Camau Cynaliadwy Cymru - Mesur cynnydd eich prosiect

Mesur cynnydd eich prosiect

Gosod canlyniadau ar gyfer eich prosiect

Gofynnwn i chi osod hyd at bedwar ‘canlyniad’ ar gyfer eich prosiect. Trwy hynny, rydym yn golygu disgrifiadau byr o’r newidiadau yr ydych yn ceisio eu gwneud. Dylent ddweud wrthym y gwahaniaeth y bydd eich prosiect yn ei wneud i leihau allyriadau carbon a hyrwyddo dyfodol cynaliadwy, carbon isel i Gymru.

Defnyddio dangosyddion i fesur eich canlyniadau

Unwaith i chi ddewis eich canlyniadau, mae’n rhaid i chi osod o leiaf un ‘dangosydd’ ar gyfer pob canlyniad. Mae ‘dangosydd’ yn rhywbeth y gallwch chi ei fesur i wybod bod eich canlyniad yn digwydd. Maen nhw’n eich helpu i fesur eich cynnydd tuag at wneud y newid hwnnw. Y dangosydd yw’r ateb i’r cwestiwn: “os yw newid yn digwydd, sut fyddwn ni’n gwybod?”

Sut i osod eich canlyniadau

Gall dangosyddion ar gyfer canlyniadau fesur rhifau, megis lleihad mewn allyriadau carbon. Gallent hefyd fesur ymddygiad pobl, megis pobl yn teimlo cymhelliant i brynu llai, neu i drwsio eitemau yn lle eu disodli.

Ar gyfer pob dangosydd, dylech egluro:

  • Faint fydd yn newid – er enghraifft “bydd 50 mwy o bobl yn gallu trwsio tecstilau”
  • Pryd fydd hyn yn digwydd – er enghraifft “erbyn diwedd y flwyddyn gyntaf”
  • Sut fyddwch chi’n cael y wybodaeth hon – er enghraifft “arolygon ar ddechrau ac ar ddiwedd y flwyddyn”.

Enghreifftiau o ganlyniadau a dangosyddion

Gallech osod eich canlyniadau a dangosyddion fel yr enghreifftiau hyn:


Canlyniad enghreifftiol ar gyfer prosiect pobl ifanc

Canlyniad: Mae rhagor o bobl yn ein cymuned wedi gweithredu i leihau eu hallyriadau carbon.

Dangosydd: Nifer y bobl ifanc a wnaeth adrodd newid y ffordd y maen nhw’n ymddwyn i leihau allyriadau carbon, ac a wnaeth barhau i wneud hynny ar ôl chwe mis.

Amseriadau a lefelau dangosydd:

  • Erbyn diwedd blwyddyn 1: 100 o bobl ifanc
  • Erbyn diwedd blwyddyn 2: 200 o bobl ifanc
  • Erbyn diwedd y prosiect: 300 o bobl ifanc.

Sut y byddwn ni’n cael y wybodaeth hon: Byddwn ni’n defnyddio arolygon ar ddechrau’r prosiect, ac arolygon dilynol ar ôl y prosiect i fesur y newid.


Canlyniad enghreifftiol ar gyfer prosiect sy’n lleihau gwastraff bwyd

Canlyniad: Bydd llai o fwyd yn cael ei wastraffu.

Dangosydd: Pwysau’r bwyd dros ben a gafodd ei gadw a’i ailddosbarthu.

Amseriadau a lefelau dangosydd:

  • Erbyn diwedd blwyddyn 1: 250 tunnell o fwyd dros ben wedi’i ailddosbarthu
  • Erbyn diwedd y prosiect: 400 tunnell o fwyd dros ben wedi’i ailddosbarthu.

Sut y byddwn ni’n casglu’r wybodaeth hon: Byddwn ni’n pwyso’r bwyd sy’n cael ei ailddosbarthu bob wythnos.


Mesur llai o allyriadau carbon os allwch chi

Hoffem wybod sut mae ein hariannu’n lleihau allyriadau carbon. Os bydd eich prosiect yn gwneud lleihad mesuradwy i leihau allyriadau carbon, dylech gynnwys hyn yn eich canlyniadau.

Dywedwch wrthym am fanteision eraill eich prosiect

Hoffem wybod hefyd am unrhyw fanteision neu ganlyniadau tebygol o’ch prosiect, hyd yn oed os nad ydynt yn gysylltiedig â gweithredu hinsawdd. Er enghraifft, yr arian y mae pobl wedi’i arbed trwy drwsio eitemau, neu lai o ynysrwydd trwy gyfarfod â phobl.

Efallai bydd angen i chi newid sut a beth yr ydych chi’n ei fesur

Gall prosiectau gael canlyniadau annisgwyl, boed yn ddymunol ai peidio. Efallai bydd angen i chi addasu rhai canlyniadau a dangosyddion wrth i chi fynd yn eich blaen. Dylech hefyd gasglu straeon neu ddysgu am y newidiadau yr ydych yn eu gweld yn eich prosiect, neu yr oeddech chi’n disgwyl eu gweld ond na ddigwyddodd. Bydd casglu’r wybodaeth hon yn eich helpu chi a ni i ddysgu, ac yn eich helpu i wella eich prosiect wrth i chi fynd ymlaen.

Bydd angen i chi ein diweddaru

Byddwn ni’n gofyn pa mor bell sydd gennych tuag at fodloni eich canlyniadau bob blwyddyn, ac ar ddiwedd y prosiect. Mae dod o hyd i ffyrdd ymarferol a realistig o fesur prosiectau’n bwysig iawn. Bydd yn helpu eich prosiect i lwyddo ac yn gwella eich perthynas â ni neu arianwyr eraill.

Sut i gael cymorth

Rydym yn gweithio ar ganllawiau gwerthuso. Bydd y rhain yn barod erbyn 31 Mawrth 2023, mewn pryd i’ch cefnogi os ydym yn ariannu eich prosiect.

Os oes angen cymorth arnoch, anfonwch e-bost at camaucynaliadwycymru@cronfagymunedolylg.org.uk.

Gallwch hefyd ddysgu rhagor am weithredu hinsawdd trwy ymweld â’n hwb gweithredu hinsawdd.