Pen-blwydd Y Loteri Genedlaethol yn 25

Mae ceisiadau ar gyfer #Dathlu25LoteriGenedlaethol nawr wedi cau.

Mae 19 Tachwedd 2019 yn nodi pen-blwydd y Loteri Genedlaethol yn 25 oed.

I ddathlu'r garreg filltir bwysig hon, yn ogystal â mwy na £40 biliwn sydd wedi cael ei godi ar gyfer achosion da ledled y DU er 1994, bydd teulu'r Loteri Genedlaethol yn diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol gydag amrywiaeth o ddigwyddiadau ledled y DU cyn Tachwedd 19.

Os rydych wedi cyflwyno cais gallwch dal mewngofnodi a lawrlwytho eich ffurflen os rydych angen cyfeirio ato’n y dyfodol. Gobeithiwn roi gwybod ichi trwy e-bost os rydych yn llwyddiannus erbyn 24 Chwefror 2020.

Sut y byddwn yn dewis pwy i ariannu? Mae #Dathlu25LoteriGenedlaethol ynglŷn â phobl a chymunedau yn ymuno â’n dathliadau pen-blwydd.

Rydym yn disgwyl llawer o bobl i ymgeisio, felly i roi cyfle cyfartal i bawb, byddwn yn defnyddio dull loteri, gan ddewis ar hap yr ymgeiswyr i gael eu hasesu.


Dysgu mwy

Newyddion a Digwyddiadau Diweddaraf

Pecyn cymorth y dalwyr grant

Fel deiliad grant, rydych wedi gwneud gwr wahaniaeth i bobl ac ardaloedd yn eich cymuned leol, ac rydych yn cyfrannu’n enfawr i hanes y Loteri Genedlaethol.

Rydym eisiau eich sicrhau bod gennych rôl yn y dathliadau cyffrous hyn hefyd, a’n gallu rhannu eich straeon a’r cyhoedd. Dyna pam rydym wedi creu pecyn cymorth i’ch helpu i wneud hynny. Mae’n cynnwys popeth, o syniadau i luniau, negeseuon allweddol i bostiadau cyfryngau cymdeithasol a logos i enghreifftiau cyfathrebu mewnol.

Hoffem pe byddech yn defnyddio cynnwys y pecyn cymorth ar gyfryngau cymdeithasol, eich gwefan, mewn deunyddiau wedi’u printio ac mewn unrhyw ffordd arall yr hoffech ddathlu 25 mlynedd o’r Loteri Genedlaethol yn helpu pobl gyffredin wneud pethau anhygoel.

Nodwch y pecyn cymorth