael ei dyfu’n lleol, ac mae pobl yn y DU yn bwyta mwy o fwydydd wedi’i brosesu nag unrhyw le arall yn Ewrop.

Mae ymchwil wedi canfod y mwyaf aml y mae pobl yn bwyta gydag eraill, y mwyaf tebygol ydynt o deimlo'n hapus ac yn fodlon â'u bywydau. Mae manteision ymgysylltu â byd natur, a thyfu bwyd gyda'n gilydd, eisoes yn gyfarwydd i ni. Ac rydym wedi gweld o’n cyllid sy’n mynd i’r afael ag unigrwydd bod cymryd rhan mewn gweithgarwch ystyrlon yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol wrth helpu pobl i gysylltu.

Am y rhesymau hyn, rhoddodd Cymdeithas y Pridd fwyd wrth wraidd eu digwyddiadau, gan ddarparu ffordd hamddenol o gysylltu pobl ac ehangu mynediad at fwyd rhad o ansawdd da, sydd wedi’i dyfu’n gynaliadwy.

Hau hadau newydd

Darparodd Plant a Rhannu gyfleoedd gwerthfawr i ffrindiau, cymdogion, cyd-ddisgyblion, a grwpiau cymunedol ddod ynghyd i dyfu eu cynnyrch eu hunain a dysgu mwy am o ble mae bwyd yn dod. Dyfarnodd grantiau bach i helpu pobl i brynu'r hyn yr oedd ei angen arnynt i ddechrau arni: o drywelion a menig, i hadau a chompost.

Anogwyd trigolion i fod yn greadigol ac yn llawn dychymyg ynghylch ble i blannu pethau: o focsys ffenestri, hen gynwysyddion a bagiau, i erddi, rhandiroedd a choedwigoedd. Yn 2023, amcangyfrifwyd bod 46,000 o bobl wedi cymryd rhan mewn digwyddiadau Plannu a Rhannu.

Creu gwely i dyfu cynnyrch

Yn Glasgow, mae Canolfan Wing Hong yn cefnogi pobl hŷn o'r gymuned Tsieineaidd. Plannu a Rhannu oedd y cam cyntaf i arddio a thyfu, a llwyddon nhw i gynnwys y gymuned ehangach yn eu gweithgareddau, gan uno garddwyr o gefndiroedd ac oedrannau gwahanol.

Roeddent yn tyfu llysiau Tsieineaidd, gan ddewis planhigion a oedd yn gallu ffynnu yn nhywydd yr Alban, ac efallai na fyddent ar gael mewn siopau lleol.

O’r cynhaeaf cyntaf hwnnw yn 2022, mae tyfu wedi dod yn weithgaredd rheolaidd i’r grŵp ac mae eu cynnyrch yn cael ei goginio ar gyfer clwb cinio rheolaidd Wing Hong, a digwyddiadau cymdeithasol i’r holl arddwyr sy’n cymryd rhan.

"Yn debyg iawn i arddio," eglura'r trefnydd Jamie Lee, "bydd yn ffrwythlon iawn yn y diwedd wrth i gyfeillgarwch newydd gael ei sefydlu."

Er bod gan bobl rwystr iaith neu agenda economaidd a gwleidyddol wahanol, does dim ots pan mae’n dod i fwyd… fe allwn ni gyfathrebu’n hawdd drwy’r bwyd.
Deiliad grant bach, Rhaglen Dewch at eich Gilydd Bwyd am Oes

Coginio, bwyta, cysylltu

Ym mis Hydref a mis Tachwedd, fe wnaeth yr ymgyrch Coginio a Rhannu annog pobl i goginio a bwyta gyda'i gilydd – weithiau gan ddefnyddio cynnyrch Plannu a Rhannu. Roedd prydau bwyd yn boblogaidd, gydag achlysuron cymdeithasol yn dod â 10 i 400 o bobl ynghyd ym mhob digwyddiad, gyda chymedr o 39 o bobl.

Defnyddiodd rhai grwpiau ddigwyddiadau Coginio a Rhannu i gefnogi pobl sy’n cael trafferth fforddio bwyta’n dda: darparu bwyd maethlon mewn ffordd urddasol, neu rannu awgrymiadau a ryseitiau ar gyfer bwyta’n iach ar gyllideb. Daeth rhai â phobl o wahanol gymunedau ynghyd, gyda phawb yn coginio bwyd o ddiwylliant eu hunain. Fe wnaeth clwb ieuenctid LHDT+ helpu pobl ifanc i ddatblygu sgiliau bywyd trwy goginio a chynllunio bwydlenni, gan weld prydau a rennir fel ffordd wych o greu atgofion ystyrlon ac arferion iach.

Defnyddiodd llawer y digwyddiad i adeiladu ymdeimlad o berthyn a chysylltiadau rhwng trigolion. Sefydlodd Live Active Unst, ar ynys fwyaf gogleddol yr Alban lle mae pobl yn byw, ginio ar y cyd a oedd "yn ddigwyddiad hamddenol iawn lle’r oedd pobl yn gallu galw heibio a gadael, heb strwythur."

Mynychodd trawstoriad o’r gymuned, gyda phobl yn amrywio o bedair oed i 93 oed, a thynnodd hyn sylw o fannau eraill yn Shetland, fel ffordd syml, gyraeddadwy o gysylltu trigolion ar draws cenedlaethau.

Paratoi ffrwythau gyda'i gilydd

Gwnaeth llawer o grwpiau ymdrech ymwybodol i ddefnyddio bwyd fel ffordd o gysylltu pobl o gefndiroedd gwahanol – yn aml yn helpu i adeiladu cymunedau newydd yn y broses.

Yn Sheffield, cyflwynodd yr elusen fach The Furnival fwyd i’w sesiynau galw heibio ac iaith ar gyfer menywod sydd newydd gyrraedd o Somalia, Yemen, Swdan a Libya. Darparodd hyn lwybr newydd ar gyfer rhannu straeon, profiadau a sgiliau, gyda phryd o fwyd bellach yn cael ei baratoi a'i fwyta gyda'i gilydd ar ddiwedd pob sesiwn.

"Cyn i rai o'r menywod hyn ddod yma, dydw i ddim yn meddwl eu bod wedi profi'r teimlad hwnnw o gael rhywbeth mewn cyffredin â rhywun am amser hir iawn," meddai Julie D'souza Walsh, y trefnydd. "Mae coginio yn cefnogi integreiddiad ac yn chwalu rhwystrau."

Roedd atgofion a chysylltiadau hefyd yn hanfodol yn y digwyddiad yn CrossReach, cartref gofal dielw yng Nghaeredin, lle mae llawer o drigolion yn byw gyda dementia. Mae'r cartref gofal eisoes yn tyfu ffrwythau a llysiau, ond nid yw ei gegin ar agor i breswylwyr fel arfer. Defnyddiodd CrossReach ei grant Coginio a Rhannu i brynu sosbenni a hob, er mwyn i breswylwyr allu cymryd rhan.

Roedd natur corfforol coginio wedi sbarduno sgwrs a chysylltiad. Roedd diblisgo pys yn annisgwyl o boblogaidd, tra bod dal sgon - yn gynnes o'r popty - yn annog pobl i rannu eu hatgofion o bobi. Mae tystiolaeth yn awgrymu y gall cyfleoedd i hel atgofion gael effeithiau cadarnhaol ar ansawdd bywyd a hwyliau pobl â dementia.

"Rwy’n credu bod pobl yn anghofio pan fyddwch chi’n mynd i ofal preswyl, na ddylai eich bywyd ddod i ben," eglurodd y trefnydd, "dylech chi gael eich galluogi i wneud cymaint o bethau normal â phosib."

Mae’r hyn y mae [trefnwyr y digwyddiadau cymunedol] yn ei ddarparu yn rhaff achub i’r cymunedau y maen nhw’n gweithio gyda nhw.
Adam Carter, Cymdeithas y Pridd

Mynediad hawdd at gyllid

Nid oedd llawer iawn o waith papur, a oedd yn ei gwneud yn hawdd cael mynediad at grantiau bach, hyblyg y rhaglen. "Hawdd iawn," esboniodd Samantha o Penrose Root Community yn Swydd Bedford – yn enwedig o'i gymharu â systemau ymgeisio eraill, sy’n gallu bod yn "gymhleth iawn, hyd yn oed os yw'n £50. Ac roeddwn i'n hoffi ei fod yn ymwneud â'r hyn yr oeddech eisiau ei wneud, hynny yw roedd yn ymwneud â ni yn hytrach na'r ariannwr."

Defnyddiodd y rhan fwyaf o grwpiau eu cyllid i brynu cynhwysion, offer coginio, offer garddio, neu ddeunyddiau marchnata i hyrwyddo digwyddiadau.

Mae gwerthusiad yn dangos bod galw am y math hwn o grant, yn enwedig gan grwpiau ar lawr gwlad. Helpodd grantiau bach y rhaglen i gysylltu â chymunedau yr oedd wedi cael trafferth i'w cyrraedd o'r blaen. A’r sefydliadau lleiaf (gydag incwm blynyddol o dan £5,000) oedd fwyaf tebygol o ddweud mai grantiau bach rhwng £100 a £1,000 oedd fwyaf perthnasol i’w hanghenion.

Defnyddiodd rhai grwpiau eu grant i gael cyllid pellach, neu i wneud i arian fynd ymhellach. Ar sail eu digwyddiad Coginio a Rhannu, gwnaeth Friendly Faces of Kent gais llwyddiannus am grant £1,500 gan Tesco. Yn Llundain, prynodd y Nigerian Catholic Community gynhwysion diwylliannol cyfarwydd ar gyfer un o'u prydau cymunedol rheolaidd ar gyfer pobl hŷn. Gan brynu am bris gostyngol drwy elusennau eraill, fe wnaethon nhw drosi £150 yn £500 o bŵer prynu.

Newidiodd y grant fel yr oedd rhai derbynwyr yn gweld eu hunain. Gallai swm cymharol fach o arian fod yn drawsnewidiol: "Ar un llaw doedd y £150 ddim yn llawer, ond ar y llaw arall roedd yn drawsnewidiol. Roedd hyn yn ffordd i ni allu dweud ein bod wedi llwyddo i gael grant bach!" meddai'r tîm yn Live Active Unst. "Fe roddodd y cymhelliant i ni feddwl 'Rydyn ni wedi gwneud hyn, rydyn ni’n gallu codi arian!'"

Catalydd ar gyfer gweithredu cymunedol parhaus

Gall digwyddiadau bwyd ar y cyd fod yn bwynt cychwyn ar gyfer rhywbeth mwy. Aeth bron pob trefnydd FFLGT ymlaen i wneud mwy ar ôl eu digwyddiad cyntaf. Rhoddodd buddsoddiadau mewn offer, cyfleusterau, lleoliadau ac asedau eraill hwb gwirioneddol i lawer o grwpiau ac mae dwy ran o dair (67%) o ddigwyddiadau bellach yn cael eu cynnal yn rheolaidd, yn aml sawl gwaith y flwyddyn.

Roedd un rhan o bump (21%) o’r trefnwyr yn cynllunio digwyddiadau i gysylltu pobl o wahanol gefndiroedd a chymunedau, er enghraifft yn ystod dathliadau crefyddol fel Eid, Diwali, y Nadolig a Vaisakhi, neu fel rhan o ddathliadau fel Diwrnod Windrush.

Roedd grantiau bach yn sbardun ar gyfer syniadau newydd. Dywedodd y rhan fwyaf o sefydliadau a dderbyniodd grantiau Plannu a Rhannu (81%) mai dyma'r tro cyntaf iddynt gynnal y math hwn o weithgaredd. Ar gyfer Silver Road Community Centre yn Norwich, a ddefnyddiodd ei grant i dreialu caffi lles, roedd y cyllid yn gyfle "i arbrofi… a nawr rydyn ni’n gwybod y gallwn ni fwrw ymlaen." Helpodd gweithgareddau coginio yn y caffi lles i greu gofod lle’r oedd pobl yn gallu rhannu problemau a bod yn agored. Dywedodd un cyfranogwr sydd wedi cael profedigaeth yn ddiweddar, "Chi yw fy rhaff achub. Wn i ddim beth fyddwn i wedi'i wneud petawn i heb ymuno â'ch grŵp."

Roedd cefnogaeth i roi cynnig ar rywbeth newydd wedi helpu grwpiau i fagu hyder – ac roedd un syniad yn aml yn arwain at un arall. Yng Nghaerlŷr, defnyddiodd Fearon Hall Urban Gardeners eu grant ar gyfer offer, hadau, planhigion, a chyhoeddusrwydd. Gwnaethant dacluso gardd eu canolfan gymunedol leol, ac adeiladu cynwysyddion planhigion o baletau fel opsiwn hygyrch i arddwyr gyda llai o symudedd.

Sbardunodd y gwelliannau gweladwy hyn ddiddordeb grwpiau eraill, gan gynnwys y Cub Scouts lleol. Aeth y grŵp ymlaen i wella’r pridd ar ochr y ffordd, gan greu rhandir yn cynnig ffrwythau a llysiau am ddim i bobl oedd yn mynd heibio.

"Nid yw’n rhywbeth i ni yn unig ei ddefnyddio, fe wnaethon ni hyn er mwyn iddo edrych yn bert i bawb. Byddwn yn defnyddio [y cynnyrch] yn y caffi... ond mae ar gyfer unrhyw un sy'n cerdded heibio," meddai'r grŵp, a gafodd ganmoliaeth gan y beirniaid o wobrau Britain in Bloom y Royal Horticultural Society.

Datblygodd grwpiau sgiliau a hyder ymhlith eu haelodau hefyd. Mewn bloc o fflatiau yn Stroud, daeth Middle of the Hill Community Group â phobl sy’n ceisio lleihau gwastraff bwyd a phobl sy’n wynebu anawsterau ariannol ynghyd. Mae “Torri a Sgwrsio” wedi dod yn ddigwyddiad cymdeithasol rheolaidd, gyda’r grŵp yn paratoi prydau wedi’u coginio ar gyfer trigolion. Mae hyn wedi cael manteision pellach: mae gan aelodau'r grŵp sydd heb lawer o gymwysterau ffurfiol bellach dystysgrifau achrededig mewn hylendid bwyd.

Buddsoddiad mewn trefnwyr cymunedol

Roedd y rhaglen yn gyfle i feithrin sgiliau a chysylltiadau – nid yn unig i gyfranogwyr, ond i’r rhai oedd yn cynnal gweithgareddau hefyd. Mae gwerthusiad yn nodi angerdd a dyfeisgarwch y trefnwyr, ac mae FFLGT wedi cydnabod pwysigrwydd buddsoddi ynddynt. "Wnaethon ni ddim dyfeisio grwpiau tyfu a choginio," adlewyrchodd Adam. "Ond dwi’n meddwl mai’r hyn wnaethon ni oedd darparu’r strwythur o’i gwmpas."

Wedi’i lansio yn 2021, daeth Digwyddiadau Rhwydwaith yn rhaglen ar-lein genedlaethol. Roedd yn ffordd o helpu trefnwyr cymunedol i ehangu eu gwaith bwyd trwy ddysgu sgiliau newydd (fel ffyrdd o helpu rhieni plant ifanc i gael mynediad at fwyd iach), cael syniadau ffres (fel dysgu sut i greu basgedi hongian bwytadwy), a chael lle cymunedol i siarad â chyfoedion (gan gynnwys darganfod sut roedd eraill wedi tyfu eu rhwydweithiau bwyd lleol).

Roedd adborth gan 918 o gyfranogwyr y Digwyddiad Rhwydwaith yn gadarnhaol iawn: roedd 61% yn teimlo’n fwy parod ac yn gallu cynnal gweithgareddau bwyd yn eu cymuned, tra bod traean (37%) ohonynt yn cytuno bod cymryd rhan wedi eu helpu i wella’r ffordd y maent yn arwain eu rhwydwaith eu hunain.

Roedd y dysgu ymarferol yn helpu trefnwyr ar wahanol gamau o'u teithiau. Ar ôl sesiwn ar berllannau cymunedol, dywedodd un trefnydd ei fod wedi rhoi'r "offer angenrheidiol" a'r hyder iddynt ystyried datblygu un, tra bod trefnydd profiadol a oedd yn rhedeg sawl perllan wedi defnyddio'r sesiwn "i chwilio am syniadau newydd a [gwirio] fy mhrosiectau fy hun."

Arweinwyr bwyd y dyfodol

Mae’r rhaglen rhad ac am ddim My Food Community yn cynnig cymorth manwl ar gyfer arweinyddiaeth leol. Ar hyn o bryd yn recriwtio ar gyfer trydedd garfan, mae'n arwain pobl i ddod yn hyrwyddwyr bwyd, gyda chymysgedd o hyfforddiant ar-lein, deunyddiau dysgu, hyfforddiant gan yr arbenigwr arweinyddiaeth Koreo, a chyfarfodydd rhithiol rhwng cymheiriaid.

Mae wedi'i gynllunio i arwain at weithredu. Fel rhan o'r rhaglen, gall cyfranogwyr ymgeisio am hyd at £1,000 i ddatblygu eu prosiect bwyd cymunedol eu hunain. Roedd 73% o'r cyfranogwyr yn cytuno'n gryf bod y grant wedi eu helpu i ddefnyddio eu dysgu yn eu bywyd go iawn.

Penderfynodd y cyfranogwr Lynsey Poole ddatblygu gardd fwytadwy ochr yn ochr ag oergell gymunedol ei phrosiect yn Larne. Yn ogystal â thyfu ffrwythau a llysiau, mae gan yr ardd "fainc sgwrsio" i annog pobl i sgwrsio a chysylltu.

Sefydlodd Lynsey lyfrgell hadau, lle gall pobl gymryd hadau, potiau a chompost, eu tyfu gartref, a dychwelyd eginblanhigion ychwanegol i'w rhannu yn yr ardd. Mae rhai o'r bobl sy'n defnyddio'r oergell yn cael trafferth ariannol, ac yn teimlo'n ddrwg am beidio â "rhoi'n ôl" - felly roedd tyfu eu heginblanhigion eu hunain yn ffordd i'w croesawu i wneud hynny. "Mae wedi dod yn gylchol iawn," eglura Lynsey. Ar ôl dechrau tyfu, mae pobl bellach yn rhoi bwyd dros ben o'u gerddi eu hunain i'r oergell gymunedol. Mae hi'n bwriadu defnyddio gweddill arian y grant ar gyfer gweithdy fforio, gan ddangos sut i wneud y gorau o'r ardd.

Arweinwyr bwyd yn cynllunio gwaith ar gyfer y dyfodol

Mae cyfranogwyr eraill wedi cael effaith hefyd. Maen nhw wedi ymddangos ar y teledu i drafod yr argyfwng costau byw a thegwch bwyd, wedi siarad mewn cynadleddau bwyd cenedlaethol, ac wedi sefydlu partneriaethau bwyd lleol.

Mae'r rhaglen wedi cynyddu hyder i wneud newid. Cynyddodd cyfran y cyfranogwyr a oedd "yn bendant" yn ystyried eu hunain fel arweinydd bwyd cymunedol o ddim ond 9% ar y dechrau i 68% ar y diwedd.

"Rydych chi wedi gallu gweld yr hyder, yr arweinyddiaeth – mae bron fel ein bod ni wedi eu hysgogi rywsut," meddai Adam. "Nawr maen nhw’n dweud, ‘dwi’n mynd i newid y byd.’ Ac rydyn ni’n dweud, ‘ewch amdani!’"

Dysgu allweddol

  1. Nid rhywbeth "braf i'w gael" yn unig yw gweithgareddau cymunedol sy'n seiliedig ar fwyd. Maent yn cynnig ffordd hamddenol o gysylltu, dros rywbeth sy'n bwysig i bawb, tra'n helpu i wella mynediad at fwyd rhad o ansawdd uchel sydd wedi’i dyfu’n gynaliadwy.
  2. Mae llawer o waith cymunedol yn seiliedig ar fwyd yn digwydd ledled y DU, sy'n haeddu cael ei gefnogi a'i harneisio. Mae gan ddigwyddiadau sy’n ymwneud â garddio, tyfu, bwyd a choginio’r potensial i gyrraedd rhai o’r bobl mwyaf ynysig yn ein cymunedau. Trwy ddarparu ffordd groesawgar i dreulio amser gydag eraill, a chynnig cyfle i bobl fod yn rhan o rywbeth, gall digwyddiadau chwarae rhan mewn adeiladu cymunedau cryfach a mwy cydlynol.
  3. Mae "bwyd da" yn golygu gwahanol bethau i wahanol bobl, a dylid dathlu, cydnabod ac annog hyn.
  4. Er mwyn cyflawni newid mwy hirdymor, mae'n bwysig cydnabod a meithrin sgiliau a hyder trefnwyr cymunedol, ynghyd â darparu gweithgareddau i'r cyhoedd.
  5. Mae llawer o fentrau bwyd cymunedol, fel y rhaglen Dewch at eich Gilydd Bwyd am Oes, yn hyblyg iawn. Maent yn gweithio mewn lleoliadau trefol a gwledig, gyda phobl o bob math o gymunedau, cefndiroedd a phrofiadau bywyd.

Eisiau dysgu mwy?

I ddysgu mwy am y rhaglen Dewch at eich Gilydd Bwyd am Oes, ewch i'n Llyfrgell Tystiolaeth.

I gael rhagor o wybodaeth am yr effaith a'r gwahaniaeth y mae ein hariannu yn ei wneud, darllenwch ein hadroddiadau effaith eraill.

Dolenni

Darllenwch ragor am raglen FFLGT Cymdeithas y Pridd ar eu gwefan, neu dilynwch nhw ar Twitter, Linkedin neu dudalen Facebook Cymuned FFLGT.

Mae'r adroddiad hwn yn seiliedig ar gyfweliad, gwerthusiadau ac ymchwil annibynnol.

Siaradodd Ellen Perry ag Adam Carter ar 26 Gorffennaf 2023.