Busnesau gyda phwrpas cymdeithasol: School for Social Entrepreneurs

Mae’n cymryd llawer i redeg menter gymdeithasol; busnes gyda phwrpas cymdeithasol. Mae angen holl briodoleddau a sgiliau entrepreneur arnoch, fel craffter busnes, sgiliau ariannol, rheoli pobl a marchnata. Ond mae hefyd angen angerdd a mewnwelediad arnoch i’r mater cymdeithasol yr ydych yn ceisio mynd i’r afael ag ef, er mwyn llwyddo mewn mannau sy’n cael eu hosgoi gan fusnesau preifat neu eu tan-wasanaethu gan wasanaethau cyhoeddus. Gall deimlo fel “rhedeg busnes gyda’ch braich wedi’i glymu y tu ôl i’ch cefn”, eglura Mike Partridge o’r School for Social Entrepreneurs (SSE).

Mae Rhaglen Entrepreneuriaid Cymdeithasol Lloyds Bank a Bank of Scotland yn helpu pobl ledled y DU i ennill y sgiliau, hyder a rhwydweithiau i ddatblygu eu syniad ar gyfer menter gymdeithasol, a grant i helpu hynny i ddigwydd. Dyma’r rhaglen fwyaf o’i math yn y DU. Mae’r rhaglen wedi cefnogi dros 2,600 o entrepreneuriaid cymdeithasol ers iddi gael ei sefydlu yn 2012 ac mae wedi’u helpu i gyrraedd dros 740,000 o fuddiolwyr.

Y rhaglen mewn rhifau

O syniadau i fentrau

Mae Madeline Alterman yn rhedeg Artbox London stiwdio gelf gynhwysol sy’n gwerthu celf gan bobl ag anableddau dysgu ac awtistiaeth. Gall cyfranogwyr gymryd rhan mewn gweithdai, teithiau a chyfleoedd arddangos. Trwy’r rhain, gallant ddatblygu sgiliau newydd, gwneud ffrindiau ac ennill incwm. Fel y mae Shruti’n egluro mor dda yn y fideo hwn, maen nhw’n “dod yn artistiaid, ac nid yn cael eu diffinio gan eu hanabledd yn unig rhagor.”

Mae Madeline wedi cwblhau tair lefel y Rhaglen Entrepreneuriaid Cymdeithasol, ac yn dweud hebddi, mae’n debygol na fyddai Artbox London yn bodoli. Pan ymunodd â’r cwrs Start Up, dim ond syniad oedd y fenter, rhywbeth oedd hi’n siarad amdano gyda’i ffrindiau yn y dafarn ar nos Wener. Erbyn diwedd y cwrs, roedd hi’n rhedeg gweithdai celf wythnosol mewn oriel leol. Pan symudodd Madeline ymlaen i Trade Up, dechreuodd archwilio sut i wneud Artbox London yn fwy cynaliadwy’n ariannol, ac erbyn Scale Up, y trydydd lefel a’r un terfynol, roedd hi’n chwilio am gymorth i dyfu’r sefydliad.

“Sefydliad elusennol oedd ef - roedd y sesiynau am ddim a dim ond ychydig o arian roeddem yn ei wneud o werthu’r gwaith celf a oedd yn talu am ddeunyddiau”, dywedodd Madeline. “Ond newidiodd Trade Up fy ffordd o feddwl […] gwnaeth y cwrs a’r tystion […] wneud i mi feddwl yn wahanol - mwy am fod yn gynaliadwy”.

Cafodd Madeline y syniad ar gyfer Artbox London yn seiliedig ar brofiad ei hun. Wrth iddi gael ei magu, gwelodd y diffyg cyfleoedd oedd ar gael i’w brawd iau, sydd â Syndrom Down, ac roedd hi eisiau helpu llenwi’r bwlch.

Mae gan tua dau draean o gyfranogwyr brofiad bywyd o’r broblem y maen nhw’n ceisio mynd i’r afael â hi. Fel Frankie Graham, a sefydlodd betknowmore UK, elusen sy’n mynd i’r afael ag effeithiau niweidiol gamblo, ar ôl iddi adfer o fod yn gaeth i gamblo yn ystod ei arddegau. Mae’r profiad hwn yn golygu bod gan Frankie fewnwelediad i sut y gall betknowmore helpu eraill: mae’n gwybod pa mor anodd y gall y broses adfer fod.

Mae eraill wedi gweld angen yn eu cymuned, anghyfiawnder, neu her nad yw wedi cael ei hymdrin â hi gan wasanaethau cyfredol. Mae pob un yn gweld eu menter gymdeithasol fel “ffordd o wneud newid yn yr hirdymor”, dywed Claire Mulry, sy’n rheoli’r rhaglen.

Sylweddolais fy mod i’n entrepreneur cymdeithasol pan oeddwn eisiau gwneud mwy na gwneud arian. Roeddwn eisiau gwneud newid cymdeithasol.
Danna Walker, Built By Us

Ar agor i unrhyw un

Brainstorming at a School for Social Entrepreneurs session

Amrywiaeth pob carfan yw un o gryfderau’r rhaglen: mae wedi’i ddylunio i fod yn hygyrch i bobl o bob math a chefndir. Mae SSE yn chwilio’n weithredol am ffyrdd i wella hyn. Yn ddiweddar, mae hyn wedi bod mewn cydweithrediad â’r elusen anableddau Leonard Cheshire a thrwy gynnwys ystod eang o alwmni’r rhaglen mewn asesiadau, cyfweliadau a phaneli.

Mae SSE hefyd wedi cyflwyno galwad un-wrth-un cyfrinachol ar gyfer pob cyfranogwr cyn iddynt ymuno, fel yr argymhellwyd gan eu gwerthuswr. Mae hyn yn rhoi’r cyfle i ddysgwyr drafod unrhyw anghenion mynediad a chefnogaeth efallai nad ydynt yn teimlo’n gyfforddus i’w datgelu o flaen y grŵp, neu eu nodi yn eu cais.

Does dim gofynion mynediad, felly does dim ots beth yw lefel addysg yr ymgeiswyr. Oherwydd bod y rhaglen wedi’i rhannu i wahanol lefelau, mae ar agor i bobl ar bob cam o’u taith, boed ydynt yn dal i weithio ar syniad, neu eisoes wedi sefydlu menter sy’n barod i dyfu.

Mae’r natur agored hwn yn dod ag amrywiaeth o fusnesau ac achosion ynghyd. O Big River Bakery, popty cymunedol yn Tyneside sy’n ceisio newid y byd “un dorth ar y tro,” i Built By Us, sefydliad sy’n cynyddu amrywiaeth a chynhwysiant yn y sector amgylchedd adeiledig.

Hwb o ran arian a hyder

Mae cystadleuaeth am le yn y rhaglen yn uchel: bob blwyddyn mae rhwng 800 a 1,000 o bobl yn ymgeisio a dewisir tua 260 ohonynt. Ar gyfer cyfranogwyr, mae cynnig eu busnes yn ystod y broses gystadleuol hon yn hybu hyder, yng ngalluoedd a syniadau eu hunain, ac yn y rhaglen ei hun.

Mae derbyn cyllid yn bleidlais hyder arall. Gall yr arian ei gwneud hi’n bosibl dechrau darparu neu fasnachu, hyd yn oed os yw’n cael ei ddefnyddio ar gyfer costau syml.

Sefydlodd Pasna Sallis Weekday Wow Factor, menter gymdeithasol yn hyrwyddo iechyd a lles trwy weithgareddau hwylus a chymdeithasol i bobl hŷn yn yr Alban, pan oedd hi’n gweithio fel therapydd galwedigaethol yn y GIG. Cyfarfu â dau o bobl â dementia a oedd wedi colli eu holl allu i gyfathrebu a gwelodd drawsnewidiad pwerus ynddynt wrth wrando ar gerddoriaeth. Penderfynodd sefydlu disgos yn ystod y dydd i bobl hŷn, y cyntaf mewn amrywiaeth o weithgareddau i wella lles corfforol, meddyliol a chymdeithasol, gan ddefnyddio dull therapi galwedigaethol.

Yn dilyn rhaglen beilot chwe mis, gadawodd Pasna ei swydd yn y GIG i ganolbwyntio ar Weekday Wow Factor. Helpodd grant SSE iddi dalu am gostau cynnal - DJ, coffi, te a brechdanau - yn ogystal â chyfrifiadur ar gyfer gwaith gweinyddol.

I rai, y cyfle am gefnogaeth ariannol yw’r hyn sy’n eu denu i’r rhaglen yn gyntaf. Ond mae’n gysylltiedig â chymryd rhan yn y cyfleoedd dysgu – ac mae Claire yn dweud, mae’r entrepreneuriaid yn sylweddoli mai dyma sy’n gwneud y gwahaniaeth. “Mae’r arian yn ddull gwych i wneud newidiadau yn eich sefydliad […] ond mae pobl yn gweld bod y dysgu ei hun – yn enwedig y gefnogaeth gan gyfoedion – yn drawsnewidiol.”

Mae’r rhaglen yn perfformio’n uwch na’i thargedau cwblhau, sy’n wych o ystyried ei bod am ddim, ac yn ymrwymiad sylweddol dros gyfnod o flwyddyn. Mae cyfraddau cwblhau (97%) ar gyfer myfyrwyr Trade Up a Scale Up hyd yn oed yn uwch na’r Start Ups lefel mynediad (o hyd yn 92% cryf), sy’n dangos lefel uchel o foddhad ymysg cyfranogwyr. Mae’r boddhad hwn wedi’i gadarnhau gan y rhai hynny sydd, fel Madeline a Pasna, yn parhau trwy’r gwahanol lefelau.

Pecyn cymorth

Participants at a School for Social Entrepreneurs away day

“Mae SSE yn credu na allwch chi ddysgu entrepreneuriaeth,” dywed Claire, “ond gallwch chi ddysgu trwy wneud.” Mae Mike yn cytuno: “Mae’n ymwneud â bod yn ymarferol iawn, a gweithredu syniadau.” Mae sesiynau wedi’u trefnu gyda bylchau rhyngddynt fel bod pobl yn gallu rhoi’r hyn y maent wedi’i ddysgu ar waith, yna dod nôl a dweud wrth eu cyfoedion sut aeth hi.

Ar ddechrau’r cwrs, mae cyfranogwyr yn eistedd gyda hwylusydd eu cwrs i gyd-ddylunio’r hyn y maen nhw eisiau ei ddysgu. Mae hyn yn golygu bod pob rhaglen unigol yn bwrpasol, gan ymateb i anghenion y garfan.

Mae cyfranogwyr yn cymryd rhan mewn 14 o ddiwrnodau dysgu lle maen nhw’n mynychu gweithdai a ddarperir gan arbenigwyr pwnc a “siaradwyr tyst”, cymrodyr y rhaglen ac arweinwyr mentrau cymdeithasol adnabyddus fel The Big Issue. Mae Mike yn dweud y gall eu straeon fod “nid yn unig yn ysbrydoledig ond yn dangos ei bod hi’n bosibl, bod hyn yn gallu digwydd.” Mae hyn yn enwedig o bwysig ar gyfer pobl sy’n dechrau arni, “oherwydd mae amheuaeth ac ansicrwydd yn gallu codi a’u gorlethu.”

Mae myfyrwyr hefyd yn cymryd rhan mewn Action Learning Sets, dull o ddatrys problemau yn y gweithle. Mae grwpiau’n dod ynghyd i archwilio heriau bywyd a datblygu datrysiadau potensial. Mae’r dull yn gallu cymryd amser i ddod i’r arfer ag ef, ond mae tua 80% o gyfranogwyr yn dweud bod y sesiynau hyn yn ddefnyddiol. Mae grwpiau’n aml yn parhau i ddefnyddio’r dull yn anffurfiol, flynyddoedd ar ôl i’r rhaglen ddod i ben.

Mae mentoriaid o Lloyds Bank neu Bank of Scotland yn cynnig arbenigedd busnes mewn meysydd fel adnoddau dynol neu farchnata. Eu rôl yw bod yn ffrind beirniadol, gan helpu cyfranogwyr i feddwl am y problemau y maen nhw’n eu hwynebu yn hytrach na dweud wrthynt beth i’w wneud.

Cyfarfu Pasna â’i mentor bob tri mis. Mae’n dweud yr oedd yn glust i wrando ac yn ei helpu i lywio tuag at ffocws a sylw. “Fel entrepreneur, mae tua 100 o bethau ar eich rhestr o bethau i’w gwneud ac o’r 100 hynny, bydd 99 ohonynt yn flaenoriaethau. Felly roedd hi’n braf cael mentor oedd yn gallu gwerthfawrogi swm y gwaith,” ei helpu i flaenoriaethu, a chynnig safbwynt gwahanol.

Cynyddodd ei hyder wrth i Weekday Wow Factor ddechrau tyfu. “Roedd derbyn ei adborth yn hwb mor dda ac yn fy helpu i wybod fy mod ar y trywydd cywir.” Helpodd ef iddi feddwl am syniadau newydd ac edrych yn wahanol ar y problemau yr oedd hi’n eu hwynebu.

Y syniad y tu ôl i’r dull dysgu hwn yw dangos pobl nad oes un ffordd o fod yn entrepreneur cymdeithasol, esbonia Claire. “Yr hyn rydym wir ei eisiau yw i bobl weld llawer o wahanol fersiynau o arweinyddiaeth ac entrepreneuriaeth a pheidio â theimlo fel petai dim ond un model o hynny. Felly, mae’r tystion a’r dysgu gan gyfoedion wir yn helpu pobl i fagu hyder mewn arweinyddiaeth, adeiladu eu rhwydweithiau a dysgu gwahanol ddulliau i ddelio â heriau.”

I ddechrau, roeddwn i’n meddwl bod angen i mi fod yn rhywbeth penodol, i siarad mewn ffordd benodol, i allu dechrau a datblygu fy musnes. Rhoddodd SSE yr hyder a dealltwriaeth i mi mai’r ffordd fwyaf effeithiol i mi ddatblygu fy musnes yw bod fy hun.
Frankie Graham, betknowmoreuk

O sgiliau busnes i effaith gymdeithasol

Mae’r rhaglen yn cynnwys hanfodion rhedeg busnes. Mae cyfranogwyr yn dysgu am gynhyrchu incwm, y cyfryngau cymdeithasol, rheoli pobl ac ymgysylltiad cymunedol. Roedd gan Pasna, a oedd yn newydd i’r trydydd sector ac i redeg busnes ei hun, lawer i’w ddysgu. “Roedd y gair ‘caffael’ yn arfer codi ofn arnaf!”, dywed hi.

Mae bron pob myfyriwr (98.7% ohonynt) yn adrodd gwelliannau ar draws pob sgil. Mae’r cynnydd wedi’i hunanasesu ar gyfartaledd ar draws “pob sgil” (busnes ac entrepreneuraidd, dyfeisgarwch emosiynol, rhwydweithiau ac effaith gymdeithasol) tua 15%. Yr effaith fwyaf yw ar y sgiliau lle mae myfyrwyr yn graddio eu hunain isaf i ddechrau, fel cynnig eu busnes a gwerthiannau.

Ond mae’r enillion yn mynd ymhell tu hwnt i wybodaeth marchnata, cynlluniau busnes a gwerthiannau. Anogwyd carfan Madeline i sefydlu eu busnesau cyn iddynt raddio o’r rhaglen. Roedd hyn yn rhoi rhywbeth iddi weithio tuag ato: “Rhoddon nhw’r sgiliau i mi ei wneud ond hefyd yr hwb ysgafn yr oedd ei angen arnaf bryd hynny.”

Mae’r rhaglen hefyd yn trafod effaith gymdeithasol. Mae’n bwysig i fentrau cymdeithasol allu mesur hyn, oherwydd gellir defnyddio’r wybodaeth mewn ceisiadau ariannu, ac i helpu’r sefydliad i gadw ffocws ar ei bwrpas cymdeithasol. Mae myfyrwyr wedi cydnabod hyn, gyda dros 90% o recriwtiaid yn rhoi mesur effaith gymdeithasol ar waith, yn erbyn targed rhaglen o 81%.

Rhwydwaith o gyfoedion

Peer support with the School for Social Entrepreneurs

Mae’r rhaglen yn dod ag entrepreneuriaid cymdeithasol newydd ynghyd mewn lle y gallant fod yn onest ac yn fregus. Mae adeiladu menter gymdeithasol yn anodd, a dywed Mike, “mae’n anodd iawn pan rydych chi’n teimlo fel rhoi’r gorau iddi a gwneud rhywbeth arall. Pan fyddwch chi’n clywed am bobl [ar y rhaglen] yn siarad am eu pwyntiau isel ac uchel, mae’n gallu rhesymoli hynny a dweud bod hynny’n normal ac yn iawn.”

Mae Danna, sy’n rhedeg Built By Us, yn dweud ei bod yn gwybod yr hyn yr oedd hi am ei gyflawni gyda’i menter gymdeithasol ond hefyd bod angen cefnogaeth arni ar hyd y ffordd. Llenwodd y rhaglen entrepreneuriaid cymdeithasol y bwlch hwnnw. “Dydw i ddim yn dod o deulu o entrepreneuriaid ac nid yw’r rhan fwyaf o fy ffrindiau yn entrepreneuriaid. Felly mae cael grŵp o bobl sydd wir yn deall y daith yn wych.”

Ac mae’r cysylltiadau hyn yn para: mae 19 mewn 20 o fyfyrwyr yn aros mewn cysylltiad gyda’r cyfranogwyr eraill ar ôl iddyn nhw orffen y rhaglen. Mae Pasna hyd yn oed wedi mynd ymlaen i ddatblygu menter ar y cyd â menter gymdeithasol arall o’i charfan: Lunch Club at Home. Mae’r ddau entrepreneur cymdeithasol yn cyfuno eu harbenigedd i gynnal teithiau a disgos gyda’i gilydd.

It was the people I met, both the participants and the witnesses, who were incredibly inspiring and so that helped with ambition.
Madeline Alterman, Artbox London

Match trading: a new approach to funding

Roedd SSE am ddod o hyd i ffordd i ddosbarthu cyllid ond annog a gwobrwyo entrepreneuriaeth. Felly, meddyliodd yr elusen am y syniad Match Trading®. Mae’r model ariannu newydd hwn yn gysylltiedig â thwf y busnes: os ydych chi’n cynyddu eich incwm masnachu, rydych chi’n derbyn grant sy’n gyfwerth â’r twf hwnnw (hyd at derfyn y cytunwyd arno). Mae’n creu cymhelliad i ddeiliaid grant i ddatblygu eu sylfaen fasnachu a thyfu eu sefydliad.

Cafodd Match Trading ei dreialu trwy’r Rhaglen, yn dechrau yn 2017. Mae ei lwyddiant wedi arwain at SSE yn ei weithredu gyda phartneriaid ariannu eraill hefyd, gan gynnwys y Rank Foundation a’r Foundation for Social Investment. Mae grantiau Match Trading wedi cael eu dyfarnu at dros 600 o sefydliadau gwirfoddol, cymunedol a menter gymdeithasol fel rhan o raglenni dysgu SSE. Mae dadansoddiad a gynhaliwyd gan yr elusen yn dangos, dros un flwyddyn, bod derbynnydd Match Trading yn cynyddu ei gyfran o incwm masnachu o 58% i 69% o’u hincwm yn gyfangwbl, gan leihau eu dibyniaeth ar grantiau traddodiadol.

Pan ddigwyddodd Covid-19, roedd angen ail-feddwl pethau. Roedd dau draean o’r garfan 2020-2021 yn wynebu gostyngiad mewn incwm masnachu, felly addasodd SSE y model grant, gan greu Trade Back. Mae’n cynnwys grantiau traddodiadol i gychwyn ymdrechion adfer (£2,000 ar gyfer Trade Up a £3,000 ar gyfer Scale Up), a’r arian sy’n weddill mewn masnachu cyfatebol (hyd at £2,000 ar gyfer Trade Up; hyd at £4,000 ar gyfer Scale Up). Cefnogodd y dull cyfunedig hwn entrepreneuriaid cymdeithasol i adeiladu eu cwsmeriaid yn ôl, diogelu eu gweithwyr a pharhau i gael effaith.

Mae bod yn rhan o’r rhaglen wedi fy helpu i wasanaethu’r bobl yr hoffem eu helpu’n well, oherwydd rwy’n gallu cyflymu’r hyn rwy’n ei wneud.
Danna Walker, Built By Us

Goroesi, ffynnu a gwneud gwahaniaeth

Mae angen amser a lle ar entrepreneuriaid cymdeithasol i ffwrdd o ddyletswyddau rhedeg busnes o ddydd i ddydd i adlewyrchu ar eu cynlluniau yn y dyfodol. Mae hyn yn haws dweud na gwneud, yn enwedig yn ystod y dyddiau cynnar. Ond mae Pasna’n dweud erbyn y cwrs Trade Up, roedd hi wedi dysgu pa mor bwysig oedd hynny. “Rwy’n credu fy mod i wedi dechrau meddwl yn wahanol. Oherwydd roeddwn i’n teimlo ‘mae angen hyn arnom er mwyn tyfu.’”

Mae mentrau Madeline a Pasna’n ehangu. Mae Artbox London ar fin symud i stiwdio newydd, mwy. Mae gan Weekday Wow Factor dri aelod o staff bellach; pan ddechreuodd Pasna, ei phlant oedd yn ei helpu i greu taflenni ar gyfer y disgo cyntaf.

Gyda thwf mewn incwm, daw twf mewn effaith gymdeithasol. Mae mentrau cyfranogwyr yn cefnogi rhagor o bobl, creu rhagor o swyddi ac ehangu eu gwasanaethau.

Fel Change Please, a sefydlwyd gan Cemal Ezel. Gan ddefnyddio “coffi fel ffordd allan o ddigartrefedd”, mae Change Please yn darparu swydd sy’n talu cyflog byw Llundain, llety, cyfrif banc a chefnogaeth therapiwtig i bobl oedd yn arfer cysgu allan. Gan ddechrau ag un cart coffi a chwe barista, mae Change Please bellach wedi cefnogi dros 250 o bobl, gyda dros 85% o’i hyfforddeion yn symud ymlaen at gyflogaeth bellach. Mae ei goffi’n cael ei werthu mewn dros 200 o fariau a safleoedd coffi yn ogystal ag ar drenau Virgin, ac mae coffi Change Please bellach ar gael o archfarchnadoedd Sainsbury’s.

Mae Cemal yn canmol y Rhaglen Menter Gymdeithasol am y llwyddiant hwn. Mae’n cyfeirio at gefnogaeth amhrisiadwy ei fentor o Lloyds Bank ac yn dweud “mae’r gwasanaeth wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i’r ffordd yr ydym wedi tyfu a datblygu, pwy yr ydym yn eu helpu a faint o fuddiolwyr y gallwn ni eu cefnogi, sut rydym yn mesur ein heffaith gymdeithasol, a sut rydym yn codi arian. Mae […] wedi cynyddu cyflymder a thrywydd ein twf.”

Mae’n cymryd llawer i redeg menter gymdeithasol, ond gyda’r gefnogaeth gywir, mae’r fenter gymdeithasol honno’n rhoi llawer yn ôl.

Ffynonellau a chyfweleion

Mae’r astudiaeth achos hwn yn seiliedig ar ddata, gwybodaeth ac astudiaethau achos o wefan SSE; gwerthusiad Cam 1 a gwerthusiad interim Cam 2 2021 Rhaglen Entrepreneuriaid Cymdeithasol Lloyds Bank a Bank of Scotland; a chyfweliadau Jo Woodall gyda:

  • Madeline Alterman, Artbox London
  • Claire Mulry, School for Social Entrepreneurs
  • Mike Partridge, School for Social Entrepreneurs
  • Sarah Pattinson, Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol
  • Pasna Sallis, Weekday Wow Factor

Oni bai y nodir fel arall, mae data naill ai wedi cael ei ddarparu gan SSE neu wedi’i gymryd o werthusiad interim Cam 2 2021 y Rhaglen Entrepreneuriaid Cymdeithasol, a gynhaliwyd gan ERS Research and Consultancy.

Dolenni

Dysgwch ragor am Raglen Entrepreneuriaid Cymdeithasol Lloyds Bank a Bank of Scotland neu dilynwch SSE ar Instagram, Twitter, Facebook, LinkedIn neu YouTube.