Adeiladu gwydnwch pobl ifanc

Pa wahaniaeth mae HeadStart yn ei wneud?

Hyder a gwydnwch

Ers i HeadStart gychwyn yn 2016, mae miloedd o bobl ifanc wedi derbyn cefnogaeth i ddod yn fwy hyderus a gwydn.

  • Erbyn haf 2019, roedd gan dros 131,000 o bobl ifanc fynediad at gefnogaeth gyffredinol HeadStart, gan gynnwys mannau diogel mewn ysgolion ac yn y gymuned a gweithgareddau adeiladu gwydnwch.
  • Mae dros 18,500 o bobl ifanc wedi mynychu o leiaf un sesiwn cefnogaeth ychwanegol, megis arweiniad a chynghori proffesiynol neu fentora gan gyfoedion.
  • Mae pobl ifanc yn dweud wrthym eu bod yn hoffi cymryd rhan a'u bod yn credu bod eu hymglymiad wedi arwain, neu y bydd yn arwain, at newidiadau cadarnhaol yn eu bywydau. (Stapley, E. (2017) HeadStart Blwyddyn 1: Canfyddiadau Gwerthusiad Ansoddol Cenedlaethol, Uned Arferion Seiliedig ar Dystiolaeth, Coleg Prifysgol Llundain)
  • Mae arweinwyr ysgol yn credu bod HeadStart yn cael effaith gadarnhaol ar wydnwch pobl ifanc oherwydd eu bod yn dysgu sgiliau bywyd hanfodol, yn cynyddu eu hunanhyder ac yn cyfranogi mwy yn y dosbarth. HeadStart Wolverhampton, (2016).

Rydym yn falch o'r cyflawniadau cychwynnol hyn ond rydym hefyd yn gwybod y bydd yn cymryd amser i werthuso'r gwasanaethau'n llawn ac i ddeall pa rai sy'n effeithiol ac effeithlon ac y dylid eu cynnal yn yr hir dymor.

Roedd y rhaglen hon yn gymorth enfawr yn cynorthwyo myfyriwr yn ystod rhai profiadau tywyll ac roedd yn rhoi rhywbeth cadarnhaol iddynt ffocysu arno mewn bywyd.
Athro, Cyngor Blackpool (2018) adroddiad blynyddol HeadStart

Newid sut rydym yn gweld ac yn ymateb i iechyd meddwl

  • Credwn fod ffocws HeadStart ar ymagwedd ysgol gyfan at lesiant yn cychwyn newid ffyrdd o feddwl ac arferion yn yr ysgolion sy'n cymryd rhan.
  • Mae HeadStart wedi arwain at well dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth o'r hyn a olygir gan wydnwch a pham mae'n bwysig.
  • Mae mwy o bobl yn gweld iechyd a lles meddyliol fel cyfrifoldeb a rennir, sy'n mynd y tu hwnt i dîm bugeiliol yr ysgol i gynnwys y gymuned gyfan.
  • Mae staff ysgolion yn teimlo mwy hyderus i adnabod a chefnogi pobl ifanc sy'n trafferthu.
Rwy'n fwy ymwybodol o'r iaith a ddefnyddir ac o ddeall y darlun mwy ar gyfer pob plentyn.
Athro, Cyngor Blackpool (2018) adroddiad blynyddol HeadStart

Cyflawni'r addewid: datblygwyd gan ac ar gyfer pobl ifanc

  • Mae cyd-gynhyrchu wedi bod yn llinyn euraidd ar draws holl agweddau HeadStart.
  • Mae pobl ifanc yn gwneud penderfyniadau am y gwasanaethau y dylid eu cynnig a phwy ddylid eu cynnig
  • Maen nhw'n cael dweud eu barn ar sut y dylid rhedeg y partneriaethau a sut y dylai eu rhedeg
  • Pobl ifanc yn cyflwyno gwasanaethau. Maen nhw wedi ymgymryd â rolau megis mentoriaid cyfoedion ac eiriolwyr llesiant, gan gael effaith gadarnhaol ar nifer o'u cyfoedion
  • Maen nhw wedi cyfrannu at ymchwil a gwerthusiad HeadStart
  • Mae pobl ifanc wedi defnyddio eu lleisiau i godi ymwybyddiaeth o faterion sy'n bwysig iddynt.
Mae pobl ifanc wedi bod yn ganolog i bopeth rydym wedi ei wneud... rydym yn gwrando arnynt, yn ymgynghori â hwy ac yn rhoi cyfrifoldeb iddynt wneud penderfyniadau am y pethau a wnawn a sut mae arian yn cael ei wario.
HeadStart Wolverhampton (2016)

Creu symudiad

  • Mae partneriaethau HeadStart yn gweithio i wneud gwydnwch pobl ifanc yn gyfrifoldeb gwlad-gyfan trwy ddod ag ysgolion a budd-ddeiliaid eraill ynghyd i gefnogi pobl ifanc.
Fel rhan o grŵp cymunedol HeadStart, credwn y gallwn wneud gwahaniaeth ar y cyd i fywydau pobl ifanc.
Aelod staff cymunedol, HeadStart Kent (2018), Adroddiad Diwedd Blwyddyn HeadStart Kent 2017/18 (heb ei gyhoeddi)

Edrych tua'r dyfodol: etifeddiaeth y tu hwnt i Raglen HeadStart

  • Mae HeadStart yn gweithredu fel catalydd ar gyfer newid lleol
  • Mae partneriaid yn trawsnewid perthnasoedd o gydweithrediadau strategol i gyd-ymdrechion i ariannu a gwella arferion.
  • Mae comisiynwyr yn ardaloedd HeadStart wedi dod ynghyd i gyd-gyflwyno gwasanaethau llesiant i bobl ifanc, weithiau am y tro cyntaf, gan helpu i wneud gwasanaethau'n fwy cydlynol
  • Mae partneriaid strategol lleol hefyd yn cychwyn gwahodd pobl ifanc a'u teuluoedd i'w helpu i lunio darpariaeth iechyd meddwl y dyfodol
  • Mae dysg gychwynnol o'r rhaglen yn cychwyn llunio arferion ehangach yn ardaloedd HeadStart
  • Ar y rheng flaen, mae cydweithio wedi arwain at rolau a strwythurau newydd, gan sicrhau bod y gefnogaeth i bobl ifanc yn amserol a bod neb yn cwympo trwy'r rhwyd.

Dysg Rhaglenni

Darllen pellach

Argymhellwn eich bod yn darllen y papur hwn ochr yn ochr â'n papur sydd ar ddod ar ddysgu sy'n amlinellu ein meddyliau cynnar ar ddysg ymarferol a seiliedig ar arferion y rhaglen hon.

Mae ein papurau yn ategu'r gwaith ymchwil a gwerthuso a wneir gan Dîm Dysgu HeadStart, dan arweiniad Canolfan Genedlaethol Plant a Theuluoedd Anna Freud.

Rydym hefyd wedi cyhoeddi nodiadau briffio ar y canlynol: A Better Start, Ageing Better a Talent Match, ynghyd â phapur yn edrych ar gyd-gynhyrchu ar draws y buddsoddiadau strategol, Cyfarfod Meddyliau: Sut mae cyd-gynhyrchu o fudd i bobl, gweithwyr proffesiynol a sefydliadau.

A oedd y papur hwn yn ddefnyddiol?

Am roi eich barn

A oedd y papur hwn yn ddefnyddiol? Hoffech chi ddarganfod mwy? A allwch chi ddefnyddio unrhyw rannau o'r dysgu yn eich gwaith eich hun?


E-bostiwch eich profiadau at: