Diweddaru cynnig ariannu Pawb a’i Le yng Nghymru
Mae John Rose, Cyfarwyddwr Cymru Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn siarad am y newidiadau cyffrous sy’n digwydd yng Nghymru yn dilyn lansiad ein strategaeth saith mlynedd - Cymuned yw'r man cychwyn – y llynedd.
Dros y pum mlynedd diwethaf yn unig, rwyf wedi cael y fraint o weld £117 miliwn yn cael ei ddosbarthu i gymunedau ym mhob cwr o Gymru trwy ein rhaglen ariannu ymatebol, Pawb a’i Le. Mae’r grantiau rydym ni wedi eu dyrannu wedi newid bywydau a chymunedau, diolch i’r arian a godwyd gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol.
Gan fy mod yn frwd am gynaliadwyedd a’r amgylchedd, rwy’n falch o arddangos ein newidiadau ar gyfer Pawb a’i Le. Gyda’r diweddariad hwn, rydym yn ceisio gwneud mwy o wahaniaeth yn y blynyddoedd i ddod trwy gael ein harwain gan ein pedair nod, sy’n cefnogi cymunedau i:
- ddod ynghyd
- bod yn amgylcheddol gynaliadwy
- helpu plant a phobl ifanc i ffynnu
- galluogi pobl i fyw bywydau iachach.
Mae Cymuned yw’r man cychwyn yn adlewyrchu ein hymrwymiad parhaus i ariannu prosiectau sy’n cryfhau cymunedau a gwella bywydau ledled Cymru. O ganlyniad, rydym yn diweddaru rhaglen Pawb a’i Le i adeiladu ar ein ymagwedd lleol, perthynol a seiliedig ar gryfderau, wrth sicrhau bod ein cymunedau’n cael yr adnoddau sydd eu hangen arnynt i lywio eu dyfodol eu hunain.
Felly, beth rydym ni wedi ei newid?
- Yn unol â’n strategaeth, rydym yn gofyn i bob ymgeisydd ddweud wrthym sut mae eu prosiect yn cyd-fynd ag o leiaf un o’r pedair nod.
- Er ein bod yn agored i bob cymuned, byddwn yn cymryd ymagwedd seiliedig ar degwch. Byddwn yn buddsoddi fwyaf yn y llefydd, pobl a chymunedau sy’n profi tlodi, anfantais a gwahaniaethu.
- Rydym am i gymunedau fod yn fwy amgylcheddol gynaliadwy, sy’n golygu y bydd angen i bob ymgeisydd ddangos ymrwymiad i’r amgylchedd. Mae hyn yn golygu y bydd angen i brosiectau nad ydynt yn canolbwyntio ar yr amgylchedd ddangos sut y byddent yn lliniaru effeithiau amgylcheddol negyddol neu sut y byddent yn cyfrannu’n gadarnhaol i’r amgylchedd.
- Rydym wedi diweddaru’r broses ymgeisio fel y gall grwpiau ymgeisio trwy ein porth ymgeisio digidol. Trwy ein hymchwil cwsmeriaid rydym yn gwybod fod y mwyafrif llethol o grwpiau eisiau ymgeisio’n ddigidol, fodd bynnag, rydym hefyd yn dal i gynnig opsiynau all-lein i’r rhai sy’n methu ymgeisio ar-lein. ’Cysylltwch â'n Tîm Cynghori am ragor o wybodaeth am y broses ymgeisio.
Mae rhaglen Pawb a’i Le wedi bod yn un y mae galw mawr amdani erioed ac rydym yn cael llawer mwy o geisiadau nac y gallwn eu hariannu. Er ein bod yn neilltuo £20 miliwn ar gyfer y rhaglen ar gyfer blwyddyn ariannol 2024/25, rydym yn rhagweld y bydd y glaw mor uchel ac erioed wrth ddyrannu grantiau rhwng £20,001 a £500,000.
Trwy weithredu’r diweddariad hwn, rwy’n eich annog i archwilio’r broses ymgeisio a chymryd mantais lawn o’r adnoddau sydd ar gael i’ch helpu i ymgeisio am arian. Mae’r newidiadau hyn wedi eu cynllunio i roi gwell cefnogaeth i gymunedau ym mhob rhan o Gymru a’r Deyrnas Unedig yn ehangach, ac rwy’n gyffrous i weld yr effaith gadarnhaol a gawn.
I wylio fideo sy’n crybwyll y newidiadau i raglen Pawb a’i Le ymhellach, cliciwch yma.
Am restr lawn o Gwestiynau Cyffredin ynglŷn â diweddariad Pawb a’i Le, cliciwch yma.
I gael gwybod rhagor am bob un o’n rhaglenni ariannu, cliciwch yma.