Blaenau Gwent Grant Programme

Flourish

Rhaglen nawr wedi cau:

Ardal
Cymru
Maint yr ariannu
Hyd at £300
Terfyn amser ymgeisio

19 March 2021

Pwy all ymgeisio?

Rydym eisiau cefnogi grwpiau nad ydynt erioed wedi cael grant gennym o'r blaen.

Does dim rhaid i chi fod yn grŵp sy'n bodoli eisoes, dim ond o leiaf dri o bobl sydd ei angen arnoch.

Fel grŵp, rydych am wneud i rywbeth ddigwydd yn eich cymuned ac mae angen rhywfaint o arian arno i'w roi ar waith.

Gallwn eich helpu i sortio y gwaith papur os credwn ei fod yn rhywbeth y gallwn ei ariannu.

Mae croeso i grwpiau sydd eisoes â chyfansoddiad wneud cais hefyd.

Os ydych eisiau ymgeisio am fwy na £300, gallwch ymgeisio am un o’n rhaglenni eraill:

Grantiau Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol hyd at £10,000

neu

Grantiau Pawb a’i Le rhwng £10,001 a £500,000

Beth allwch wario eich arian arno?

Mae'r grantiau hyn yn arbennig ar gyfer Blaenau Gwent felly mae'n rhaid i'ch cynlluniau ddigwydd yno.

Hoffem ichi orffen yr hyn yr ydych am ei wneud o fewn chwe mis o dderbyn ein grant.

Gallwch wneud cais am hyd at £300 i dalu am bethau fel offer, gweithgareddau unwaith yn unig,

  • costau hyfforddi,
  • treuliau gwirfoddolwyr,
  • costau cynnal a theithio -
  • pethau a fydd yn helpu'r gymuned ym Mlaenau Gwent i ffynnu.

Dylai eich cynlluniau ystyried canllawiau Llywodraeth Cymru ar atal Coronafeirws rhag lledaenu. Byddwn yn chwilio am syniadau y gellir eu cyflwyno'n ddiogel yn y chwe mis ar ôl i chi gael eich grant.

Beth na ddylem ei gynnwys?

Mae ychydig o bethau na allwn dalu amdano. Mae'r rhain yn cynnwys alcohol, gweithgareddau i hyrwyddo gwleidyddiaeth neu grefyddau, a gweithgareddau i wneud mwy o arian gan gynnwys codi arian neu elw.

Ni allwn chwaith dalu am unrhyw beth rydych eisoes wedi talu amdano neu ei wneud a phethau y mae sefydliadau eraill - fel yr awdurdodau lleol - i fod i dalu amdanynt. Cysylltwch â ni os nad ydych yn siŵr.