Trosolwg o'r strategaeth

L'Arche Village, Northern Ireland

Cipolwg ar Strategaeth 2023

Ein pwrpas

Rydym ni’n cefnogi gweithgareddau sy’n creu cymunedau gwydn sy’n fwy cynhwysol ac amgylcheddol gynaliadwy – gweithgareddau a fydd yn cryfhau cymdeithas ac yn gwella bywydau ledled y DU.

Cymuned yw’r man cychwyn.

Ein nodau cymunedol a’r hyn y byddwn yn ei gyflawni erbyn 2030

Byddwn ni’n cefnogi cymunedau i ddod ynghyd drwy:

  • greu mannau hygyrch, croesawgar, ffisegol a rhithiol, i bobl gyfarfod â’i gilydd
  • cychwyn gweithgareddau deniadol a chynhwysol sy'n cefnogi cysylltiadau o fewn grwpiau o bobl a rhyngddynt
  • galluogi pobl o bob cefndir i lywio dyfodol eu cymunedau
  • meithrin ymdeimlad cynyddol o berthyn.

Byddwn ni’n cefnogi cymunedau amgylcheddol gynaliadwy sy’n:

  • lleihau allyriadau carbon ac effaith amgylcheddol negyddol
  • creu effeithiau amgylcheddol cadarnhaol
  • sefydlu mynediad cyfartal i'r amgylchedd naturiol
  • gwella ansawdd mannau naturiol.

Byddwn ni’n galluogi plant a phobl ifanc i ffynnu drwy:

  • greu cyfleoedd i blant a phobl ifanc o bob cefndir fwynhau profiadau cymunedol
  • helpu plant a phobl ifanc i lywio’r penderfyniadau sy’n effeithio arnyn nhw a’u cymunedau
  • darparu mynediad i blant a phobl ifanc i fannau diogel i chwarae, cymryd rhan, cymdeithasu a chael cefnogaeth.

Byddwn ni’n galluogi pobl i fyw bywydau mwy iach drwy:

  • helpu lleihau anghydraddoldebau iechyd
  • cynyddu cyfleoedd ar gyfer cyfranogiad cymunedol i lywio gwell gwasanaethau iechyd
  • defnyddio dull ataliol tuag at iechyd.

Ein dull

  • Dull seiliedig ar degwch i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb
  • Cefnogi cymunedau i adeiladu ar eu cryfderau
  • Cefnogi’r hyn sydd bwysicaf i wahanol gymunedau
  • Model cynnig grantiau hyblyg gyda grantiau untro bach yn dechrau o £300 hyd at £20,000, i grantiau mwy hirdymor a buddsoddiadau partneriaeth strategol sylweddol.

Ein gwerthoedd

Rydym ni’n:

  • gynhwysol
  • uchelgeisiol
  • canolbwyntio ar effaith
  • hyblyg
  • tosturiol.