ein cyllid

Sut y byddwn yn ariannu ac yn cefnogi cymunedau

Dull seiliedig ar degwch i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb

Er bod ein hariannu ar gael i bob cymuned, byddwn yn defnyddio ymagwedd sy’n seiliedig ar degwch. Mae hyn yn golygu, ar draws ein holl waith gyda chymunedau a’n pedair cenhadaeth, y byddwn yn buddsoddi fwyaf mewn lleoedd, pobl a chymunedau sy’n profi tlodi, anfantais a gwahaniaethu. Nod ein gwaith yw cefnogi cymunedau i adeiladu ar eu cryfderau. Byddwn yn cefnogi’r hyn sydd bwysicaf i wahanol gymunedau, gan gynnwys buddsoddiad hirdymor i fynd i’r afael â heriau sydd wedi gwreiddio’n ddwfn.

Mathau o ariannu

Byddwn yn buddsoddi mewn prosiectau sy’n cefnogi ymagweddau newydd beiddgar, trawsnewid a newid hirdymor gyda ffocws penodol ar ein pedair cenhadaeth. Byddwn hefyd yn cynnig ariannu sy’n ymateb i gymunedau yn y pedwar maes cenhadaeth, ac yn ehangach ar yr hyn sydd bwysicaf i gymunedau.

Byddwn yn parhau i gynnig gwahanol fathau o ariannu, o grantiau hygyrch yn dechrau o £300 hyd at £20,000, i grantiau tymor hwy neu fuddsoddiadau strategol gyda phartneriaid. Yn nodweddiadol, bydd yr ariannu am rhwng un a phum mlynedd, gyda hyblygrwydd i gefnogi rhai prosiectau ac ymagweddau sy’n targedu newid tymor hwy neu drawsnewidiol hyd at 10 mlynedd. Byddwn yn archwilio costau gwahanol gyda mudiadau i helpu i benderfynu ar y math mwyaf priodol o ariannu. Mae’r rhain yn cynnwys costau prosiect, cyfalaf, trefniadol, partneriaeth a datblygiadol.

Ffyrdd eraill yr ydym ni'n helpu

Er mai ein hariannu yw’r ffordd bwysicaf yr ydym yn cefnogi cymunedau, rydym hefyd yn helpu mewn ffyrdd eraill:

Cefnogi

Byddwn yn rhoi cyngor a gwybodaeth i ddeiliaid grantiau i helpu i gynyddu eu heffaith a gwydnwch sefydliadol. Bydd hyn yn cynnwys cymorth i ddeiliaid grantiau wella eu heffaith amgylcheddol, cynyddu cynhwysiant a harneisio budd arloesi digidol a data.

Dysgu

Byddwn yn defnyddio dulliau cymesur o gasglu data, tystiolaeth a dysgu, i greu mewnwelediadau defnyddiol a helpu i ddeall effaith. Byddwn yn rhannu’r hyn a ddysgir er mwyn cynyddu dealltwriaeth o gymunedau sy’n ddefnyddiol i ddeiliaid grantiau, y rheini sydd â diddordeb mewn cyflawni a chefnogi newid a arweinir gan y gymuned, a’r gymdeithas ehangach.

Cynnull

Byddwn yn dod â gwahanol fudiadau ynghyd i archwilio heriau a datblygu cyfleoedd phartneriaethau newydd.

Eirioli

Gan ddefnyddio ein safle a’n dylanwad, byddwn yn dathlu ac yn hyrwyddo grym cymunedau i gryfhau cymdeithas a gwella bywydau.

Partneriaeth

Gwyddom fod grym enfawr mewn cydweithio ag eraill. Byddwn yn creu partneriaethau gyda dosbarthwyr eraill y Loteri Genedlaethol, arianwyr, llywodraethau, mudiadau cynrychioliadol cymdeithas sifil, ymchwilwyr, busnesau a chymunedau eu hunain.

Cyfranogiad

Byddwn yn cynyddu cyfranogiad mudiadau cymdeithas sifil a chymunedau wrth lunio ein gwaith. Bydd hyn yn ein helpu i gryfhau ein cefnogaeth i gymunedau.