Action in Caerau and Ely

Mae Action in Caerau and Ely (ACE) yn eiddo i ac yn cael ei redeg gan drigolion dwy ystâd gyngor yng ngorllewin Caerdydd. Wedi'i ddechrau fel rhan o Gymunedau yn Gyntaf, rhaglen gwrth-dlodi Llywodraeth Cymru, mae'n gweithio i wella ac adfywio ei gymunedau. Mae'r prosiectau'n amrywio o gefnogaeth mewn argyfwng i gelf a chrefft gymunedol - ac, fel y mwyafrif o sefydliadau, bu'n rhaid i ACE ailystyried sut mae'n gweithredu er mwyn ateb heriau Covid-19. Yma, mae'r Rheolwr Gwybodaeth a Dysgu, Zoë Anderson, yn siarad â Sam Froud Powell am gymuned, hyblygrwydd, ac adrodd storïau cadarnhaol.

Adeiladu ar gryfderau'r gymuned

I Sam, Cydlynydd Cefnogaeth Gymunedol ACE, mae'n hanfodol bod "dros hanner o'n staff yn byw yn y gymuned hon. Felly dydych chi ddim yn mewnforio syniadau o rywle arall, rydych yn tyfu pethau o syniadau'r bobl eu hunain a'u hangerdd a'u cryfderau." Caerau and Ely yw'r ail a thrydedd cymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru, yn ôl Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru – ond, mae'n nodi bod ganddynt "hanes hir o hunangymorth, actifiaeth a gweithredu cymunedol hefyd”. Ar draws llawer o weithgareddau gwahanol, mae ACE yn cydweithio â phobl leol i newid naratif yr ardal, i ddathlu ei threftadaeth a'i chryfderau.

Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol wedi cefnogi ACE ers 2012, gan gynnwys grant o £498,343 fel rhan o'r rhaglen Helpu Teuluoedd sy'n Gweithio, a grant penodol o £9,288 ar gyfer eu cynllun Your Local Pantry. Dyma siop fwyd a leolir yn The Dusty Forge, tafarn flaenorol sydd bellach yn brif leoliad ACE a hoffir yn fawr. "Ni fyddai llawer o bobl yn defnyddio'r banc bwyd, yn enwedig pobl a oedd yn profi anhawster ond yn gweithio,” esboniodd Sam. “Mae'r banc bwyd yno ar gyfer argyfwng, nid i ddarparu cefnogaeth barhaus i bobl sy'n ei chael hi'n anodd talu'r biliau.”

Mae Your Local Pantry yn rhwydwaith o siopau cymunedol, a redir fel cynllun aelodaeth, gan adeiladu cysylltiadau'n lleol ac yn genedlaethol. Mae'r aelodau'n talu ffi wythnosol o £5, a gallant ddewis gwerth tua £20-25 o siopa. Daw'r bwyd gan Fare Share, elusen a ariennir gan y Loteri sy'n ailddosbarthu bwyd dros ben o archfarchnadoedd a ffynonellau eraill. Mae'r pantri'n cynnig bwyd ffres ac wedi'i oeri, gan gynnwys cig, ffrwythau a llysiau. Mae'n cael ei redeg gan wirfoddolwyr, sy'n aelodau o'r pantri eu hunain. Mae ACE yn cynnig cefnogaeth i staff, gan gynnwys hyfforddiant a diogelwch bwyd, ond y gwirfoddolwyr sy'n penderfynu ar gynllun a threfniadaeth y siop.

“Roeddem eisiau darparu rhywbeth fforddiadwy iawn sydd â'r urddas o fedru dewis. Mae pobl yn gwsmeriaid, dydy e ddim fel defnyddio elusen." Mae'n osgoi'r stigma posib o fanciau bwyd ac roedd yn boblogaidd ar unwaith. “Fe ddaeth â llawer o bobl newydd i mewn i'r adeilad. Yr hyn a oedd yn braf tu hwnt oedd eu bod yn teimlo'n bositif am fod yn rhan o'r prosiect, a'u bod yn rhoi adborth i ni am y pethau yr oeddent wedi'u coginio. Byddai ychydig iawn o bobl yn teimlo'n bositif am ddefnyddio banc bwyd.” Lansiwyd y pantri, gan ddechrau'n fach yn fwriadol, gyda 30 o aelodau ym mis Mehefin 2019. Mae wedi tyfu i bron 200.

Adeiladodd ACE ar y brwdfrydedd yma, gan redeg cyrsiau coginio a maeth, a sesiynau blasu a anogodd bobl i roi cynnig ar fwydydd llai cyfarwydd. “Oherwydd yr oedd pobl yn cael cryn dipyn o werth am £5, roeddent yn fwy parod i roi cynnig ar bethau gwahanol. Pan fyddwch ar gyllideb fach dydych chi ddim eisiau cymryd risgiau - dydych chi ddim eisiau gwastraffu arian ar bethau efallai na fyddwch chi neu eich plant yn eu hoffi." Mae'r ardal aros, sy'n cael ei rheoli gan wirfoddolwyr, yn cynnig te a choffi am ddim, llyfrgell o lyfrau ryseitiau, a chyfle i siarad am yr hyn rydych wedi'i goginio.

Dangosodd y sgyrsiau hynny ddyfnder yr wybodaeth yn y gymuned, adnodd i'w ddathlu a'i rannu. “Mae pobl ar incwm isel yn cael eu ceryddu am fod yn ofnadwy wrth reoli pethau - ond dangosodd hyn faint o brofiad sydd ganddynt wrth reoli cyllidebau. Rydym yn ceisio helpu pobl gyda gwybodaeth, ond yr hyn sy'n allweddol yw gwybodaeth a mewnbwn yr aelodau. Gyda model y pantri, mae gennych grŵp o bobl y gallwch weithio gyda nhw, mae gennych ganiatâd ganddynt i'w gwahodd i bethau. Roedd hynny'n bwerus iawn."

Covid-19: dewisiadau realistig

Er bod ACE yn rhedeg amrywiaeth eang o brosiectau, o gynlluniau chwarae plant i sied gwaith coed gymunedol, mae'r mwyafrif o waith wyneb wrth wyneb. Gofynnodd y cyfnod clo ddewis beth i barhau ag ef, a sut.

“Am ychydig wythnosau, roeddem mewn modd argyfwng," meddai Sam, "ond wedyn roeddem yn gallu setlo i lawr, cael rhai trafodaethau synhwyrol gyda'r tîm cyfan. Beth allem ei wneud yn realistig, gyda'n capasiti?"

Lle bo'n bosib, cyflwynwyd prosiectau gan staff a gwirfoddolwyr sy'n gweithio o gartref, yn aml gyda gwir ddyfeisgarwch: Parhaodd prosiect archaeoleg gymunedol y Hidden Hill Fort, gyda gweithgareddau fel "Cloddfa Fawr" mewn gerddi trigolion. Aeth sesiynau cyngor a gwybodaeth galw heibio'n wasanaeth dros y ffôn. Gohiriwyd gwaith celf gymunedol, clwb ar ôl ysgol seiliedig ar STEM a gŵyl fwyd yn yr haf. Rhoddwyd rhai aelodau staff ar ffyrlo. Caeodd The Dusty Forge i'r cyhoedd, ond parhaodd ACE i redeg gwasanaethau craidd o'r adeilad.

“Fe ganolbwyntiom ar wneud y defnydd gorau o'n hadnoddau, ein hadeilad. I bob pwrpas trawsnewidiwyd The Dusty Forge i hyb dosbarthu bwyd, gan wasanaethu aelodau'r pantri a darparu pecynnau bwyd brys." Gyda rhoddion gan eglwysi lleol ac unigolion yn ogystal â'r cyflenwad gan Fare Share, roedd mwy o fwyd yn dod i mewn nag erioed.

Cludiadau ACE yn ystod y cyfnod clo. Bydd yr hen fan yn cael ei ddisodli gan gerbyd trydan sy'n llesol i'r amgylchedd.
.


Aeth y pantri'n wasanaeth cludiadau, gyda niferoedd gostyngol yn gweithio. “Oherwydd yr heriau logistaidd, gallwn ddarparu bwyd i tua hanner yr aelodaeth. Roeddem yn ofalus i beidio â gor-ymrwymo. Petaem wedi ceisio darparu bwyd i bawb, byddai'r staff wedi llosgi allan, a byddem wedi siomi pobl trwy fethu â chludo."

Gan i ni gyfathrebu'n glir, gostyngwyd y risg o gael siom. Siaradodd ACE ag aelodau, gan esbonio y byddent yn blaenoriaethu'r rhai sydd mwyaf mewn angen, ac y byddai aelodaethau eraill yn cael eu gohirio. “Roedd modd i ni fod yn hyblyg ynglŷn ag amgylchiadau unigol pobl, gan yr oedd gennym berthynas â nhw eisoes. Nid oeddent yn feini prawf pendant, ond fe geisiom ganolbwyntio'r gefnogaeth ar y rhai nad oeddent yn derbyn cymorth o ffynonellau eraill."

Roedd rhai teuluoedd nad oeddent yn gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim yr oeddent yn wynebu caledi ariannol o hyd. Blaenoriaeth arall oedd y rhai a oedd yn gwarchod eu hunain, ynghyd â phobl yr oedd eu problemau gorbryder neu iechyd meddwl yn ei wneud yn anodd iddynt siopa. “Rydym yn nabod teuluoedd ac aelodau pantri nad ydynt wedi gadael y tŷ dros gyfnod cyfan y pandemig. Rydym yn ceisio bod yn sensitif i'r sefyllfaoedd hynny." Yn yr un modd, “os yw rhywun yn rhiant sengl sydd â thri neu bedwar o blant, nid yw'n brofiad dymunol i fynd i archfarchnad sy'n cadw pellter cymdeithasol. Hyd yn oed os nad ydynt yn gwarchod eu hunain, rydym yn cydnabod ei fod yn anos iddynt."

Parhaodd y rhai ar restr gludiadau'r pantri i dalu £5. “Fe deimlom ei fod yn bwysig i gadw'r elfen honno, sef nid ydych yn gofyn am nawdd elusennol.” O ddechrau'r cyfnod clo ym mis Mawrth tan ddiwedd mis Mehefin, gwnaeth ACE 650 o gludiadau pantri a dosbarthwyd 300 o becynnau brys am ddim i bobl a oedd yn gwarchod eu hunain neu yr oedd ganddynt ddiffyg cefnogaeth. Eto, y nod oedd llenwi bylchau mewn gwasanaethau, gan gydlynu â Chyngor Caerdydd i osgoi dyblygu.

Maent yn bwriadu agor siop y pantri, gyda chadw pellter cymdeithasol, ar ddiwedd mis Awst. Bydd cludiadau'n parhau ar gyfer y grŵp bach sydd eu hangen nhw o hyd, gan gydnabod ei fod yn opsiwn gwerthfawr o fewn y gwasanaeth. Bydd rhan o grant ategol ACE gan y Gronfa'n cael ei wario ar fan trydan newydd. “Beth bynnag sy'n digwydd, byddwn yn gwneud llawer mwy o waith gyda bwyd. Bydd cael cerbyd amgylcheddol gynaliadwy cost isel yn hynod o braf.”

Cefnogaeth ariannol dros y ffôn

Fel llawer o elusennau, wynebodd ACE galw cynyddol a gostyngiad mewn niferoedd gwirfoddolwyr ar ddechrau'r pandemig. “Roedd hynny'n dorcalonnus, ni allai llawer o'n gwirfoddolwyr gymryd rhan o ganlyniad i warchod eu hunain a gofal plant. Gwelsom gwymp fawr, ond wedyn dechreuom dderbyn cynigion gan wirfoddolwyr newydd. Nid oeddem yn gallu derbyn pawb ar unwaith, oherwydd cadw pellter cymdeithasol. Heb Covid, gallech chi ddweud, ‘Gwych, 50 o bobl!’ - ond mae gennym gyfyngiad llym ar y nifer o bobl a all ddod i mewn i'r Dusty ar yr un pryd.”

Mae'r galw wedi symud i'r llinell gymorth, a dderbyniodd 500 o alwadau erbyn diwedd mis Mehefin. Sefydlodd ACE rota newydd, gyda galwadau'n cael eu trosglwyddo i ffonau symudol cartref staff a chofnodwyd ceisiadau mewn taenlen ganolog. Mae'r rhan fwyaf o alwadau ar gyfer cymorth gyda bwyd, mynd i nôl presgripsiynau neu arian a budd-daliadau.

Mae llawer o'r rhai sy'n ffonio'n hawlio Credyd Cynhwysol am y tro cyntaf, ac efallai mai'r cyfan y maent ei eisiau yw gofyn am sut mae'n gweithio. Am broblemau mwy cymhleth, gall ymgynghorwyr gyfeirio pobl at gyngor manwl. Mae eraill yn cael trafferth wrth wneud hawliadau ar-lein oherwydd diffyg dyfeisiau neu sgiliau rhyngrwyd. Gyda rhodd gan Tesco Mobile, dosbarthodd ACE 25 o ffonau gyda data i bobl sydd wedi'u hallgau'n ddigidol. Rhoddodd staff gefnogaeth i bobl ddod i ben â'r system ymgeisio hefyd.

Gall cyfeirio at gynlluniau grant fel Cronfa Cymorth Dewisol Llywodraeth Cymru helpu gydag eitemau hanfodol, fel peiriannau golchi newydd. “O fewn y garfan honno o 800 o alwadau, rydym wedi cefnogi pobl i gael mynediad i werth £15,000 o grantiau.”

Mwy na pheiriannau golchi

Bu rhai pobl yn ffonio'r llinell gymorth yn syml oherwydd iddynt deimlo'n unig ac wedi'u heithrio, ac roeddent eisiau rhywun i siarad â nhw. Ymateb ACE oedd gwasanaeth cyfaill ffôn newydd, gan hyfforddi gwirfoddolwyr i wneud galwadau llesiant rheolaidd. “Nid yw'r llinell gymorth yn addas i bobl gael sgwrs 20 munud, felly byddwn yn cynnig galwad dilyn i fyny gyfeillgar.” Mae'n boblogaidd gyda defnyddwyr gwasanaeth a gyda gwirfoddolwyr, gan fyddino'r rhai na allant gymryd rhan yn y gweithgareddau ymarferol.

Cynigiodd ACE gefnogaeth iechyd meddwl cyn y pandemig, gan weithio gyda gorbryder ac iselder ysgafn i gymedrol. Wrth symud heibio i effaith gyntaf yr argyfwng, mae'r galw yn debygol o gynyddu. “Iechyd meddwl, chwalfa deuluol - mae sdwff wedi digwydd o ganlyniad i Covid, ond rydym bellach yn gweld yr ôl-effeithiau, yr anawsterau economaidd y mae pobl yn eu hwynebu. Ni ellir ymdrin â hynny i gyd trwy grantiau neu gludo bwyd."

Mae Sam, sy'n cydlynu'r ochr ymarferol, yn teimlo'n lwcus i weithio ochr yn ochr â thîm iechyd a llesiant penodedig. “Mae'n bwysig tu hwnt bod pobl yn bobl gyfan - nid bwyd a pheiriannau golchi'n unig y mae eu hangen arnynt. Rydym yn ceisio darparu pethau mewn ffordd gydlynol."

Un enghraifft yw'r "blwch 'nôl adref" newydd, pecyn gofal i bobl sydd wedi cael eu rhyddhau o'r ysbyty. Mae'r blwch yn cynnwys bwydydd hanfodol, pecyn gwybodaeth am wasanaethau a gynigir gan ACE a'i bartneriaid a "phethau neis: pethau ymolchi, hufen croen". Yn ogystal â chynnig rhywbeth gofalgar ar yr hyn a all fod yn amser bregus, mae'r blwch 'nôl adref yn gallu fod yn fan cychwyn i berthynas gydag ACE. “Allwn ni ddim weld nhw, allan nhw ddim ddod i'r ganolfan, felly dyma gyfle i roi gwybod i bobl beth y gallan nhw gymryd rhan ynddo. Rydym yn gobeithio pan fydd The Dusty Forge yn ailagor, y byddan nhw'n gwybod beth sydd ar gael.”

Gofalu am eich tîm

Mae siop y pantri'n cynnig yr urddas o fedru dewis, a'r cyfle i roi cynnig ar bethau newydd.

Mae Sam yn falch o'r staff a'r tîm gwirfoddolwyr. “Mae pobl wedi camu i'r adwy, dangos hyblygrwydd a thrugaredd enfawr, gan eisiau gwneud pethau'n well. Fel rheolwr, mae wedi bod yn anodd cadw trosolwg o bopeth sy'n digwydd - mae staff wedi cydio mewn pethau a bwrw 'mlaen â nhw! Nid cam yn unig ym maint y gwaith mohono, maent yn datblygu syniadau newydd, partneriaethau newydd. ‘Mae gennym bartneriaeth newydd gyda'r eglwys yma, maent yn mynd i ddechrau cludo bwyd.’ Mae wedi bod yn amgylchedd hyfryd i weithio ynddo."

Gyda chymaint o ymrwymiad, bu'n rhaid iddynt fod yn ofalus am losgi allan. “Mae'n bosib y bydd pobl yn mynd ymhell a'r tu hwnt yn ormodol! Mae'r diffyg rhyngweithio wyneb wrth wyneb, gwneud popeth dros Zoom, wedi bod yn anodd i bawb. Nid ydym yn gyfarwydd â gweithio o bell, felly mae'n newid diwylliannol mawr i ni.” Roedd gan lawer ofal plant ac ymrwymiadau eraill. “Mae pobl eisiau gwneud mwy, ond dydyn ni ddim eisiau iddynt losgi'r gannwyll yn ei deupen.”

Mae naws agored wedi bod yn hanfodol, gan ddechrau gyda thrafodaethau am gapasiti. “Cymerom gam yn ôl o rai gweithgareddau, y rhai y teimlom yr oeddent yn amhosib. Hyblygrwydd yw'r hanfod. Mae pobl yr oeddent ar ein prosiect hyfforddi bellach yn helpu gyda dosbarthu bwyd. Roedd llawer o hynny, ailgyfeirio capasiti. Cyhyd ag y cafodd hynny ei reoli'n dda, fe weithiodd yn dda.

Dechreuodd rhai o'n partneriaid, fel Gofal a Thrwsio sy'n gweithio gyda thlodi tanwydd, wirfoddoli eu hamser fel staff ar ein prosiect. Ni all staff wneud ymweliadau cartref i ymdrin â materion effeithlonrwydd ynni, felly fe wnaethon nhw bethau gwahanol. Roeddent yn bartneriaid presennol, ond newidiodd y berthynas. Roedd yn bositif iawn." Mewn rhai achosion mae perthnasoedd wedi gwella, hyd yn oed: Rydym wedi cydweithio'n llawer gwell gyda'r awdurdod lleol! Yn yr argyfwng mae wedi bod yn hynod o dda."

I Sam, mae gan arianwyr rôl bwysig wrth osgoi llosgi allan. “Maen nhw wedi bod yn barod iawn i helpu - mae'r Loteri wedi bod yn wych.” Mae'n amlygu'r hyblygrwydd sydd wedi galluogi ACE i wneud penderfyniadau yn y fan a'r lle. “Gall atebolrwydd i reolwyr ac i arianwyr fod yn ffynhonnell straen fawr ymysg staff. Ydym ni'n cyrraedd ein targedau, ydym ni'n gwneud y peth iawn gyda'r arian rydym ni'n ei dderbyn? Cawsom y teimlad yr ymddiriedwyd ynom i wneud penderfyniadau, i wneud yr hyn y mae angen ni wneud. Roedd hynny'n gymorth mawr i lesiant a morâl staff."

Mae adborth wedi bod yn hwb arall. “Mae pobl yn deall pam mae'r Dusty Forge wedi cau, ond ni allant aros iddo ailagor. Mae hynny'n neis iawn. Mae'n pwysleisio faint y mae pobl yn gwerthfawrogi'r gwaith."

I Sam, y bobl yw'r hyn sy'n gwneud The Dusty Forge beth yw e - ac maent yn awyddus i ddychwelyd. “Rydym wedi cael adborth da o ran Covid, ond byddai'n drychinebus pe byddai'n rhaid i ni weithio fel hyn am byth. Rydym yn sefydliad cymunedol, nid canolfan dosbarthu bwyd. Mae pobl yn gwerthfawrogi'r ffôn, maent yn gwerthfawrogi'r bwyd - ond nid dyna beth yw ein diben. Maen nhw eisiau cael y gofod cymunedol hwnnw eto, lle mae pobl yn dod at ei gilydd ac yn cael eu hegnïo gan ei gilydd. Rwy'n credu eu bod nhw'n teimlo'r diffyg hwnnw - yn gymdeithasol, ond hefyd oherwydd eu bod eisiau cymryd rhan wrth wneud gwahaniaeth.

Gallwch gael gwybod mwy yn ACE - Action in Caerau and Ely, neu dilynwch nhw ar Facebook, Twitter neu YouTube.

Diweddarwyd y dudalen hon ddiwethaf: 19 Awst 2020.