Sut mae’n dechrau

Galluogi cymunedau i gysylltu

Mae ein gwaith yn dechrau gyda’r blociau adeiladu sy’n galluogi cymunedau i gysylltu, meithrin perthnasoedd a gweithredu ar yr hyn sydd bwysicaf iddynt.

A phan ddaw pobl at ei gilydd ar draws cenedlaethau, cefndiroedd a phrofiadau – mae rhywbeth pwerus yn digwydd. Mae mudiadau cymdeithas sifil yn darparu mannau, gweithgareddau a chyfleoedd hanfodol i bobl ddod at ei gilydd. Y cysylltiadau hyn yw’r rhwymau sy’n cryfhau cymdeithas ac yn gwella bywydau.

Dyna pam yr ydym yn ariannu ac yn cefnogi cymunedau i weithredu ar yr hyn sydd bwysicaf iddynt. A dyna pam rydym yn cynyddu ariannu ar gyfer prosiectau cymunedol, llai drwy ddyblu maint ein grantiau hawdd gwneud cais amdanynt, Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol, hyd at £20,000.

Rydym ni'n cefnogi cymunedau

Mae ein cymdeithas yn wynebu rhai heriau mawr a brys, sy’n gofyn am ymatebion beiddgar. Mae cymunedau’n mynnu newid mwy beiddgar, hirdymor, a mwy o bŵer i lunio’r dyfodol. Dyna pam rydym yn cynyddu ein ffocws a’n buddsoddiad mewn creu newid parhaol, trwy genadaethau wedi’u targedu sydd â’r nod o gryfhau cymdeithas a gwella bywydau. A pham y byddwn yn creu partneriaeth â chymunedau, mudiadau cymdeithas sifil ac eraill i adeiladu’r newid hwn.

Ariannu teg

Gwyddom nad oes gan bob cymuned y cyfleoedd na’r trefniadau cywir i ddod at ei gilydd. Felly, er bod ein hariannu ar gael i bob cymuned, byddwn yn buddsoddi fwyaf lle mae’r angen mwyaf, gyda phobl, lleoedd a chymunedau sy’n profi tlodi, anfantais a gwahaniaethu.

Mae’r strategaeth hon wedi’i llunio gan ein gwaith o ddydd i ddydd, a gan yr hyn a glywsom yn ein sgyrsiau â chymunedau, mudiadau cymdeithas sifil ac eraill yn 2022, a oedd yn cynnwys dros 18,000 rhyngweithiad.

Rydym yn gwrando

Fel y ffynhonnell unigol fwyaf o arian cymunedol yn y DU rydym yn helpu cymunedau i ffynnu. Ni sy’n darparu’r ariannu, nhw sy’n rhoi’r arian ar waith.