Astudiaethau achos effaith

A Better Start Southend

Mae'r sefydliadau rydym yn eu hariannu wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i bobl a chymunedau ledled y DU. Rhannodd ein Hadroddiad Effaith cyntaf, Rhoi Cymunedau yn Gyntaf, gyrhaeddiad, graddfa a chyfraniad y £3.4 biliwn a ddyfarnwyd gennym yn ystod y pum mlynedd diwethaf. Yn y gyfres hon o astudiaethau achos, rydym yn edrych yn fanwl ar brosiectau a rhaglenni unigol.

Mae'r gyfres yn tynnu sylw at yr effaith ryfeddol a wnaed gan ein deiliaid grantiau, ynghyd â'r stori ddynol am sut y cyflawnwyd y canlyniadau hyn.

Mae pob astudiaeth achos yn rhannu data ar effaith y prosiect, cyn defnyddio geiriau’r deiliaid grantiau a buddiolwyr eu hunain i ddadbacio'r hyn a ddigwyddodd, pam y gweithiodd, a'r hyn y gallwn ei ddysgu ar gyfer y dyfodol.

Wedi’i ddiweddaru diwethaf: Dydd Mawrth 25 Gorffennaf, 2023