Gwersi o Fuddsoddi Cymdeithasol

South London Cares

O ble mae ein dysgu'n dod

Beth yw buddsoddi cymdeithasol a sut mae'n ddefnyddiol wrth gefnogi nodau a gwydnwch mudiadau cymdeithas sifil?

  • Mae gennym ddiddordeb mewn helpu mudiadau cymdeithas sifil i ddatblygu eu gwydnwch fel eu bod mewn sefyllfa gryfach i gyflawni eu nodau. Un ffordd o ddatblygu'r cryfder hwnnw yw adeiladu gwydnwch ariannol trwy gynhyrchu incwm rhydd. Yn gynyddol, mae elusennau'n datblygu modelau busnes mentrus ac mae nifer y mentrau cymdeithasol yn tyfu hefyd.

Yn aml mae angen cyllid ar fentrau cymdeithasol i reoli eu llif arian neu i gychwyn arni, tyfu, ehangu isadeiledd ac arallgyfeirio eu gweithgareddau

  • Gall buddsoddi (cynnig cyllid y gellir ei ad-dalu i fudiadau sy'n cyflwyno diben cymdeithasol - gan fuddsoddwr sydd am weld elw cymdeithasol ac ariannol) helpu. Mae'n arbennig o ddefnyddiol ar gyfer mudiadau cymdeithas sifil sy'n ei chael yn anodd cyrchu benthyciadau stryd fawr, a'r rhai sy'n chwilio am fuddsoddwyr gyda gwerthoedd tebyg.

Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol wedi bod yn helpu mentrau cymdeithasol i gyrchu Buddsoddi Cymdeithasol trwy:

  • Weithio gydag Access (The Foundation for Social Investment) a Big Society Capital i ddarparu benthyciadau heb eu sicrhau a phecynnau grant-benthyciad trwy fuddsoddwyr cymdeithasol, o dan y Gronfa Twf
  • Cefnogi mentrau cymdeithasol i baratoi ar gyfer defnyddio buddsoddiadau cymdeithasol (er enghraifft ein rhaglen Big Potential a redwyd yn 2014 ac sydd wedi cyfeirio rhaglenni newydd fel Access Reach Fund)
  • Helpu buddsoddwyr cymdeithasol i frocera buddsoddi (fel o dan y rhaglen Big Venture Challenge a redwyd yn 2013)
  • Cefnogi mudiadau deor menter gymdeithasol (fel ein gwaith dros Raglen Deor Cymdeithasol y Llywodraeth a redwyd yn 2012, a'r Ysgol Entrepreneuriaid Cymdeithasol).

Mae rhai pecynnau buddsoddi cymdeithasol yn cael eu datblygu hefyd i helpu ariannu gweithredu cynnar

  • Mae gennym ddiddordeb mewn sut y gall y trefniadau hyn - fel Bondiau Effaith Gymdeithasol - helpu, yn enwedig pan na all sefydliadau sydd eisiau comisiynu gwasanaethau ataliol symud ymlaen heb a) rhywfaint o gyfalaf amyneddgar i'w helpu rhyddhau cynilon trwy ac ar gyfer yr ymyrraeth - a/neu b) rhywfaint o gyfalaf risg, pan fydd angen i ymyrraeth ataliol gynhyrchu tystiolaeth o effaith yn gyntaf i fodloni parodrwydd comisiynydd i dalu.

Hyd yma, mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol wedi bod wrthi'n ymchwilio i ddefnyddio buddsoddi cymdeithasol ar gyfer gweithredu cynnar trwy:

  • Ychwanegu cyllid cyd-gomisiynu at Fond Effaith Gymdeithasol cyntaf y byd yn Peterborough
  • Cefnogi arloeswyr i ymchwilio i fecanweithiau buddsoddi cymdeithasol i gefnogi gweithredu cynnar (fel gyda'r fenter Camau Nesaf a redwyd yn 2010)
  • Cynnig grantiau datblygu fel y gall mudiadau cymdeithas sifil a chyrff cyhoeddus lleol ymchwilio i ymarferoldeb Bondiau Effaith Gymdeithasol - mae grantiau datblygu ar gael o hyd trwy ein Cynnig Partneriaethau)
  • Cynnig grantiau cyd-gomisiynu i gyrff cyhoeddus cenedlaethol i'w cefnogi wrth gomisiynu mentrau o dan Fond Effaith Gymdeithasol (mae ein cronfa Commissioning Better Outcomes wedi lansio 21 BEG ac rydym hefyd yn helpu'r Llywodraeth i gyflwyno ei Chronfa Cyfleoedd Bywyd)
  • Gweithio gydag arweinwyr y maes mewn meysydd polisi gweithredu cynnar ac mewn buddsoddi cymdeithasol a chomisiynu dylunio ac arfer, i ymchwilio i rolau buddsoddi cymdeithasol wrth oresgyn rhwystrau i weithredu cynnar (er enghraifft, rydym yn cydweithio'n agos â Government Outcomes Lab a Social Investment Research Council.

Ers i'n gwaith ar fuddsoddi cymdeithasol ddechrau yn 2010 rydym wedi comisiynu nifer o werthusiadau ac astudiaethau ymchwil

  • Mae'r rhain yn cynnwys gwerthuso hir dymor manwl a fydd yn cynhyrchu nifer o adroddiadau rhwng nawr a 2023 (fel gwerthusiadau o'n rhaglenni Cronfa Twf a Commissioning Better Outcomes). Gallwch ddod o hyd i'r adroddiadau rydym wedi'u cynhyrchu hyd yma gyda rhai uchafbwyntiau isod.

Pob cyhoeddiad

Gwerthusiadau o Fondiau Effaith Gymdeithasol

Mae Commissioning Better Outcomes (CBO) yn cefnogi mudiadau i ddatblygu a lansio bondiau effaith gymdeithasol (BEG). Rydym am wella dealltwriaeth o BEG, trwy gofnodi dysgu ym mhob cam datblygu a chyflwyno, felly rydym wedi comisiynu gwerthusiad allanol a fydd yn gwerthuso CBO yn ystod ei fywyd naw mlynedd.

Isod mae manylion a dolenni i'r adroddiadau a gyhoeddwyd o'r gwerthusiad CBO.

Crynodeb o'r strategaeth Gwerthuso CBO

Ym mis Ionawr 2014 comisiynodd y Gronfa Loteri Fawr Ecorys UK, mewn partneriaeth ag ATQ Consultants, i werthuso'r Gronfa Commissioning Better Outcomes (CBO) dros ei bywyd naw mlynedd. Mae'r adroddiad hwn yn darparu crynodeb o nodau, amcanion a methodoleg CBO.

Adroddiadau diweddaru CBO

Social Impact Bonds: the state of play
Wedi'i gyhoeddi: Tachwedd 2014

Dyma'r adroddiad cyntaf ar gyfer y gwerthusiad CBO. Mae'n darparu trosolwg o'r dirwedd BEG yn 2014, gan gynnwys y mathau o BEG a fodolodd, eu cryfderau a gwendidau. Mae'r adroddiad yn galw ar dystiolaeth o arolygon gyda darparwyr gwasanaeth, comisiynwyr a buddsoddwyr, ac adolygiad llenyddiaeth.

Commissioning Better Outcomes: update report 1
Wedi'i gyhoeddi: Rhagfyr 2016

Dyma'r ail adroddiad a ysgrifennwyd ar gyfer y gwerthusiad CBO. Mae'n galw ar y dystiolaeth hyd yma i ddisgrifio profiadau cynnar y rhai sy'n datblygu BEG; yn ogystal â manteision ac anfanteision uniongyrchol y dull a'r rhai sy'n bosib yn y dyfodol. Lle bo'n bosib, mae'r adroddiad hefyd yn gwneud cymariaethau rhwng y dull BEG a modelau comisiynu amgen. Mae tri fersiwn ychwanegol o'r adroddiad hwn, a dargedir yn benodol at fuddsoddwyr, comisiynwyr a darparwyr gwasanaeth.

Adroddiadau Thematig CBO

Mae'r Adroddiadau CBO Thematig yn ymchwilio i elfennau gwahanol y cysyniad BEG.

Developing Social Impact Bonds: A Commissioner’s Perspective
Wedi'i gyhoeddi: Rhagfyr 2015

Mae'r achos hwn yn galw ar brofiadau adroddedig comisiynwyr yng Nghyngor Gogledd Gwlad yr Haf a oedd ar adeg ysgrifennu yn sefydlu Bond Effaith Gymdeithasol gyda'r nod o ostwng nifer y plant sy'n derbyn gofal rhwng 10 a 17 oed.

Model BEG LOUD: Pedwar ffactor sy'n pennu p'un a gaiff bond effaith gymdeithasol ei lansio ai beidio
Wedi'i gyhoeddi: Hydref 2017

Mae'r adroddiad hwn yn disgrifio'r ffactorau sydd eu hangen i lansio bond effaith gymdeithasol (BEG). Mae'n cyfuno canfyddiadau o ymchwil ar wahân a gyflawnwyd gan Ecorys UK ac Uned Ymchwil Arloesedd Polisi Ysgol Hylendid a Meddygaeth Drofannol Llundain.

Adroddiad Adolygu CBO Manwl

Nod yr adroddiad Adolygu Manwl yw cofnodi manylder dysgu gan gomisiynwyr, buddsoddwyr a darparwyr gwasanaeth sy'n ymwneud â BEG penodol a ariannwyd gan CBO. Mae pob adolygiad yn cynnwys tri thon o ymchwil, sydd wedyn yn cael eu crynhoi mewn un adroddiad ar gyfer y prosiectau BEG dewisedig. Mae'r ton ymchwil cyntaf yn galw ar brofiadau budd-ddeiliaid hyd at lofnodi'r contractau BEG. Mae'r ail adroddiad yn galw ar brofiadau hyd at ganol y ffordd trwy'r prosiect BEG. Mae'r trydydd adroddiad yn galw ar brofiad ar ddiwedd y prosiect BEG. Mae'r gwerthusiad yn bwriadu cynnal adolygiadau gyda 10 prosiect BEG yn ystod cyfnod y prosiect CBO.

Ways to Wellness SIB: Reducing Loneliness in Worcestershire. BEG iechyd cyntaf y Deyrnas Unedig
Wedi'i lansio 2015

Reconnections SIB: Reducing Loneliness in Worcestershire
Wedi'i lansio 2015

Mental Health and Employment Partnerships SIB
Wedi'i lansio 2016

West London Zone SIB

HCT Independent Travel Training SIB

Gwerthusiad o'r Gronfa Twf (benthyca heb ei sicrhau)

Mentrau cymdeithasol ac ymchwil datblygu'r farchnad fuddsoddi

Cydweithiom â Big Society Capital, Corfforaeth Dinas Llundain a'r Llywodraeth i gomisiynu adroddiad am y dirwedd buddsoddi cymdeithasol. Cyflawnwyd yr ymchwil yn 2013 gan ICF GHK ar y cyd gyda BMG Research. Mae canlyniadau'r gwaith hwn yn yr adroddiadau hyn:

Parodrwydd i fuddsoddi

Yn 2012 comisiynom ni waith i'n helpu deall yn well pryd mae buddsoddi cymdeithasol yn gweithio orau. Ymchwiliodd yr adroddiad i'r canlynol:

  • Beth mae parodrwydd i fuddsoddi'n ei olygu
  • Y rhwystrau i fod yn barod i fuddsoddi
  • Y gefnogaeth y mae ei hangen i fod yn barod i fuddsoddi a sut gall Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ac arianwyr eraill helpu.

Gallwch ddarllen mwy am ein canfyddiadau yn yr adroddiadau a ganlyn:

Mapio Menter Gymdeithasol yn Yr Alban

Mapiom fentrau cymdeithasol a'u gweithgareddau ar draws Yr Alban, gan alluogi ni i ddeall pa mor gyffredinol y maent, eu graddfa, nodweddion, cwmpas, dosbarthiad a'u hiechyd ariannol. Mae hyn wedi rhoi gwaelodlin i ni y gallwn fesur y gwahaniaeth a ddaw yn sgil ein mentrau seiliedig ar fuddsoddi cymdeithasol yn Yr Alban.

Dysgu am effaith ein hariannu ar fentrau cymdeithasol

Yn 2014, comisiynwyd Social Enterprise UK i werthuso effaith ein hariannu ar fentrau cymdeithasol er mwyn i ni wella'n cefnogaeth ar gyfer mentrau cymdeithasol yn y dyfodol:

Dysgu am effaith grantiau Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ar fentrau cymdeithasol (Word, 561KB)

Deall y capasiti a'r angen am ymgymryd â buddsoddi yn y sector cymdeithasol

Yn 2015 comisiynodd y Cyngor Ymchwil Buddsoddi Cymdeithasol - y mae'r Gronfa'n aelod ohono - NCVO i ddefnyddio dulliau newydd o hygyrchu a defnyddio data'r sector elusennau i adeiladu dealltwriaeth o'r galw posib am fuddsoddi cymdeithasol.