Unigrwydd ac unigedd cymdeithasol

Ageing Better

Beth rydym yn ei feddwl gydag unigrwydd ac unigedd cymdeithasol?

Mae unigedd yn tueddu o gael ei ddiffinio fel ansawdd gwrthrychol. Mae'n cyfeirio at y nifer o berthnasau cymdeithasol sydd gan berson gydag unigolion, grwpiau, eu cymuned a'r gymdeithas. Mae'r rhain yn ffactorau sydd yn tueddu o allu cael eu mesur.

Mae unigrwydd yn fwy goddrychol, gan ei fod yn disgrifio teimlad - y teimlad o ddiffyg neu golled o gysylltiadau ac o golli cyswllt ystyrlon. I nifer o bobl, mae'r termau yn ymgyfnewidiol.

Agweddau a chredoau

  • Yn ôl yr ymgyrch End Loneliness, mae 92% o bobl yn ei weld yn anodd i ddweud wrth eraill eu bod yn unig ac yn credu bod eraill yn rhy ofnus o gyfaddef hefyd.
  • Roedd hefyd wyth allan o ddeg person yn meddwl eu bod am gael eu barnu'n negyddol am deimlo'n unig, wrth i draean gredu bod eraill am feddwl bod "rhywbeth yn bod arnyn nhw".
  • Mae menywod yn fwy tebygol na dynion i gyfaddef unigrwydd a dywedodd mwy nag un dyn allan o ddeg eu bod yn unig ond ddim yn fodlon cyfaddef.

Gall effeithio pawb

  • Roedd adolygiad tystiolaeth gan Age UK yn datgan fod 49% o bobl dros 75 oed yn byw ar eu ben eu hunain, a bod mwy nag un miliwn o bobl hŷn yn teimlo'n unig "Wastad" neu "yn aml".
  • Roedd Arolwg Bywyd Cymdeithas (2016-2017) wedi darganfod mae'r rheini rhwng 25 a 34 oed oedd fwyaf tebygol o ddweud eu bod yn teimlo'n unig "Yn aml/Wastad", yn cael eu dilyn gan bobl 16 i 24.
  • Yn 2018, fe gyhoeddodd ChildLine, sydd yn elusen i blant, eu bod wedi gweld cynnydd o 14% mewn nifer o blant oedd yn cysylltu a'r llinell gymorth oherwydd unigrwydd.

Ffactorau cysylltiedig ag unigrwydd

Yn hytrach na chael ffynhonnell syml, canfyddadwy, mae unigrwydd yn gyflwr cymhleth sydd â nifer o haenau iddo, ac yn un gall fod yn hunan-barhaol. Gall ffactorau sy'n cyfrannu fod yn bersonol ac yn gymdeithasol.

Ffactorau personol

Hunan-ganfyddiad
  • Mae stigma ynglŷn ag unigrwydd, sydd yn ei wneud yn anos gofyn am help. Efallai na fydd pobl eisiau cael eu adnabod fel bod yn unig.
  • Mae ein dysg yn awgrymu mae helpu newid ffordd o feddwl person unig yw'r cynhwysyn hanfodol: bydd adeiladu teimlad o berthyn, a chreu cysylltiadau a rhwydweithiau cadarnhaol yn cyfoethogi budd a lles a gwydnwch unigolion.
Trawsnewidiadau bywyd
  • Gall unigrwydd gael ei gysylltu'n gryf â thrawsnewidiadau newid bywyd megis ysgariad, profedigaeth, ymddeol, plant yn gadael eu cartref (ar gyfer rhiant a phlentyn).
  • Mae'r rhai sy'n byw ar eu pennau eu hunain ac yn 16 i 24 oed ymysg y rhai sy'n fwy tebygol nag eraill o ddweud eu bod yn teimlo'n unig.
Iechyd
  • Mae salwch, gan gynnwys salwch neu anabledd hir dymor yn ffactor bwysig i unigrwydd - fel achos ac fel symptom.
  • Mae ymchwil yn dangos gall unigrwydd barhaol gael effaith difrifol ar iechyd corfforol a meddyliol.
  • Mae unigedd cymdeithasol wedi ei gysylltu â graddfa cynyddol o glefyd coronaidd y galon, pwysau gwaed uchel, iselder a dementia.
Ethnigrwydd
  • Mae pobl o rhai cefndiroedd Du a lleiafrifoedd ethnig (BAME) gyda lefelau uchel o unigrwydd hunan-adrodd.
  • Ar lefelau unigol a sefydliadol, gall rhagfarn weithio i ynysu pobl BAME, ac i roi stop ar y gefnogaeth iddynt.

Ffactorau gymdeithasol

Isadeiledd a chyllid
  • Mae problemau symudoledd yn reswm am unigedd yn barod. Mae gan ddiffyg trafnidiaeth hygyrch effaith debyg.
  • Mae gan dlodi effaith ar unigrwydd gan fod pobl yn aml yn gwneud cysylltiadau drwy weithgareddau, fydd efallai ddim ar gael am ddim.
Cydlyniad cymunedol
  • Mae pobl sy'n rhentu a/neu byw ar eu pennau eu hunain a phobl ddi-waith yn fwy tebygol o deimlo'n unig a'r rhai sy'n byw gydag eraill a/neu yn gyflogedig.
  • Fe ddywedodd pobl ag ychydig ffydd yn eu hardal leol eu bod yn teimlo'n unig yn fwy aml.

Atal unigedd cymdeithasol ac unigrwydd - beth sy'n gweithio?

Gall atal teimladau o unigrwydd fod mor syml ac adnabod a rhoi hwb i ffactorau "amddiffynnol" megis ystyr, gwydnwch a safon perthnasoedd, yn hytrach na dod â phobl ynghyd er mwyn y teimlad o agosrwydd. Mae ymdrech ataliol angen edrych ar yr hyn sy'n bwysig i bobl.

Mae'r hyn sy'n bwysig inni yn rhoi ystyr i fywyd.

  • Mae elusen Stay Up Late cefnogi pobl sydd ag anawsterau dysgu i fwynhau gweithgareddau cymdeithasol gyda'r hwyr.
  • Mae gwirfoddolwyr Rosie's Trust yn ymweld â phobl sydd ar eu pen eu hunain er mwyn eu helpu gofalu am eu hanifeiliaid anwes, gan alluogi iddynt aros a'u gilydd.
  • Mae Ageing Better yn rhoi 50 o gyfleoedd i bobl ddylunio a darparu gweithgareddau a gwasanaethau mae ganddynt ddiddordeb ynddynt.

Mae rhoi yr un mor fuddiol a derbyn

  • Mae gwirfoddoli yn gallu rhoi teimlad gwell o bwrpas i bobl, gan fod teimlo o werth yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i theimlad rhywun o gyswllt.
  • Darganfyddodd ymchwil wedi ei ariannu gan ymgyrch #iwill fod gan bobl ifanc sy'n gwirfoddoli lefelau uchel o foddhad bywyd a rhwydweithiau cymdeithasol cryfach.

Buddsoddi mewn llefydd a gofodau

  • Mae neuaddau cymunedol, clybiau bowlio a rhandiroedd yn darparu cyfleoedd lleol anffurfiol a ffurfiol i bobl ddod ynghyd ac adeiladu cysylltiadau lleol drwy gyswllt bach, ond aml.
  • Mae gofod gwyrdd i chwarae, ymarfer corff a mwynhad yn galluogi cysylltiadau a budd a lles, tra gall drafnidiaeth gefnogol wledig leihau unigedd drwy gysylltu cymunedau ynghyd.

Mae meddwl ynghyd yn gwneud unigrwydd yn fusnes i bawb

  • Drwy yrru sgwrs gyhoeddus a chodi ymwybyddiaeth, mae dalwyr grant yn helpu lleihau'r cywilydd ac embaras sydd o amgylch unigrwydd.
  • Rydym angen creu neges gyhoeddus gryf ei fod yn iawn gofyn am help ac i ddweud eich bod yn unig neu'n arunig.

Adnabod pwyntiau sbardun

  • Gall gwasanaethau arbenigol helpu ar adegau o newid arwyddocaol, ac felly atal unigrwydd parhaol neu ddifrifol rhag cyrraedd.
  • Rydym angen ymyriadiau cyhoeddus a chymunedol, a rhwydweithiau i'n hatal o gyrraedd sefyllfaoedd argyfwng.

Cefnogi'r rhai sy'n unig neu arunig - beth sy'n gweithio?

Gan fod unigrwydd mor gymhleth, mae angen amryw o ddulliau arnom. Mae cefnogaeth angen dechrau gyda dulliau sy'n cynnwys yr holl gymuned er mwyn darganfod y rhai sydd fwyaf arunig neu unig, ac mae ymadweithiau cyntaf ystyrlon, gadarnhaol yn bwysig, gan gael ei ddilyn gan ddull cam wrth gam. Rydym angen darparu ymatebion amrywiol a chyflwyno datrysiadau syml, arlliw yn gadarnhaol.

Helpu'r holl gymuned fod eich llygaid a'ch clustiau

  • Gall aelodau'r cyhoedd, gwasanaethau statudol a busnesau lleol, ac elusennau helpu adnabod y bobl sydd fwyaf unig. Efallai mai perchennog siop leol sydd yn cael y cyswllt mwyaf â chwsmer unig, a'n gallu gweld newidiadau yn eu hymddygiad.

Gwnewch pob cam yn un hydrin

  • Mae rhoi'r dewis i bobl am lle neu sut i gymryd rhan a pha mor aml maent eisiau cefnogaeth yn cynnig teimlad o reolaeth iddynt.
  • Gall pobl fod angen mathau gwahanol o gefnogaeth er mwyn cymryd rhan, megis help gyda thrafnidiaeth neu rhywun fynd gyda nhw i ddigwyddiadau.
  • Gall cael rhywun i gyfarch pobl, dweud helo a cyflwyno'n gyfeillgar helpu torri barrau, gan wneud rhyngweithiad cymdeithasol yn haws ac yn llai straenus.

Rhoi gwerth a chefnogi datrysiadau syml

  • Mae rhai elusennau wedi canolbwyntio ar ddarganfod cyfleoedd i ddod â phobl ynghyd, yn hytrach na mynd i'r afael â gwaith unigrwydd yn benodol. Maent yn meithrin cyfeillgarwch drwy ddiddordebau a phrofiadau tebyg.
  • Creu ôl-weithgareddau i sicrhau gall gyfranogwyr gael paned a sgwrs, wrth alluogi cysylltiadau ddatblygu'n organig.

Bod yn gadarnhaol a hyderus

  • Mae'r iaith rydym yn ei ddefnyddio a chanfyddiad pobl yn gwneud gwahaniaeth mawr i sut mae gwasanaethau sy'n taclo unigrwydd yn cael eu derbyn.
  • Mae iaith gadarnhaol yn hanfodol.
  • Efallai nad yw pobl sydd â diffyg cyswllt allanol yn ystyried eu hunain yn arunig.

Dull arlliw i bob cenhedlaeth

  • Mae pobl ifanc yn teimlo nad yw'r broblem yn cael i gymryd o ddifri, a byddai'r rhan fwyaf yn well ganddynt gyfaddef i'w cyfoedion na neb arall. Maent yn ei weld yn haws cynnig help na cyfaddef eu bod nhw angen help.
  • Gall pontio bylchau rhwng rhagfarnau grwpiau oedran hefyd greu teimlad o gymuned.

Defnyddio technoleg i ymestyn cyrhaeddiad

  • Gall cyfryngau cymdeithasol, fforymau ar-lein ac offer technegol ehangu'r mynediad i gefnogaeth a gwybodaeth.
  • Efallai bydd pobl â sgiliau cyfyngedig TG yn gweld technoleg newydd yn fwy hygyrch, gan ffafrio tabledi, ffônau smart ac apps sgwrsio megis Skype i gyfrifiaduron unigol.
  • Gall technoleg fod yn ffordd o gysylltu. Roedd 43% o bobl ifanc, yn ôl pôl sefydliad Co-op, yn credu gall gymunedau ar-lein helpu pobl ifanc