Telerau ac Amodau Safonol y Gronfa Gweithredu Hinsawdd

Telerau ac Amodau Safonol y Gronfa Gweithredu Hinsawdd

Telerau ac Amodau Safonol y Gronfa Gweithredu Hinsawdd

Yn y telerau ac amodau hyn, cyfeirir at Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol fel ‘ni’, a chyfeirir at y sefydliad y dyfernir grant iddo fel ‘chi’. Rydym yn cyfeirio at y prosiect, y digwyddiad neu'r gweithgaredd a ddisgrifir yn eich cais, neu fel y cytunwyd fel arall gyda ni, fel ‘y prosiect’.

1. Drwy dderbyn y grant hwn, rydych yn cytuno i:

1.1. dal y grant ar ymddiriedaeth i ni a'i ddefnyddio i'ch prosiect chi'n unig;

1.2. defnyddio'r grant yn unig ar gyfer costau sy’n cael eu hysgwyddo ar ôl dyddiad y llythyr cynnig eich grant a dim ond yn ystod tymor y prosiect fel y cytunir gyda ni;

1.3. dechrau ar eich prosiect a thynnu rhandaliad cyntaf y grant i lawr o fewn chwe mis ar ôl llofnodi'r llythyr cynnig grant, oni cytunir fel arall gyda ni;

1.4. rhoi unrhyw wybodaeth ac adroddiadau i ni'n brydlon gan gynnwys gwybodaeth fonitro berthnasol sydd ei hangen arnom am y prosiect a'i effaith ar eich cymuned, yn ystod ac ar ôl diwedd y prosiect;

1.5. gweithio gydag unrhyw drydydd parti y gallwn gontractio ag ef neu ei benodi er budd y prosiect a/neu'r rhaglen ariannu hon;

1.6. cael caniatâd gennym ni cyn gwneud unrhyw newidiadau sylweddol i'ch prosiect neu i statws, perchnogaeth neu gyfansoddiad eich mudiad;

1.7. rhoi gwybod i ni'n brydlon am unrhyw faterion arwyddocaol neu oedi gyda'ch prosiect neu am unrhyw dwyll, amhriodoldeb arall, camreoli neu gamddefnyddio mewn perthynas â'r grant neu unrhyw hawliad cyfreithiol a/neu ymchwiliad a wnaed neu a fygythir yn eich erbyn chi, unrhyw aelod o'ch corff llywodraethu, neu unrhyw sefydliad, cyflogai neu wirfoddolwr sy'n gweithio ar y prosiect;

1.8. gweithredu'n gyfreithiol wrth gyflawni'ch prosiect, yn unol ag arfer gorau ac arweiniad gan eich rheolyddion, a dilyn unrhyw ganllawiau a gyhoeddir gennym ni mewn perthynas â'r rhaglen neu ddefnyddio'r grant;

1.9. hyrwyddo cyfle cyfartal yn unol â'r gyfraith ac unrhyw ganllawiau a gyhoeddir gennym ni

1.10. os yw'r grant ar gyfer cyflog swydd newydd, hysbysebu'r swydd wag yn allanol oni chytunir fel arall gyda ni, a chynnal proses recriwtio deg ac agored yn unol â'r gyfraith ac unrhyw ganllawiau a gyhoeddir gennym ni;

1.11. cydnabod arian gan y Loteri Genedlaethol gan ddefnyddio ein logo yn unol â'r canllawiau perthnasol ar gyfer cydnabod eich grant, y gallwch ddod o hyd iddynt ar ein gwefan https://www.tnlcommunityfund.o...;

1.12. dal y grant mewn cyfrif yn y DU neu gyfrif cymdeithas adeiladu, sydd yn enw cyfreithiol y sefydliad sydd yn ymgeisio am arian gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol;

1.13. glynu wrth ein harweiniad yn https://www.tnlcommunityfund.o... ar reolaethau ariannol llywodraethu a threfniadau bancio, gan sicrhau nad oes gan unrhyw unigolyn unigol gyfrifoldeb llwyr dros unrhyw drafodiad unigol o awdurdodiad i adolygu a chwblhau, a bod y cyfrif yn cael ei reoli gan o leiaf ddau unigolyn nad ydynt yn perthyn i’w gilydd ac sydd wedi'u hawdurdodi yn eich sefydliad.

1.14. trin y grant fel cronfeydd cyfyngedig yn eich cyfrifon blynyddol gan ddefnyddio'r cyfeirnod "Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol" ac.enw’r rhaglen "Cronfa Gweithredu Hinsawdd", ac os oes angen gennym ni, agor cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu dynodedig ar wahân ar gyfer pob grant gennym at ddiben derbyn a gweinyddu'r grant hwnnw yn unig;

1.15. dychwelyd ar unwaith unrhyw ran o'r grant nad yw'n cael ei ddefnyddio ar gyfer eich prosiect neu nad yw wedi'i wario erbyn diwedd y prosiect, fel y cytunwyd gyda ni;

1.16. cydymffurfio â'n polisi diogelu ar gyfer deiliaid grantiau, sydd ar gael ar ein gwefan.yn https://www.tnlcommunityfund.o...

1.17. bod â pholisi a gweithdrefn(au) datgelu camarfer ysgrifenedig priodol ar waith, sicrhau bod y polisi a/neu'r gweithdrefnau'n cael cyhoeddusrwydd yn fewnol a sicrhau bod staff yn cael eu hyfforddi ar ei egwyddorion a'i weithrediad, yn adolygu ac yn diweddaru eich polisi a'ch gweithdrefnau datgelu camarfer o leiaf bob dwy flynedd;

1.18. cydymffurfio â'r holl ddeddfwriaeth diogelu data berthnasol gan gynnwys Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol 2018 y DU (GDPR y DU ) a Deddf Diogelu Data 2018 a, lle y bo'n briodol, byddwch yn cael caniatâd eich buddiolwyr i'n galluogi i dderbyn a phrosesu eu Data Personol mewn cysylltiad â'r prosiect ac i ni gysylltu â nhw;

1.19. cadw cofnodion cywir a chynhwysfawr am eich prosiect yn ystod y prosiect ac am saith mlynedd wedyn a rhoi copïau i ni ar gais o'r cofnodion hynny a thystiolaeth o wariant y grant megis derbyniadau gwreiddiol papur ac electronig, anfonebau a datganiadau banc;

1.20. Efallai y byddwn yn comisiynu ymchwil i'ch grant a/neu werthusiad ohono. Rydych yn cadarnhau y byddwch yn cydweithredu ag unrhyw weithgareddau ymchwil neu werthuso a gyflawnir gennym ac yn cadarnhau ymhellach y gallwn ddefnyddio unrhyw ran o'ch cais a/neu wybodaeth am brosiectau at ddibenion ymchwil neu werthuso;;

1.21. caniatáu i ni a/neu'r Rheolwr ac Archwilydd Cyffredinol gael mynediad rhesymol i safleoedd a systemau perthnasol i archwilio'r prosiect a chofnodion grant. Rydych yn cytuno y gallai fod angen i chi rannu Data Personol perthnasol (fel y'i diffinnir yn y GDPR y DU) gyda ni er mwyn cyflawni eich rhwymedigaethau o dan y cymal hwn. Byddwch yn dryloyw ynglŷn â’ch rhwymedigaethau o dan y cymal hwn gyda’ch buddiolwyr (Pynciau Data (fel y'u diffinnir yn y GDPR y DU)) ac yn sicrhau bod gennych sail gyfreithlon i rannu unrhyw Ddata Personol perthnasol gyda ni er mwyn cydymffurfio â'r cymal hwn

1.22. rydym yn rhoi cyhoeddusrwydd i wybodaeth amdanoch chi a'ch prosiect ac yn ei rhannu gan gynnwys eich enw a'chlluniau o weithgareddau prosiect.Rydych drwy hyn yn rhoi trwydded ddi-frenhinol i ni atgynhyrchu a chyhoeddi mewn unrhyw fformat unrhyw wybodaeth am brosiectau a roddwch i ni. Byddwch yn rhoi gwybod i ni pan fyddwch yn darparu'r wybodaeth os nad oes gennych ganiatâd i'w defnyddio at y dibenion hyn; A

1.23. os yw eich prosiect yn cael ei gyflawni yng Nghymru, galluogi pobl i gymryd rhan yn y Gymraeg a'r Saesneg, gan drin y ddwy iaith yn gyfartal. Rhaid i siaradwyr Cymraeg allu cael gafael ar wybodaeth a gwasanaethau yn Gymraeg a rhaid cynhyrchu pob deunydd yn ddwyieithog.

2. Os defnyddir unrhyw ran o'r grant i brynu nwyddau neu wasanaethau, neu i brynu neu ddatblygu eiddo deallusol, sy'n costio mwy na £10,000 byddwch yn:

2.1. cnnal tendr cystadleuol i’r nwyddau a/neu wasanaethau a chydymffurfio â rheolau caffael y Deyrnas Unedig a'r Undeb Ewropeaidd os ydynt yn berthnasol i chi;

2.2. defnyddio asedau a brynwyd neu a wellwyd gan ddefnyddio'r grant dim ond ar gyfer y prosiect a'u cadw'n ddiogel, mewn cyflwr da ac wedi eu hyswirio'n ddigonol i fywyd y prosiect ac unrhyw gyfnod dilynol o fonitro asedau a nodwyd yn y canllawiau perthnasol;

2.3. diogelu unrhyw hawliau eiddo deallusol a brynwyd neu a ddatblygwyd gan ddefnyddio'r grant a pheidio ag ecsbloetio'r hawliau hyn yn fasnachol heb gael caniatâd ysgrifenedig gennym ni ymlaen llaw; A

2.4. chael caniatâd ysgrifenedig gennym cyn gwaredu unrhyw asedau a brynwyd, ddatblygwyd neu a wellwyd gan ddefnyddio'r grant ac os bydd angen, talu cyfran o'r elw o'r cyfryw warediad i ni.

3. Rydych yn cydnabod bod gennym hawl i atal neu derfynu'r grant a/neu ei gwneud yn ofynnol i chi ad-dalu'r cyfan neu unrhyw ran o'r grant a/neu osod amodau ychwanegol yn y sefyllfaoedd canlynol. Rhaid i chi roi gwybod i ni os oes unrhyw un o'r sefyllfaoedd hyn wedi digwydd neu'n debygol o ddigwydd.

3.1. Rydych chi’n defnyddio'r grant mewn unrhyw ffordd heblaw am yr hyn a gymeradwyir gennym ni neu'n methu â chydymffurfio ag unrhyw un o'r amodau a thelerau hyn, neu unrhyw amodau ychwanegol a ddisgrifir yn ein cynnig grant i chi.

3.2. Rydych chi’n methu â gwneud cynnydd da gyda'ch prosiect neu rydych yn annhebygol, yn ein barn ni, o gwblhau'r prosiect neu gyflawni'r effaith y cytunwyd arnynt gyda ni.

3.3. Mae gennych chi araian cyfatebol sydd gennych ar gyfer y prosiect yn cael ei ddileu neu derbyn neu fethu â datgan unrhyw arian dyblyg ar gyfer yr un costau prosiect ag a ariennir gan y grant

3.4. Rydych chi’yn gwybodaeth anwir neu gamarweiniol i ni,naill ai ar gais neu ar ôl dyfarnu'r grant, gweithredu'n anonest, neu os ydych chi neu unrhyw un arall sy'n ymwneud â'r prosiect yn destun ymchwiliad gennym ni, gan gorff rheoleiddio neu'r heddlu.

3.5. Rydych chi’n gwneud neu'n methu â gwneud unrhyw beth sy'n difenwi ni neu'r Loteri Genedlaethol neu yr ydym ni'n ystyried ei fod yn peryglu arian cyhoeddus am unrhyw reswm, neu rydym yn terfynu neu'n atal unrhyw grant arall rydym wedi'i roi i chi.

3.6. Rydych yn ymrwymo i weinyddu, diddymu, neu, yn yr Alban, yn debygol o ymrwymo i weinyddu, diddymu, diddymu neu, yn yr Alban, atafaelu ystâd eich sefydliad.

3.7. Rydych chi’n derbyn unrhyw arian grant yn anghywir naill ai o ganlyniad i wall gweinyddol neu fel arall. Mae hyn yn cynnwys lle cewch eich talu drwy gamgymeriad cyn i chi gydymffurfio â'ch rhwymedigaethau o dan y telerau ac amodau hyn a Llythyr Cynnig. Bydd unrhyw swm, sy'n ddyledus o dan y paragraff 3.7 hwn, yn ddyledus ar unwaith. Os byddwch yn methu ag ad-dalu'r swm dyledus ar unwaith, neu fel y cytunwyd fel arall gyda ni, bydd y swm yn adenilladwy'n ddianyddol fel dyled sifil.

4. Rydychi’n cydnabod:

4.1. drwy dderbyn y grant hwn:

  • 4.1.1. rydych yn cadarnhau bod y wybodaeth yn eich cais wedi'i awdurdodi gan gorff llywodraethu eich mudiad;
  • 4.1.2. bod eich mudiad yn gallu darparu'r prosiect a ddisgrifir yn eich cais; A
  • 4.1.3. nid yw'r grant yn ystyriaeth ar gyfer unrhyw gyflenwad trethadwy at ddibenion TAW;

4.2. mae’r grant i'ch defnydd chi'n unig a ni allwch drosglwyddo neu rannu'r grant (nag unrhyw ran ohono) i unrhyw un arall oni bai gymeradwywyd gennym ni. Os rydym yn cytuno i chi rannu neu drosglwyddo'r grant, chi sy'n gyfrifol am sicrhau bod eich partneriaid a derbynyddion eraill o'r grant yn derbyn ac yn cydymffurfio gyda'r amodau a thelerau hyn ac yn dilyn unrhyw arweiniad a gyhoeddwyd gennym ni. Os nad ydynt yn llwyddo i wneud hynny, gallwn arfer ein hawliau yng nghymal 3, sy'n cynnwys terfynu'r grant a gofyn am ad-daliad. Mae'n rhaid i chi ymrwymo i gytundeb cyfreithiol rwymol gydag unrhyw un rydych yn rhannu'r grant â nhw a darparu copi i ni ar gais;

4.3. os defnyddir unrhyw ran o'r grant i brynu neu adeiladu, adnewyddu, estyn neu newid adeiladau neu dir, neu i brynu neu ehangu cerbydau neu offer, mae'n rhaid i chi gydymffurfio â'n hamodau grant cyfalaf ychwanegol ni;

4.4. ni fyddwn yn cynyddu'r grant os byddwch yn gwario mwy na'r gyllideb gytunedig ar eich prosiect a gallwn warantu'r grant dim ond cyhyd â bydd y Loteri Genedlaethol yn parhau i weithredu a'n bod ni'n derbyn digon o gyllid ganddo;

4.5. mae’r grant yn dod o arian cyhoeddus ac ni fyddwch yn ei ddefnyddio mewn unrhyw ffordd nad yw’n cydymffurfio â Deddf Rheoli Cymorthdaliadau 2022 (neu ddarpariaethau cyfreithiol cyfwerth ar gyfer Gogledd Iwerddon) a rheoliadau cysylltiedig fel y’u diwygiwyd o dro i dro. Os yw’r grant yn gymhorthdal anghyfreithlon, byddwch chi’n ad-dalu’r swm cyfan yn syth. Os ydych chi’n pryderu am y rhwymedigaethau rheoli cymorthdaliadau, byddwch chi’n ceisio cyngor cyfreithiol annibynnol;

4.6. nid oes gennym unrhyw atebolrwydd am unrhyw gostau na chanlyniadau a ysgwyddir gennych chi neu drydydd partïon sy'n codi naill ai'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol o'r prosiect, nac o beidio â thalu neu dynnu'r grant yn ôl, ac eithrio i'r graddau sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith; a

4.7. Bydd y telerau ac amodau hyn yn parhau i fod yn gymwys ar gyfer (i) blwyddyn ar ôl talu'r rhandaliad grant diwethaf; neu (ii) hyd nes y bydd y prosiect wedi'i gwblhau; neu (iii) cyhyd ag y bo arian grant yn parhau heb ei wario, pa un bynnag yw'r hwyaf. Cymalau 1.4, 1.11, 1.12, 1.13, 1.14, 1.15, 1.18, 1.19, 1.20, 1.21, 1.22, 2.2, 2.3, 2.4, 4.3, 4.5, 4.6 a 4.7 yn goroesi terfynu neu ddod â'r telerau ac amodau hyn.